Derbyniad i ddangos y gorau o Cymru o flaen Uwchgynhadledd NATO
Prif Weinidog Cymru ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gynnal digwyddiad i hybu busnesau Cymru, addysg a twristiaeth.

Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones a鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb yn cynnal derbyniad heddiw (dydd Iau, 28 Awst) i ddangos y gorau o fyd busnes, addysg a thwristiaeth yng Nghymru ar drothwy Uwchgynhadledd NATO.
Disgwylir gweld rhagor na 200 o westeion gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau a diwydiannau creadigol Cymru yn ogystal 芒鈥檙 cyfryngau tramor yn y derbyniad a gynhelir yn y Swyddfa Dramor yn Llundain.
Ynghyd 芒 chlywed anerchiadau鈥檙 ddau weinidog, caiff y gwesteion gyfle i weld delweddau鈥檙 ymgyrch 鈥榃ales is GREAT鈥� a sut mae鈥檙 ddwy lywodraeth yn hyrwyddo Cymru dramor gan ddefnyddio鈥檙 rhwydwaith o lysgenadaethau, conswlaethau ac uchel-gomisiwnau sydd gan y Deyrnas Unedig.
Bydd rhai o gynnyrch gorau Cymru hefyd yn cael eu harddangos yn y digwyddiad, gan gynnwys gwin o Winllan White Castle yn Sir Fynwy a sudd afal o Welsh Farmhouse yng Ghrughywel. Bydd arlwyo yn cael ei ddarparu gan y Welsh Culinary Association
Meddai鈥檙 Prif Weinidog, Carwyn Jones:
Dyma gyfle inni ddangos pam mae Cymru鈥檔 wlad cystal i ymweld ac i fasnachu 芒 hi ac i fuddsoddi ac astudio ynddi. Rydyn ni鈥檔 manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru ac i ganu鈥檔 clodydd dramor. Mae Uwchgynhadledd NATO yn gyfle rhagorol inni wneud hynny.
Rydyn ni newydd gyhoeddi鈥檙 ffigurau gorau erioed ers inni ddechrau gadw cofnodion 30 mlynedd yn 么l am fusnesau tramor sy鈥檔 buddsoddi yng Nghymru, gan greu a diogelu mwy na 10,000 o swyddi. Ac mae鈥檙 ffigurau allforio diweddaraf yn dangos mai Cymru o bedair gwlad Prydain welodd y cynnydd mwyaf yn ei hallforion.
O ran twristiaeth hefyd, mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn dangos bod Cymru鈥檔 gwneud yn dda o ran niferoedd yr ymwelwyr. Yn ystod tri mis cynta鈥檙 flwyddyn, roedd tripiau i Gymru i fyny 3.2% o鈥檜 cymharu 芒 llynedd 鈥� sefyllfa wahanol i sawl rhan arall o鈥檙 DU.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb:
Mae cyfleoedd aruthrol yng Nghymru ar gyfer twristiaeth, addysg a buddsoddi mewn busnesau. Mae gennym enw da trwy鈥檙 byd am weithgynhyrchu, arloesi, gwyddorau bywyd, seiber-dechnolegau ac awyrofod ac rydym yn mentro i farchnadoedd newydd bob blwyddyn.
Diolch i Uwchgynhadledd NATO, mae mwy o lygaid y byd ar Gymru nawr nag a fu erioed o鈥檙 blaen. Mae鈥檔 gyfle unwaith mewn oes i ddangos i鈥檙 byd y gorau sydd gennym. Mae heddiw鈥檔 enghraifft ohonom yn gweithio i sicrhau bod Cymru鈥檔 medi鈥檙 gorau posibl o鈥檙 Uwchgynhadledd.
Mae gennym ddigwyddiadau eraill yn yr arfaeth, fel y gynhadledd fuddsoddi ym mis Tachwedd, fydd yn rhan o waddol yr Uwchgynhadledd. Rydym yn gwneud popeth i wneud yn si诺r bod gan Gymru yr hyn sydd ei hangen arni i gystadlu 芒鈥檙 byd.
Mae鈥檙 derbyniad hefyd yn dod diwrnod o flaen 鈥淒iwrnod Cymru鈥�, ymgyrch undydd gan gyfryngau digidol y DU, llysgenadaethau, cenhadon ac uwch gomisiynau ar 1 Medi i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a busnes cyn Uwchgynhadledd NATO ar 4 a 5 Medi.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales