Araith y Frenhines yn canolbwyntio ar economi gryfach a chymdeithas decach.
David Jones: 鈥淢ae鈥檙 rhaglen ddeddfwriaethol hon yn ategu ein hymrwymiad i wella bywydau pobl yng Nghymru a ledled y DU.鈥�

Wales Office
Wrth gyfeirio at raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf a gyhoeddwyd gan Ei Mawrhydi鈥檙 Frenhines heddiw (4 Mehefin 2014), dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:
Mae鈥檙 rhaglen a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines heddiw yn pwysleisio ymrwymiad y llywodraeth i鈥檔 cynllun economaidd tymor hir i adeiladu cymdeithas gryfach a thecach.
Ein tair blaenoriaeth ar gyfer pedwerydd tymor y rhaglen ddeddfwriaethol yw:
-
twf economaidd a lleihau鈥檙 diffyg
-
diwygio cymdeithasol
-
cyfiawnder ac atal troseddau
Mae鈥檙 rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys 11 Bil a 3 Bil drafft.
Mae hefyd yn cynnwys pum Bil sy鈥檔 trosglwyddo o鈥檙 sesiwn ddiwethaf, gan gynnwys Bil Cymru a fydd yn datganoli pwerau newydd yngl欧n 芒 threthiant i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru.
Dywedodd David Jones AS:
Fel llywodraeth rydym ni wedi dangos nad oes gennym ofn gwneud penderfyniadau anodd o ran lleihau鈥檙 diffyg a thyfu鈥檙 economi.
Drwy gyflawni twf cynaliadwy a arweinir gan y sector preifat, byddwn yn parhau i adfer yr economi a oedd ar ei gliniau a etifeddwyd gennym.
Bydd ein pedwaredd raglen ddeddfwriaethol seneddol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ledled y Deyrnas Unedig.
Bydd y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth yn caniat谩u i fusnesau bach gael gafael ar y cyllid y mae arnynt ei angen i dyfu ac i leihau biwrocratiaeth, gan wneud y DU yn lle mwy deniadol i gychwyn a datblygu busnes.
Bydd y Bil Treth Pensiynau a鈥檙 Bil Pensiynau Preifat yn ddatblygiad arloesol yn y farchnad pensiynau preifat, gan ddarparu mwy o ddewis i鈥檙 rheini sy鈥檔 arbed arian ar gyfer ymddeol a rhoi mwy o ryddid i unigolion o ran y ffordd y maent yn cael mynediad at fuddion eu pensiynau.
Bydd y Taliadau Gofal Plant yn helpu teuluoedd sy鈥檔 gweithio gyda chostau gofal plant. Bydd y Bil yn cyflwyno cynllun sy鈥檔 darparu cymorth i deuluoedd sy鈥檔 gweithio gyda chostau gofal plant cymwys, hyd at uchafswm o 拢2,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn.
Bydd y Bil Caethwasiaeth Fodern yn cryfhau鈥檙 pwerau sy鈥檔 bodoli i atal caethwasiaeth a masnachu pobl, gan wella鈥檙 gefnogaeth i ddioddefwyr y fath droseddau.
Bydd y Bil Troseddau Difrifol yn cryfhau pwerau鈥檙 heddlu i atal troseddau difrifol a throseddau trefnedig, yn ogystal 芒 chyflwyno mwy o bwerau i fynd i鈥檙 afael ag esgeuluso plant.
Bydd y Bil Seilwaith yn gwarantu buddsoddiad tymor hir mewn seilwaith ac yn gwella cystadleurwydd economaidd.
Bydd y Bil Lluoedd Arfog (Cwyno am y Gwasanaeth a Chymorth Ariannol) yn gwella鈥檙 drefn gwyno yn y Lluoedd Arfog drwy greu ombwdsmon.
Mae鈥檙 Bil Gweithredu Cymdeithasol, Cyfrifoldeb a Gwroldeb yn golygu os bydd person yn gwneud rhywbeth gwrol, cyfrifol neu er budd pobl eraill, bydd hyn yn cael ei ystyried gan y llysoedd.
Drwy Fil Cymru, rydym yn parhau gyda deddfwriaeth i roi mwy o bwerau i鈥檙 Cynulliad a Llywodraeth Cymru dros drethiant a buddsoddi.
Mae鈥檙 rhaglen ddeddfwriaethol yn ategu ein hymrwymiad i wella bywydau pobl yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.