Stori newyddion

拢18 biliwn y flwyddyn i Gymru yn y Gyllideb

Mae Cyllideb yr Hydref 2021 yn darparu'r setliad ariannu blynyddol mwyaf i Gymru ers datganoli, gan helpu i gynyddu ar draws y DU gyfan.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
The cover of the Autumn Budget and Spending Review 2021
  • Bydd Llywodraeth y DU yn darparu 拢18 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru - y swm uchaf eto.
  • Bydd Cymru hefyd yn elwa ar gymorth i鈥檙 DU gyfan ar gyfer pobl a busnesau, swyddi gwyrdd a buddsoddiad i gynyddu cyfleoedd.
  • Bydd cyllid wedi鈥檌 dargedu yn cefnogi prosiectau lleol ledled Cymru, gan gynnwys gwella ffyrdd a seilwaith, buddsoddi mewn cymunedau lleol, yn ogystal 芒 chyllid i fusnesau.

Heddiw, cyhoeddodd y Canghellor gyllid Barnett gwerth 拢18 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru 鈥� y setliad cyllid blynyddol mwyaf ers dechrau datganoli dros 20 mlynedd yn 么l. Mae hyn yn cynnwys hwb gwario o 拢2.5 biliwn y flwyddyn fel rhan o Adolygiad o Wariant a Chyllideb sy鈥檔 sicrhau economi gryfach i鈥檙 DU gyfan.

Amlinellodd Rishi Sunak gynllun i gyflawni blaenoriaethau pobl Prydain drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus cryfach, cynyddu cyfleoedd, sbarduno twf busnesau, a helpu teuluoedd sy鈥檔 gweithio i dalu costau byw.

Fel rhan o鈥檙 cynlluniau gwario sylweddol, bydd Cymru鈥檔 cael cyfartaledd o 拢18 biliwn y flwyddyn drwy gyllid Barnett, sy鈥檔 gynnydd o 2.6% yng nghyllideb Llywodraeth Cymru bob blwyddyn. Bellach bydd Llywodraeth Cymru鈥檔 cael tua 拢120 y pen am bob 拢100 y pen o wariant cyfatebol Llywodraeth y DU yn Lloegr.

Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

Dyma gyllideb i鈥檙 DU gyfan. Rydyn ni鈥檔 canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl Prydain 鈥� iechyd eu hanwyliaid, mynediad at wasanaethau cyhoeddus sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd, swyddi ar gyfer y dyfodol, a mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 newid yn yr hinsawdd.

Mae 拢2.5 biliwn yn ychwanegol o gyllid Barnett bob blwyddyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian i gyflawni ei holl gyfrifoldebau datganoledig, a bydd pobl Cymru hefyd yn elwa ar ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfleoedd a chyflawni ar gyfer pob rhan o鈥檙 DU.

Rydyn ni鈥檔 parhau i roi hwb i ddiwydiant a swyddi, yn ogystal 芒 gwella seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hon yn gyllideb wych i Gymru. Mae鈥檔 darparu buddsoddiad sylweddol yn uniongyrchol i bobl, i fusnesau ac i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

Bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael ei setliad mwyaf erioed er mwyn gallu darparu ei gwasanaethau hollbwysig fel iechyd, addysg ac amddiffyn rhag llifogydd, a bydd Cymru鈥檔 elwa鈥檔 llawn ar lawer o鈥檔 mesurau ar gyfer y DU gyfan, gan gynnwys rhewi鈥檙 dreth tanwydd ac alcohol, y cynnydd yn yr isafswm cyflog i filoedd o weithwyr, a buddsoddiad mewn parciau a chyfleusterau chwaraeon.

Mae codi鈥檙 gwastad mewn cymunedau ar hyd y DU ar frig ein hagenda. Mae buddsoddi dros 拢120m mewn 10 prosiect, gan gynnwys adfywio glan y m么r Aberystwyth, a gwella鈥檙 cysylltiadau trafnidiaeth yn y Rhondda, yn dangos sut byddwn yn gwireddu鈥檙 uchelgais hon ym mhob cwr o Gymru.

Yn ogystal ag ariannu Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, mae鈥檙 mesurau hyn a rhai eraill yn yr Adolygiad o Wariant yn cynrychioli pecyn ardderchog i Gymru a鈥檌 heconomi.

