Cyflwyno 4G cyflymach a mwy dibynadwy i gyrraedd miloedd o fusnesau ac aelwydydd ar hyd a lled Cymru wledig
Cyflwyno 4G cyflymach a mwy dibynadwy i gyrraedd miloedd o fusnesau ac aelwydydd ar hyd a lled Cymru wledig

Faster 4G for rural areas in Wales.
- Mae pobl sy鈥檔 byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru bellach yn elwa o uwchraddio rhwydweithiau symudol er mwyn darparu rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy.
- Mae saith safle wedi cael eu huwchraddio yng Ngogledd, De-orllewin a Gorllewin Cymru, gan ddod 芒 darpariaeth 4G cyflym a dibynadwy i gymunedau fel rhan o gynllun Rhwydwaith Gwledig a Rennir y llywodraeth.
- Mae鈥檙 Ysgrifennydd Technoleg a鈥檙 Gweinidog Telegyfathrebiadau yn cynnal trafodaethau ag arweinwyr diwydiant ac elusennau yng Nglynebwy i glywed sut gellir chwalu rhwystrau i gynhwysiant digidol yng Nghymru.
Bydd trefi a phentrefi gwledig ar hyd a lled Cymru yn elwa o ddarpariaeth symudol gyflymach a mwy dibynadwy ar 么l cwblhau saith prosiect a ariennir gan lywodraeth y DU i uwchraddio rhwydwaith symudol.
Heddiw (14 Tachwedd) mae llywodraeth y DU yn cyhoeddi bod saith mast 4G wedi cael eu huwchraddio yng Ngogledd, De-orllewin a Gorllewin Cymru, gan ddod 芒 chysylltedd dibynadwy i filoedd o drigolion, busnesau lleol a mudiadau cymunedol.
Mae cymunedau a busnesau gwledig yn gallu wynebu byffro parhaus a chyflymder llwytho i lawr araf wrth wneud tasgau sylfaenol ar-lein oherwydd hen rwydweithiau cysylltedd symudol. Mae hyn yn llesteirio twf economaidd rhanbarthol ac yn gallu lledu鈥檙 hollt digidol sydd rhwng cymunedau trefol a gwledig.
Bydd uwchraddio鈥檙 mastiau symudol presennol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i gau鈥檙 bwlch hwn yng Nghymru, gyda rhannau o Bont-ddu, Llanelltud, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llyn Penmaen, Tabor, Parc Cenedlaethol Eryri a Bont-goch bellach yn cael eu gwasanaethu gan ryngrwyd 4G cyflym.聽 Bydd hyn yn cysylltu ffrindiau a theulu, yn helpu鈥檙 gwasanaethau brys i achub bywydau, yn mynd i鈥檙 afael 芒 throseddu ac yn rhoi hwb i gynhyrchiant busnesau lleol 鈥� gan gefnogi cenhadaeth y Llywodraeth i chwalu rhwystrau i gyfleoedd ac i hybu twf economaidd.
Dywedodd Peter Kyle, yr Ysgrifennydd Technoleg:
O wneud cais am swyddi i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid, mae cysylltedd cyflym a dibynadwy yn rhan hanfodol o fywyd modern a dylai fod yn realiti digidol i gymunedau o Landudno i Gaerdydd, a dyna pam mae鈥檙 uwchraddio a gyhoeddwyd heddiw yn gam ymlaen i鈥檞 groesawu.
Ond ni allwn anwybyddu鈥檙 ffaith bod angen cymorth ar filiynau o bobl o ran dod i ddeall a defnyddio鈥檙 byd ar-lein. Dyna pam mae鈥檙 llywodraeth hon wedi ymrwymo i roi hwb i sgiliau digidol, ni waeth lle mae pobl yn byw, i gefnogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau hanfodol fel bancio, neu offer addysg, gan eu helpu i fwrw ymlaen 芒鈥檜 bywydau a鈥檜 gwaith.
