Cymru wledig i elwa o gyfran o becyn treialon 5G gwerth 拢65 miliwn
Gwely prawf 5G yn ne ddwyrain Cymru, CoCore, yn derbyn 拢5m yng nghyllid gan Lywodraeth y DU i gysylltu cymunedau gwledig

- Mae CoCore yn ne ddwyrain Cymru yn un o naw sydd wedi ennill cyfran o 拢35 miliwn o gyllid sydd wedi cael ei neilltuo er mwyn helpu Prydain i ddatgloi potensial 5G.
- Daw hyn wrth gadarnhau cystadleuaeth 5G newydd gwerth 拢30 miliwn ar gyfer sectorau gan gynnwys y diwydiannau creadigol
- Bydd ardaloedd gwledig yn elwa o gyfres o dreialon a gyllidir gan Lywodraeth y DU i鈥檞 helpu i fanteisio ar botensial technoleg fodern, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Digidol Oliver Dowden heddiw.
Bydd CoCore, gwely prawf 5G yn ne ddwyrain Cymru yn derbyn 拢5m yng nghyllid gan Lywodraeth y DU i gysylltu cymunedau gwledig ar draws de ddwyrain Cymru yn Sir Fynwy a Blaenau Gwent drwy ddangos sut y gall technoleg 5G fod yn rym ar gyfer da ac agor fyny cyfleoedd newydd i fusnesau a dinasyddion.
Bydd y prosiect yn cynnig atebion arloesol mewn meysydd fel twristiaeth drochi a diogelwch ffermio fel rhannau allweddol o鈥檙 economi wledig, tra鈥檔 manteisio ar dechnolegau cysylltiedig megis deallusrwydd artiffisial, y Rhyngrwyd Pethau a seiberddiogelwch fel rhan o fel rhan o 鈥榖latfform arloesi.鈥�
Bydd cyfanswm o naw prosiect ledled Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban yn derbyn cyfran o 拢35m o鈥檔 cystadlaethau 5G gwledig a diwydiannol, a chystadleuaeth agored newydd gwerth 拢30m 鈥� 5G Create - fydd yn edrych ar sut y gall 5G greu cyfleoedd newydd mewn diwydiannau gan gynnwys ffilm, teledu, gemau fideo, logisteg a thwristiaeth.
Bydd y treialon newydd hyn yn helpu i ledaenu manteision technoleg ar draws y wlad ac yn caniat谩u i鈥檙 DU gael mantais gynnar drwy ddefnyddio鈥檙 cymwysiadau newydd y gall rhwydweithiau 5G eu galluogi.
Mae hyn yn rhan o鈥檔 buddsoddiad gwerth 拢200m mewn profion a threialon ledled y DU i archwilio ffyrdd newydd y gall 5G hybu twf busnes a chynhyrchiant, gwella bywydau pobl mewn ardaloedd gwledig a gwneud y mwyaf o fuddion cynhyrchiant technolegau newydd. Bydd ein treialon arloesol hefyd yn cefnogi uchelgais y Llywodraeth i amrywio鈥檙 gadwyn gyflenwi ar gyfer seilwaith digidol yn y DU, sef un o鈥檙 argymhellion allweddol yn Adolygiad y Gadwyn Gyflenwi.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Digidol, Oliver Dowden:
Rydym yn benderfynol nad yw trefi a phentrefi yng Nghymru yn cael eu gadael ar 么l a chael y cysylltedd 5G o鈥檙 radd flaenaf sydd ei angen arnynt i ffynnu.