Cyllid wedi鈥檌 dargedu yng Nghymru

Ar ben y cyllid i Lywodraeth Cymru, bydd Cymru鈥檔 elwa ar ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn pobl, swyddi, cymunedau a busnesau.

Mae鈥檙 prosiectau wedi鈥檜 targedu yng Nghymru yn cynnwys:

  • Buddsoddi dros 拢168m yng Nghymru i roi hwb i鈥檙 adferiad ar 么l y pandemig ac i dyfu economi Cymru, gan gynnwys:
  • Buddsoddi 拢121 miliwn o Gronfa Codi鈥檙 Gwastad mewn 10 prosiect, gan gynnwys adfywio Traphont Dd诺r Pontcysyllte a Safle Treftadaeth y Byd y Gamlas, gwaith deuoli pwysig ar yr A4119 yn ne Cymru, ac ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.
  • Dros 拢460,000 o鈥檙 Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i dri phrosiect yn Llandwrog, Pen-y-waun a Thredegar er mwyn diogelu asedau cymunedol gwerthfawr.
  • Darparu 拢0.9 miliwn i ffermwyr a rheolwyr tir, a 拢6.2 miliwn i gefnogi pysgodfeydd.
  • Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru, a fydd yn gweithio i wella bywyd a chyfleoedd cymuned cyn-filwyr Cymru.
  • Hyd at 拢50,000 i ddatblygu cynnig cam cynnar i adfer gwasanaethau tr锚n i deithwyr o Gaerwen i Amlwch.
  • Cyflymu 拢105m ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i roi prosiectau ar y llwybr carlam 鈥� o arloesi a thechnoleg ariannol i weithgynhyrchu a seilwaith.
  • Sefydlu canolfan fasnach a buddsoddi newydd yng Nghaerdydd er mwyn rhoi hwb i fasnach Cymru. Cymorth i鈥檙 DU gyfan

Diolch i鈥檔 Teyrnas Unedig gref, bydd Cymru鈥檔 elwa ar y canlynol:

  • Gostyngiad o 50% yn y Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau awyr rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a 拢22.5 miliwn yn ychwanegol o gyllid newydd cyn argymhellion yr Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb, lle byddwn yn gweithio gyda鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig i wella cysylltedd y DU gyfan.
  • Cyllid newydd i Fanc Busnes Prydain er mwyn sefydlu cronfa 拢130 miliwn yng Nghymru, gan helpu busnesau yng Nghymru i gael y cyllid sydd ei angen arnynt.
  • Y Gronfa Fuddsoddi Prydain Fyd-eang newydd, gwerth 拢1.4 biliwn, a fydd yn cefnogi buddsoddiad uniongyrchol yng Nghymru.
  • 拢20 biliwn erbyn 2024-25 mewn ymchwil a datblygu, gan gefnogi arloesi yng Nghymru.
  • Cadarnhad y bydd cyfanswm y cyllid yn cyfateb i faint Cyllid yr UE yng Nghymru bob blwyddyn o leiaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gwerth 拢2.6bn, a fydd yn buddsoddi mewn sgiliau, pobl, busnesau a chymunedau, gan gynnwys drwy 鈥楳ultiply鈥�, rhaglen rifedd newydd i oedolion a fydd yn cyflenwi pobl ledled Cymru 芒 sgiliau rhifedd hanfodol.
  • 拢120 miliwn ar gyfer Cronfa Galluogi Niwclear y Dyfodol newydd i gefnogi prosiectau niwclear. Mae Wylfa yn Ynys M么n yn safle posibl.
  • Dewis clwstwr HyNet fel un o鈥檙 clystyrau cyntaf o dan Gronfa Fuddsoddi Dal, Defnyddio a Storio Carbon, gan ddenu buddsoddiad i ogledd Cymru.
  • Cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i 拢9.50 yr awr, a chynnydd i bobl ifanc a phrentisiaid hefyd.
  • Rhewi鈥檙 dreth tanwydd am y ddeuddegfed flynedd yn olynol, yn ogystal 芒 rhewi鈥檙 dreth alcohol a鈥檙 dreth car ar gyfer cerbydau nwyddau trwm.
  • 拢140 miliwn i ddarparu cymorth refeniw ar gyfer cynhyrchu hydrogen, gan gynnwys Hwb Hydrogen Caergybi, a chwmn茂au diwydiannol trwm ledled y DU sy鈥檔 dal, yn defnyddio ac yn storio carbon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Hydref 2021 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.