Mae鈥檙 cyhoeddiad yn cael ei wneud wrth i鈥檙 Ysgrifennydd Technoleg Peter Kyle a鈥檙 Gweinidog Telegyfathrebiadau Syr Chris Bryant ymweld 芒 Glynebwy yn Ne Cymru heddiw i drafod sut gall Llywodraeth y DU weithio gydag elusennau a busnesau i fynd i鈥檙 afael ag allg谩u digidol, gan sicrhau bod rhagor o gymunedau gwledig yn gallu elwa ar fanteision bod ar-lein.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol a鈥檙 Gweinidog yn ymweld 芒 BGfm 鈥� gorsaf radio leol a chanolfan cynhwysiant digidol ym Mlaenau Gwent, sy鈥檔 cael ei chefnogi gan yr elusen cynhwysiant digidol Good Things Foundation 鈥� i glywed sut arall mae Llywodraeth y DU yn helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bwlch digidol ac yn cefnogi rhagor o aelodau鈥檙 cyhoedd i fynd ar-lein.
Dywedodd y Gweinidog Telegyfathrebiadau, Syr Chris Bryant:
Rydyn ni鈥檔 gweithio鈥檔 ddiflino i fynd i鈥檙 afael 芒 phryderon cysylltedd cymunedau gwledig i wneud yn si诺r bod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd y byd ar-lein.
Mae鈥檙 uwchraddio hyn yn golygu nad yw busnesau鈥檔 cael eu dal yn 么l gan gyfyngiadau eu signal symudol, bod gwasanaethau 999 mewn sefyllfa well i achub bywydau a brwydro yn erbyn troseddau, a bod trigolion a thwristiaid yn gallu mynd ar-lein wrth fwynhau cefn gwlad Cymru.
Drwy ganolbwyntio ar ddod 芒 chysylltedd digidol a mynediad i gymunedau ym mhob cwr o鈥檙 DU, byddwn yn parhau i chwalu rhwystrau i gyfleoedd a sbarduno twf economaidd.
Yn 2023, amcangyfrifir nad oedd gan 1.5 miliwn o gartrefi yn y DU gysylltiad 芒鈥檙 rhyngrwyd, sy鈥檔 golygu nad oeddent yn gallu cael gafael ar wasanaethau hanfodol yn hawdd, fel talu biliau ac edrych ar gyfriflenni banc. Mae dod 芒 chysylltedd i ardaloedd gwledig yn gam hollbwysig i helpu pobl i fynd ar-lein.
Nod Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN) llywodraeth y DU - rhaglen ar y cyd rhwng llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau symudol - yw mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bwlch gyda 26 o brosiectau uwchraddio mastiau a ariennir gan y llywodraeth bellach yn cael eu rhoi ar waith fel rhan o鈥檙 fenter. Mae鈥檔 dilyn cadarnhad y Canghellor yn y Gyllideb fis diwethaf y bydd y llywodraeth yn buddsoddi dros 拢500 miliwn y flwyddyn nesaf i sbarduno鈥檙 gwaith o gyflwyno seilwaith digidol i rannau o鈥檙 DU nad ydynt yn cael eu gwasanaethu鈥檔 ddigonol.
Mae鈥檙 prosiectau uwchraddio diweddaraf hyn ledled Cymru yn gam arall at wella darpariaeth symudol mewn ardaloedd gwledig ar draws y DU, sy鈥檔 hanfodol er mwyn cyflawni cenhadaeth y llywodraeth i chwalu鈥檙 rhwystrau i gyfleoedd. Mae 20 o鈥檙 prosiectau uwchraddio hyn yng Nghymru ac mae rhagor ar y gweill dros y misoedd nesaf.
