Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru yn croesawu 100 o westeion i鈥檙 Sesiwn Wybodaeth Flynyddol
Roedd y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru wedi croesawu tua 100 o westeion i鈥檞 Sesiwn Wybodaeth Flynyddol.

Group of speakers at RFCA for Wales' annual briefing 2024. Copyright: RFCA for Wales.
Cynhaliwyd y digwyddiad nos Iau 24 Hydref yn HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd, ac roedd cynulleidfa amrywiol yn bresennol gan gynnwys aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, sefydliadau partner, cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Y siaradwr gwadd oedd yr Athro Simon Denny BA MA PhD, cyn Ddeon Gweithredol ym Mhrifysgol Northampton a phrif awdur adroddiad annibynnol newydd pwysig sy鈥檔 dathlu effaith gadarnhaol y Lluoedd Cadetiaid ar bobl ifanc, ar oedolion sy鈥檔 gwirfoddoli ac ar gymdeithas drwyddi draw yng Nghymru.
Cyflwynwyd safbwynt y Cadetiaid gan yr Hyfforddwr Sarjant Ehsan Iqbal o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys, yr Is-swyddog Jessica Flynn o Gorfflu Cadetiaid M么r Abertawe a鈥檙 Swyddog Gwarant Cadetiaid Ioan Osbourne o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.
Roedd y siaradwyr eraill yn cynnwys y Cyrnol Lefftenant Dafydd Evans, Swyddog Rheoli, 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol a roddodd amlinelliad difyr dros ben o gyfraniad y bataliwn yn yr Ymarfer Steadfast Defender.
Rhoddodd Simon Ellis, Partner a Phennaeth yr Adran Filwrol, cyfreithwyr Hugh James safbwynt y cyflogwr.
Cafwyd cyflwyniad arbennig hefyd ar ran Ymddiriedolaeth Ulysses ar gyfer taith cadetiaid gorau Tywysog Cymru yn 2023 i gydnabod taith oes a wnaed gan gr诺p o gadetiaid y fyddin i Dde Affrica.
Rhoddodd Cadeirydd cyntaf y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru y Brigadwr Russ Wardle OBE DL a鈥檙 Prif Weithredwr y Cyrnol Dominic Morgan OBE ddiweddariad am y flwyddyn ddiwethaf gan edrych yn 么l ar lwyddiannau鈥檙 ysgrifenyddiaeth.
Fe wnaethon nhw s么n am fanylion allbynnau prif bileri y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru sef Cadetiaid, Milwyr Wrth Gefn, Ystadau ac Ymgysylltu.
Cafodd y digwyddiad ei arwain gan gyflwynydd newyddion ITV Andrea Byrne.