Gyda 拢5m o arian gan Lywodraeth y DU, bydd CoCore yn profi y gall cymunedau gwledig yng Nghymru harneisio grym technoleg 5G i drawsnewid busnesau gwledig fel amaethyddiaeth, gwella鈥檙 ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a mynd i鈥檙 afael ag unigrwydd.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddileu鈥檙 gwahaniaeth mewn cysylltiad rhwng ardaloedd trefol a gwledig ac mae鈥檔 edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg 5G i ddatblygu diwydiannau newydd, gan gefnogi ein heconomi wledig yng Nghymru. Mae cyhoeddiad heddiw yn gyfle gwych i ardaloedd gwledig Cymru roi hwb i gynhyrchiant a chapasiti eu seilwaith digidol ac mae鈥檔 rhan allweddol o鈥檔 cynlluniau i adeiladu DU sy鈥檔 addas ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters:
Rwy鈥檔 falch iawn ynghylch y buddsoddiad hwn yng Nghymru drwy Gystadleuaeth Cymunedau Cysylltiedig Gwledig. Mae鈥檙 prosiect cyffrous hwn yn cyd-fynd 芒鈥檔 huchelgais i fanteisio ar gysylltedd digidol a thechnolegau arloesol er mwyn sbarduno marchnadoedd newydd a gwella twf economaidd ar draws Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i gysylltu cymunedau. Mae seilwaith digidol a chysylltedd 5G yn gwbl allweddol ar gyfer darparu鈥檙 gwasanaethau a fydd yn creu ffyniant cymdeithasol ac economaidd.
Yr hyn a wnawn gyda 5G fydd y mesur gwirioneddol o lwyddiant. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld sut y gall y prosiect hwn, drwy ei bartneriaid blaengar fel Cisco, elwa ar fanteision y dechnoleg hon er mwyn creu effeithiau cymdeithasol ac economaidd positif yma yng Nghymru, a thu hwnt.
Mae 5G yn gallu bod hyd at ddeg gwaith yn gyflymach na 4G a bydd yn cynyddu capasiti symudol ledled y DU yn sylweddol. Mae hyn yn golygu y bydd rhagor o bobl yn gallu mynd ar-lein a dod o hyd i鈥檙 cynnwys maen nhw ei eisiau a鈥檌 lwytho i lawr heb arafu.
Ond mae 5G yn ymwneud 芒 mwy na chysylltiad cyflymach 芒鈥檙 rhyngrwyd. Mae鈥檔 defnyddio technoleg sy鈥檔 llawer mwy datblygedig na鈥檔 rhwydweithiau symudol cyfredol, felly wrth i amser fynd rhagddo gallai drawsnewid y ffordd rydym yn rhyngweithio 芒 gwasanaethau hollbwysig 鈥� o ynni a d诺r, i drafnidiaeth a gofal iechyd.
Dylai hefyd sbarduno mabwysiadu technolegau newydd megis ceir heb yrrwr, gofal iechyd o bell a鈥檙 dyfeisiau 鈥榗lyfar鈥� rydym yn eu defnyddio fwyfwy yn ein cartrefi ac yn y gwaith.
Mae鈥檙 gwerth 拢65 miliwn o gyllid newydd a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys:
- 拢30 miliwn ar gyfer y gystadleuaeth Cymunedau Cysylltiedig Gwledig ar gyfer saith prosiect ymchwil a datblygu 5G ar draws y DU. Mae hyn yn cynnwys pump yn Lloegr, un yng Nghymru ac un yn yr Alban gyda chynlluniau i ehangu i Ogledd Iwerddon. Bydd safleoedd profi yn cael eu sefydlu yn Swydd Efrog, Dyfnaint, Perth a Kinross, Gwent, Sir Fynwy, Orkney, Wiltshire, Swydd Nottingham, Dorset, Cumbria, Swydd Lincoln, Swydd Amwythig a Swydd Gaerwrangon.
- Bydd dros 拢5 miliwn o gyllid yn cael ei ddyfarnu i ddau brosiect diwydiannol er mwyn profi manteision defnyddio 5G i roi hwb i gynhyrchiant yn y sector gweithgynhyrchu.
- Mae cystadleuaeth agored newydd gwerth 拢30 miliwn - 5G Create - wedi cael ei lansio i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio 5G mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys ein sectorau creadigol fel ffilm, teledu a gemau fideo. O alluogi cynhyrchu o bell i gefnogi鈥檙 gwaith o ehangu鈥檙 byd e-chwaraeon sy鈥檔 dod yn fwy poblogaidd, gall 5G chwyldroi diwydiannau creadigol ffyniannus y DU. Bydd y gystadleuaeth 5G Create newydd yn agor yn gynnar ym mis Mawrth ac yn rhedeg tan ddiwedd mis Mehefin.