Ym mis Awst, roedd y llywodraeth hefyd wedi llofnodi cytundeb pwysig gydag Openreach i sicrhau bod oddeutu 拢170 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth ar gael iddynt ddarparu band eang sy鈥檔 gallu delio 芒 gigabits i oddeutu 70,000 o eiddo anodd eu cyrraedd yng Nghymru, gan gynnwys rhai yn rhannau mwyaf anghysbell y wlad o Gymoedd De Cymru i Benrhyn Ll欧n.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:
Diolch i fuddsoddiad gan lywodraeth y DU, mae gan saith safle newydd yng Nghymru nawr fynediad cyflym a dibynadwy at y rhyngrwyd symudol mewn ardaloedd lle鈥檙 oedd hi鈥檔 arfer bod yn anodd anfon neges destun hyd yn oed.
Mae cysylltedd yn hanfodol i bopeth mewn bywyd bob dydd yng nghefn gwlad Cymru 鈥� o fusnes i dwristiaeth, ac yn enwedig i sicrhau bod modd cysylltu 芒鈥檙 gwasanaethau brys yn gyflym ac yn effeithlon pan fydd eu hangen.
Mae hwn yn gam pwysig ymlaen yn ein cenhadaeth i roi hwb i鈥檙 economi ac i ddatgloi cyfleoedd mewn ardaloedd gwledig ar hyd a lled Cymru.
Mae鈥檙 hwb cysylltedd symudol a gyhoeddwyd heddiw wedi cael ei wneud drwy uwchraddio mastiau symudol presennol a oedd ond yn arfer cysylltu cwsmeriaid EE ac unrhyw un a oedd yn ffonio 999, sy鈥檔 golygu bod cymunedau鈥檔 gallu elwa o well mynediad i鈥檙 rhyngrwyd symudol heb effeithiau codi mastiau newydd.
Dywedodd Ben Roome, Prif Swyddog Gweithredol Digital Mobile Spectrum Limited:
Drwy weithredu pum safle Rhwydwaith Gwledig a Rennir newydd, mae Cymru鈥檔 gweld manteision sylweddol o鈥檙 rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir, gan ddod 芒 chysylltedd a chyfleoedd gwell i鈥檞 chymunedau gwledig.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:聽
Mae鈥檙 rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir ar y trywydd iawn i gyflawni鈥檙 targed darpariaeth cyfun o 95% o ehangdir y DU erbyn diwedd 2025, gyda 94.9% o鈥檙 DU bellach o fewn cyrraedd 4G diolch i鈥檙 rhaglen (Ffynhonnell: Ofcom). Bydd rhagor o welliannau i ddarpariaeth mewn ardaloedd sy鈥檔 anoddach eu cyrraedd yn parhau i gael eu cyflawni tan ddechrau 2027. I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Gwledig a Rennir, ewch i .
Drwy鈥檙 rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir, nod llywodraeth y DU a phedwar cwmni rhwydweithiau symudol y DU yw gallu cynnig darpariaeth 4G i 280,000 eiddo ychwanegol ac 16,000km o ffyrdd y DU.聽Mae鈥檙 rhaglen hefyd yn ceisio gwella darpariaeth ddaearyddol 4G i 79% o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, i fyny o 51% cyn lansio鈥檙 rhaglen, a 74% o鈥檙 Parciau Cenedlaethol i fyny o 41%, gan ddod 芒 budd i filiynau o ymwelwyr ag ardaloedd gwledig bob blwyddyn.聽
Mae llywodraeth y DU yn buddsoddi 拢184 miliwn i uwchraddio mastiau Gwasanaeth Maes Estynedig (EAS) i gynnig darpariaeth gan y pedwar cwmni symudol. Ar hyn o bryd, dim ond gan EE y mae darpariaeth fasnachol ar gael o fastiau EAS 鈥� y gweithredwr sy鈥檔 gyfrifol am y Rhwydwaith Gwasanaethau Brys.
DSIT media enquiries
Email [email protected]
Monday to Friday, 8:30am to 6pm 020 7215 3000