Y Bathdy Brenhinol Yn Nodi Unwchynhadledd NATO
Mae鈥檙 Bathdy Brenhinol wedi creu darn arbennig i gofio am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru ym mis Medi 2014.
Bydd 157 o鈥檙 darnau arbennig hyn yn cael eu cynhyrchu a鈥檜 rhoi i bob arweinydd byd sy鈥檔 dod i鈥檙 uwchgynhadledd i gofio鈥檙 hyn a fydd yn uwchgynhadledd hollbwysig yn nyfodol NATO.
Bydd darn hefyd yn cael ei roi i鈥檙 57 ysgol yng Nghasnewydd i gofio鈥檙 rhan arbennig mae Casnewydd yn ei chwarae yn yr uwchgynhadledd hon.
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson yn ymuno 芒 Dirprwy Faer a Maeres Casnewydd yn y Bathdy Brenhinol ym Mhont-y-clun heddiw (dydd Mercher) i weld y darn olaf yn cael ei fathu.
Bydd cadetiaid Cymreig hefyd yn ymuno 芒 nhw o bob rhan o鈥檙 lluoedd a fydd yn cynrychioli rhai o鈥檙 ysgolion a fydd yn cael y darnau. Mae鈥檙 Bathdy Brenhinol yn cyflogi dros 900 yn lleol yn Ne Cymru ac mae鈥檔 darparu鈥檙 arian ar gyfer dros 60 o wledydd ar draws y byd.
Wedi鈥檌 ddylunio gan engrafwr talentog y Bathdy Brenhinol, Jody Clark, bydd pob darn efydd, gyda diamedr o 63mm, yn dangos y map eiconig o Gymru gydag 鈥楿wchgynhadledd NATO Cymru 2014鈥� yn Gymraeg ac yn Saesneg ar un ochr, a logo NATO ar yr ochr arall. Cafodd y dyluniad ei ddatblygu drwy ddefnyddio technegau modern gyda chymorth cyfrifiadur, ac wedyn cafodd ei drosglwyddo i fodel tri dimensiwn lle cafodd ei wella cyn creu offer traddodiadol pwrpasol i fathu鈥檙 darnau arbennig i gofio鈥檙 achlysur. Byddan nhw鈥檔 cael eu cyflwyno i鈥檙 arweinwyr a鈥檜 rhoi i鈥檙 ysgolion - gyda rhai darnau鈥檔 cael eu cyflwyno鈥檔 bersonol gan gynrychiolwyr o鈥檙 uwchgynhadledd - tuag adeg yr uwchgynhadledd fis Medi yma.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Dwi wrth fy modd yn gweld y darn hwn i gofio鈥檔 cael ei fathu yn y Bathdy Brenhinol ar gyfer Uwchgynhadledd NATO fis nesaf yng Nghasnewydd.
Mae鈥檔 ffordd wych o helpu i nodi鈥檙 cynulliad mwyaf o arweinwyr y byd a welwyd erioed yn y DU ac yn ddiau bydd yn creu synnwyr cryf o falchder a chyffro mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Mae鈥檙 uwchgynhadledd hon yn gyfle enfawr i arddangos Cymru a鈥檙 cyfan sydd ganddi i鈥檞 gynnig ar y llwyfan byd eang 鈥� dwi鈥檔 ffyddiog y gallwn gyrraedd y nod.
Dywedodd Shane Bissett, Cyfarwyddwr Ceiniogau, Medalau a Bwliwn y Bathdy Brenhinol:
Rydyn ni wedi ennill enw da ac ymddiriedaeth am ddarparu ceiniogau a darnau i gofio ar gyfer brenhinoedd, breninesau a llywodraethau ers dros 1,000 o flynyddoedd, gan gynhyrchu ceiniogau Prydeinig sydd wedi cofnodi hanes, newidiadau mewn brenhinoedd, them芒u cenedlaethol a digwyddiadau pwysig.
Mae gwledydd eraill hefyd wedi ymddiried yn y Bathdy Brenhinol ers blynyddoedd i gynhyrchu eu harian nhw hefyd, ac rydym yn cyflenwi dros 60 o wledydd ar draws y byd. Mae hi鈥檔 anrhydedd mawr cael cyfle i nodi Uwchgynhadledd 2014 Cymru NATO yn y ffordd hon, a rhoi rhywbeth i arweinwyr y byd gael cofio am eu hymweliad 芒 Chymru.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales