Mae gan RWM Gadeirydd Bwrdd annibynnol newydd
Mae'r Athro Malcolm Morley OBE wedi cael ei benodi鈥檔 Gadeirydd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM)

Malcolm Morley OBE
Mae鈥檙 Athro Malcolm Morley OBE wedi cael ei benodi鈥檔 Gadeirydd Rheoli Gwastraff Ymbelydrol (RWM). Yn ystod yr hydref y llynedd, ar 么l bron 14 mlynedd yn y swydd, ymddeolodd yr Athro Morley o fod yn Brif Weithredwr Cyngor Harlow. Yn ystod ei gyfnod yno, arweiniodd y gwaith o drawsnewid y cyngor i fod yn awdurdod lleol sydd wedi llwyddo i ennill gwobrau.
Ar 么l clywed am ei benodiad, dywedodd Malcolm ei fod yn fraint iddo gael bod yn Gadeirydd RWM a鈥檌 arwain ar adeg allweddol. Nod RWM yw cynnig ateb hirdymor ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn ddiogel, a bydd hyn yn amddiffyn cenedlaethau鈥檙 dyfodol a鈥檔 hamgylchedd rhag y gwastraff y mae鈥檙 DU wedi鈥檌 greu dros y 60 mlynedd. Bydd arbenigedd nodedig RWM mewn meysydd fel gwyddoniaeth a pheirianneg, a鈥檌 ymrwymiad i ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned, yn helpu i sicrhau prosiect seilwaith fel na welsom erioed o鈥檙 blaen yn y DU, ac rwy鈥檔 falch dros ben o fod yn rhan o鈥檙 t卯m.