Stori newyddion

Darparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg

Mynediad rhwydd at wasanaethau GLlTEM i siaradwyr Cymraeg

Image of Welsh flag

Mae鈥檙 Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru (ynghyd 芒鈥檙 Saesneg) ac mae鈥檔 cael ei gwarchod gan ddeddfwriaeth. Yn rhinwedd ein r么l yn gweinyddu鈥檙 llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, mae cyfrifoldeb arnom i drin y Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn gyfartal. Nid dim ond siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg mae hyn yn ei olygu, ond cefnogi diwylliant Cymru hefyd. Rydym yn cyflawni gwaith arloesol ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y cyswllt hwn, gwaith sy鈥檔 cael ei arwain gan Uned yr Iaith Gymraeg yng Nghaernarfon.

Meddai Susan Acland-Hood, Prif Weithredwr GLlTEM:

Rydyn ni鈥檔 deall yn glir bod cyfrifoldeb arnom i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon uchel a bod gan siaradwyr Cymraeg hawl i ddisgwyl y gwasanaethau hynny a chael mynediad atynt yn rhwydd. Nid yw hwn yn fater i lysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru yn unig, ond i dimau ledled Cymru a Lloegr sy鈥檔 darparu gwasanaeth cenedlaethol hefyd. Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith i gefnogi hyn ac mae llawer mwy i鈥檞 wneud. Rydw i am i siaradwyr Cymraeg fod yn hyderus yn defnyddio ein gwasanaethau ac fe hoffwn eu sicrhau, os byddant yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, na fydd unrhyw wahaniaeth o ran ansawdd y gwasanaeth rydyn ni鈥檔 ei ddarparu na鈥檜 profiad o gael mynediad teg a chyfartal at gyfiawnder.

Meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:

Mae gan bobl Cymru bellach hawl i ddefnyddio鈥檜 Cymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus, ac mae鈥檙 Gwasanaeth Llysoedd yn un o鈥檙 sefydliadau hynny. O ran eu cryfderau, mae鈥檙 gwaith maent wedi ei wneud yn cynnwys y Gymraeg o鈥檙 dechrau wrth ddigideiddio gwasanaethau yn arfer dda yr ydym wedi ei rhannu gyda sefydliadau eraill. Maent hefyd wedi gwneud gwaith da yn codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg yn fewnol a chyfrif Cymraeg Twitter bywiog, sy鈥檔 annog defnydd o鈥檜 gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pum peth rydyn ni鈥檔 ei wneud i gefnogi鈥檙 iaith Gymraeg

  1. Rydym wedi adolygu ac ailgyhoeddi ein Cynllun Iaith Gymraeg dolen i鈥檙 ddogfen newydd ar 么l iddi gael ei chyhoeddi. Mae hwn yn nodi egwyddorion clir o ran trin y Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn gyfartal.

  2. Mae modd cael mynediad at nifer o鈥檔 gwasanaethau ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg eisoes, gan gynnwys:

  3. Mae gennym ni amryw o linellau ff么n pwrpasol y gall pobl eu defnyddio i gael mynediad at gymorth ac arweiniad yn y Gymraeg. Bydd unrhyw un sy鈥檔 ffonio鈥檙 rhain yn cael siarad 芒 rhywun Cymraeg yn syth, heb orfod siarad yn Saesneg yn gyntaf na gorfod dewis y Gymraeg fel opsiwn eilaidd. Mae鈥檙 llinell ff么n bwrpasol yma yn rhoi鈥檙 Gymraeg yn gyntaf.

  4. Gellir ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn y llys neu mewn gwrandawiadau yn y tribiwnlys. Os byddwch yn gofyn am gael siarad Cymraeg yn eich achos, ni fydd hyn yn gohirio鈥檙 achos nac yn cael unrhyw effaith ar yr achos na鈥檌 ganlyniad.

  5. Byddwn yn darparu ein gwasanaethau llys diwygiedig yn Gymraeg hefyd. Drwy ein rhaglen i ddiwygio鈥檙 llysoedd, rydym yn datblygu ystod ehangach o wasanaethau ar-lein. Yn 2018, fe wnaethom lansio nifer o鈥檙 rhain, gan gynnwys gwasanaethau ysgariad, profiant, a hawliadau arian sifil ar-lein. Mae gwaith ar y gweill i gyfieithu鈥檙 rhain i鈥檙 Gymraeg er mwyn galluogi pobl i ddewis cyflawni prosesau ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg o ddechrau鈥檙 broses.

Chwalu mythau am yr iaith Gymraeg

Meddai Hywel Hughes, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg GLlTEM:

Mae cyfiawnder, yn y pen draw, yn seiliedig ar gyfathrebu ac mae鈥檔 hanfodol bwysig bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad at gyfiawnder drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn cymryd ein rhwymedigaethau o dan y Cynllun Iaith Gymraeg o ddifrif, ond rydym wedi gweld bod nifer o fythau am yr iaith Gymraeg o gwmpas ac rydym yn awyddus i chwalu鈥檙 rheini.

Mae gan y Gymraeg statws gwahanol i ieithoedd (tramor) eraill

Mae鈥檙 Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru (ynghyd 芒鈥檙 Saesneg) ac mae鈥檔 cael ei gwarchod gan ddeddfwriaeth. Mae gan bobl Gymraeg sy鈥檔 defnyddio gwasanaethau GLlTEM hawl i ddefnyddio鈥檙 iaith Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol bod sefydliadau鈥檙 sector gyhoeddus yn cyhoeddi Cynlluniau Iaith Gymraeg ac fe sefydlwyd r么l Comisiynydd y Gymraeg yn sgil Mesur y Gymraeg 2011. Fe wnaeth hyn gadarnhau statws y Gymraeg yng Nghymru a phennu set o safonau y mae鈥檔 rhaid eu dilyn.

Mae鈥檙 Gymraeg yn iaith fyw

O鈥檙 (oddeutu) 6,000 o ieithoedd sy鈥檔 y byd, dim ond tua 60 ohonynt (1%) sydd 芒 dros hanner miliwn o siaradwyr. Mae鈥檙 Gymraeg yn un o鈥檙 rheini. Mae nifer y bobl sy鈥檔 deall rhywfaint o Gymraeg yn cynyddu ac erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae siaradwyr Cymraeg neu bobl ddwyieithog yn siarad Saesneg da

Os ydych chi鈥檔 ddwyieithog, rydych chi fel arfer yn gryfach mewn un iaith na鈥檙 llall (gelwir hon yn famiaith fel arfer). Mae siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn gallu cyfathrebu鈥檔 well gan ddefnyddio eu mamiaith. Mae siarad Cymraeg yn hawl 鈥� sydd hefyd yn adlewyrchu hunaniaeth a diwylliant 鈥� ac mae鈥檔 ymwneud 芒 chyfathrebu yn eich dewis iaith.

Mae galw cyfyngedig am wasanaethau Cymraeg

Mae ymchwil a phrofiad yn profi y bydd gwasanaeth Cymraeg yn cael ei ddefnyddio os yw鈥檔 cael ei gynnig. Yn hanesyddol, nid oes gwasanaethau Cymraeg wedi bod ar gael, neu nid ydynt wedi bod yn weledol neu鈥檔 hygyrch. Mae ein Huned Iaith Gymraeg yn cael 50 o alwadau drwy gyfrwng y Gymraeg bob mis ar gyfartaledd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2019