Hwb o 拢750 miliwn i'r gyllideb yng Nghymru
Cyhoeddwyd ymestyniadau i gynlluniau cymorth ledled y DU gan y Canghellor hefyd.

- Bydd pobl a busnesau yng Nghymru yn elwa o ymestyn cynlluniau cymorth Covid-19
- Mae鈥檙 Canghellor wedi cyhoeddi 拢740 miliwn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru
- Mwy na 拢130 miliwn o fuddsoddiad i sbarduno adferiad gwyrdd a chyflymu鈥檙 gwaith o greu bron i 13,000 o swyddi
Bydd miliynau o deuluoedd a busnesau ledled Cymru yn parhau i gael eu cefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gyllideb sy鈥檔 鈥榙iwallu anghenion y presennol鈥�, meddai鈥檙 Canghellor heddiw.
Wrth siarad yn Nh欧鈥檙 Cyffredin heddiw, nododd Rishi Sunak gynllun tair rhan sy鈥檔 diogelu swyddi a bywoliaeth pobl drwy gam nesaf yr argyfwng, yn dechrau ar y gwaith o adeiladu ein heconomi ar gyfer y dyfodol, ac yn dechrau atgyweirio cyllid cyhoeddus pan fyddwn ar y llwybr tuag at adfer.
Fel rhan o gam nesaf Cynllun Swyddi Llywodraeth y DU, cyhoeddodd y byddai鈥檙 cynlluniau cymorth huangyflogaeth a ffyrlo yn cael eu hymestyn tan ddiwedd mis Medi, ochr yn ochr ag estyniad o chwe mis i鈥檙 拢20 o gynnydd yn y Credyd Cynhwysol, taliad untro o 拢500 i hawlwyr Credyd Treth Gwaith cymwys, ac eithriadau treth incwm sy鈥檔 gysylltiedig 芒 Covid-19 i weithwyr.
Fe wnaeth y Canghellor hefyd ymestyn y gostyngiad TAW ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch, a rhoi hwb o 拢740 miliwn i Gymru, gyda chyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy fformiwla Barnett.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hon yn gyllideb wych i Gymru. Yn ogystal 芒 pharhau i ddiogelu swyddi a bywoliaeth cannoedd ar filoedd o bobl drwy鈥檙 pandemig, mae鈥檙 Canghellor wedi dangos bod Llywodraeth y DU yn ailgodi鈥檔 gryfach ac yn fwy gwyrdd a bod Cymru鈥檔 ganolog i鈥檙 cynlluniau hynny.
Bydd parhad y cymorth i fusnesau, pobl hunangyflogedig a鈥檙 ffyrlo, y cynnydd mewn Credyd Cynhwysol, y gostyngiad mewn TAW ar letygarwch, a rhewi鈥檙 dreth tanwydd yn rhoi sicrwydd hanfodol i bobl a busnesau yng Nghymru yn y misoedd i ddod, tra bydd cyhoeddiadau Canolfan Ragoriaeth y Rheilffyrdd, yr hyb hydrogen a buddsoddi mewn bargeinion twf yn dod 芒 miloedd o swyddi medrus, gan sefydlu lle Cymru fel canolfan ar gyfer arloesi a diwydiannau鈥檙 dyfodol.
Fel y gwelsom dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cryfder y Deyrnas Unedig yn bwysicach nag erioed i Gymru a byddwn yn parhau i ddarparu brechlynnau, profion Covid a chymorth gan y Lluoedd Arfog sy鈥檔 allweddol er mwyn codi cyfyngiadau ac ailagor economi Cymru. Mae鈥檙 Gyllideb heddiw yn cyflawni ar gyfer pob rhan o Gymru ac yn braenaru鈥檙 tir ar gyfer yr amseroedd gwell sydd o鈥檔 blaenau.
Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:
Drwy gydol y pandemig, mae Llywodraeth y DU wedi camu i鈥檙 adwy i gefnogi bywydau a bywoliaeth miliynau o bobl ledled Cymru.
Mae鈥檙 Gyllideb yn atgyfnerthu鈥檙 gefnogaeth honno 鈥� gan sicrhau bod ein Cynllun Swyddi yn parhau drwy gam nesaf ein hadferiad.
Rydym hefyd yn buddsoddi miliynau yn nhrefi a dinasoedd Cymru, seilwaith allweddol a diwydiannau gwyrdd a fydd yn hanfodol i dwf economaidd hirdymor.
Roedd y Gyllideb hefyd yn edrych tua鈥檙 dyfodol gyda bron i 拢93 miliwn o fuddsoddiad er mwyn sbarduno adferiad gwyrdd a chyflymu鈥檙 gwaith o greu bron i 13,000 o swyddi.
Roedd yn cynnwys:
- Cyllid wedi鈥檌 gyflymu ar gyfer Bargeinion Dinesig a Thwf Bae Abertawe, Gogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Bydd cyflymu鈥檙 bargeinion hyn yn helpu i gyflawni prosiectau鈥檔 gyflymach, yn creu hyd at 12,800 o swyddi newydd ac yn cefnogi cynnydd o dros 拢3.3 biliwn i鈥檙 econom茂au rhanbarthol.
- 拢4.8m yn 2021-22 ar gyfer Hyb Hydrogen Caergybi: prosiect arddangos hydrogen gwyrdd a fydd yn creu 30 o swyddi gwyrdd medrus ar Ynys M么n, yn cefnogi 500 o swyddi鈥檔 anuniongyrchol, ac yn dod 芒 rhagor o fuddsoddiad i鈥檙 ardal.
- Hyd at 拢30m i adeiladu Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot, a fydd yn arwain at hyd at 120 o swyddi medrus yn y cyfleuster profi seilwaith a rheilffyrdd newydd.
Er mwyn diogelu swyddi, gwella cynhyrchiant a sicrhau bod Cymru鈥檔 parhau i fod yn gystadleuol, amlinellodd y Canghellor hefyd fuddsoddiad lleol uniongyrchol mewn trefi a chymunedau ledled y DU, er mwyn gwella canol trefi, y stryd fawr, trafnidiaeth leol ac asedau diwylliannol drwy鈥檙 Gronfa Codi Lefel gwerth 拢4.8 biliwn, y Gronfa Perchenogaeth Gymunedol ledled y DU, a鈥檙 Gronfa Adnewyddu Cymunedol.
Bydd y dreth tanwydd hefyd yn cael ei rhewi am yr 11eg flwyddyn yn olynol, tra bydd y tollau ar alcohol yn cael eu rhewi yn gyffredinol 鈥� am y trydydd tro yn unig mewn 20 mlynedd, gan arbed 拢1.7 biliwn i yfwyr alcohol. Bydd hyn yn arbed 2c oddi ar beint o gwrw arferol yng Nghymru.
Fel rhan o鈥檙 nod o wneud Cymru鈥檔 brif gyrchfan ar gyfer masnach a buddsoddi, mae鈥檙 Llywodraeth yn parhau i weithio鈥檔 adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu o leiaf un Porth Rhydd yng Nghymru, a fydd yn sianelu buddsoddiad newydd i adfywio cymunedau.
Bydd busnesau Cymru hefyd yn elwa o gynlluniau ledled y DU i fuddsoddi yn nyfodol cwmn茂au 鈥� o鈥檙 cychwyn i鈥檙 broses uwchraddio.
Bydd y cynllun newydd, Cymorth i Dyfu, yn rhoi hwb i hyd at 130,000 o gwmn茂au ledled y DU gyda materion digidol a rheoli, a bydd cronfa gwerth 拢375 miliwn ledled y DU, 鈥楩uture Fund: Breakthrough鈥�, yn cefnogi cwmn茂au arloesol iawn fel y rheini sy鈥檔 gweithio mewn gwyddorau bywyd, cyfrifiadura cwantwm, neu dechnoleg l芒n, sy鈥檔 ceisio codi o leiaf 拢20 miliwn o gyllid.
Bydd cynlluniau i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn brif gyrchfan ar gyfer talent a buddsoddiad yn arwain at ddiwygio鈥檙 system fewnfudo er mwyn helpu busnesau uchelgeisiol yn y DU i ddenu鈥檙 doniau rhyngwladol gorau a mwyaf disglair, a lansio鈥檙 bond arbedion gwyrdd cyntaf yn y byd ar gyfer buddsoddwyr adwerthu, gan ganiat谩u i gynilwyr helpu i yrru鈥檙 broses o drawsnewid y wlad i fod yn un sero net.
Newyddion da i gefnogwyr chwaraeon; cyhoeddodd y Canghellor 拢2.8 miliwn i gefnogi cais Cwpan y Byd 2030 y DU ac Iwerddon, a buddsoddiad o 拢25 miliwn mewn chwaraeon ar lawr gwlad sy鈥檔 ddigon ar gyfer 700 o gaeau/lleiniau newydd ledled y DU.
Mae鈥檙 cymorth Covid-19 a ddarparwyd yng Nghymru hyd yma yn cynnwys:
- bron i 400,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu gwarchod gan y CJRS *295,000 o hawliadau wedi cael eu gwneud drwy鈥檙 SEISS yng Nghymru
- dros 拢2bn wedi鈥檌 fenthyca i dros 57,000 o fusnesau yng Nghymru drwy BBLS a CBILS