Stori newyddion

Prif Weinidog: "Llywodraeth un genedl yn parhau i gefnogi ffermwyr Prydain"

Prif Weinidog David Cameron: 鈥淔el llywodraeth un genedl, byddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr Prydain"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
Field
  • Lleihau biwrocratiaeth er mwyn cefnogi ffermwyr Prydain 鈥� llai nag 20,000 o archwiliadau ffermydd a Thasglu Archwilio Ffermydd sengl newydd
  • Canolfan Arloesedd Bwyd newydd 鈥� bydd dros 400 o fusnesau bwyd a diod yng Nghymru鈥檔 unig yn cael mynediad at yr ymchwil diweddaraf
  • Cynlluniau i ddiogelu 200, sef y nifer mwyaf erioed, o fwydydd gwych o Brydain

Cyhoeddwyd cynlluniau i hybu cynhyrchiant a chynyddu bwyd ac allforion ffermio o fwy na 拢7 biliwn gan y Prif Weinidog heddiw, wrth iddo ymweld 芒 ym Mhowys.

O dan y gyfundrefn arolygu bresennol, mae cwlwm o saith o reoleiddwyr yn ymgymryd 芒 mwy na 125,000 o archwiliadau fferm bob blwyddyn ar 250,000 o ffermydd yn Lloegr - yn defnyddio amser gwerthfawr ac yn cyfyngu ar botensial y diwydiant ffermio i dyfu ymhellach. Bydd symleiddio鈥檙 broses, gwneud gwell defnydd o dechnoleg a data, yn lleihau鈥檙 nifer o archwiliadau yn sylweddol ac yn sicrhau mai un corff yn unig sydd ganddyn nhw i ymdrin ag ef. Ac erbyn haf 2016, un Tasglu Arolygu Fferm Unigol fydd gan ffermwyr yn unig i ymdrin ag ef a fydd yn cyfuno ymweliadau 芒 ffermydd gyda gwiriadau gorfodol. Yn ogystal, bydd yn defnyddio鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf er mwyn symleiddio鈥檙 dull o wneud archwiliadau - drwy ddefnyddio, er enghraifft, data lloeren er mwyn dadansoddi gwahanol fathau o gnydau mewn caeau.

Yn ogystal, bydd y newidiadau hyn yn helpu i alluogi mwy na gwerth 拢7 biliwn o gyfleoedd newydd, a gafodd eu hadnabod gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, i gynyddu allforion bwyd a diod o Brydain mewn gwledydd y tu allan i鈥檙 UE, yn cynnwys India, Tsieina a Brasil, gan greu mwy o swyddi gwledig a fydd yn dod 芒 mwy o fuddsoddiad i gymunedau lleol a chynyddu economi Prydain. Bydd hyn yn ychwanegu mwy at dros 600 o farchnadoedd sydd wedi鈥檜 hagor ers 2010 鈥� gallai sicrhau mynediad i gig oen i Tsieina yn unig fod yn werth 拢60 miliwn o bosibl ar gyfer ein heconomi. Yn ogystal, bydd defnyddio鈥檙 brand GREAT er mwyn hyrwyddo bwyd a diod y DU dramor yn cael ei gynyddu.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:

Rydw i鈥檔 falch iawn o fod yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw i weld y cynnyrch gorau mewn da byw, bwyd a ddiod sydd gan Gymru.

Mae ffermio a chynhyrchu bwyd yn rhan sylfaenol o鈥檔 heconomi wledig. Fel Llywodraeth Un Genedl, byddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr Prydain i dyfu a gwerthu mwy o fwyd cartref drwy eu rhyddhau o fiwrocratiaeth ac agor marchnadoedd allforio newydd sy鈥檔 werth llawer o filiynau.

Yn ogystal, rydw i鈥檔 gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud mwy er mwyn symleiddio archwiliadau er budd y diwydiant a chymunedau gwledig.

Yn ogystal, mae鈥檙 llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu Enwau Bwyd Gwarchodedig o 63 i 200 鈥� gyda鈥檙 disgwyl y bydd Ham Caerfyrddin a Bara Lawr Cymru yn cael eu cadarnhau yn ddiweddarach yr haf hwn. Mae ennill y statws wedi helpu i ddod 芒 buddion economaidd i fusnesau drwy鈥檙 wlad, yn cynnwys swyddi newydd yn Ynys M么n, cynyddu allforion o gig oen o Gymru a鈥檙 un gydnabyddiaeth ryngwladol 芒 chynnyrch byd-enwog fel Ham Parma a Chaws Feta. Amcangyfrifir bod cyfanswm gwerth Enwau Bwyd Gwarchodedig y DU yn fwy na 拢900 miliwn.

Yn ychwanegol, bydd creu Canolfan Arloesedd Bwyd newydd drwy鈥檙 DU yn rhoi mwy o fynediad i fusnesau bychain a chanolig at y dechnoleg a鈥檙 wyddoniaeth orau sydd gennym, gan eu helpu i arloesi a thyfu. Mae enghreifftiau o wyddoniaeth a fyddai o fudd i fusnesau bychain yn cynnwys ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddatblygu grawn sy鈥檔 llai niweidiol ar gyfer pobl gyda diabetes math 2. Mae hwn yn brosiect sy鈥檔 torri tir newydd sy鈥檔 dangos sut gall ein harloesedd bwyd yn y DU arwain y ffordd ar y llwyfan rhyngwladol ac agor y drws ar gyfer llawer o gynhyrchwyr llai i allforio mwy. Bydd gan fwy na 8,000 o fusnesau bwyd a diod fynediad i鈥檙 ganolfan.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, Elizabeth Truss:

Rydym yn eithriadol o uchelgeisiol am ddyfodol bwyd a ffermio a鈥檌 botensial i sbarduno twf drwy鈥檙 DU 鈥� dyna pam yr ydym yn cefnogi鈥檙 diwydiant i gynyddu allforion i鈥檙 lefel uchaf erioed fel bod mwy o鈥檔 bwyd a鈥檔 diod ffantastig o Brydain ar silffoedd yr archfarchnadoedd, ac mewn tafarnau a bwytai, o Beijing i Bogota.

Mae ein diwydiant bwyd a ffermio eisoes yn bwerdy economaidd, gyda gwerth dros 拢100 biliwn y flwyddyn ac yn cefnogi 1 mewn 8 o swyddi 鈥� bydd cael gwared 芒鈥檙 rhwystrau rhag twf yn helpu i godi鈥檙 ffigurau hyn, a fydd yn golygu mwy o swyddi a mwy o fuddsoddi mewn cymunedau gwledig.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabbe:

Mae proffil Cymru fel cynhyrchwr bwyd a diod o safon fyd-eang yn ffactor sy鈥檔 sbarduno twf economaidd ac yn gydran hanfodol o鈥檔 sector twristiaeth. Nid yw鈥檙 archwaeth fyd-eang ar gyfer cynnyrch cartref Cymru erioed wedi bod yn gryfach.

O Halen M么n o Ynys M么n at Fara Lawr o Gymru, mae nifer cynyddol o gynnyrch gyda鈥檙 stamp 鈥楥ynhyrchwyd yng Nghymru鈥� yn awr yn cael eu cydnabod drwy鈥檙 byd.

Mae鈥檔 angenrheidiol ein bod yn parhau i ddarparu ein harloeswyr bwyd gyda鈥檙 lefel gywir o gefnogaeth mewn marchnadoedd cartref a thramor. Wrth wneud hyn, gallwn ddatgloi鈥檙 potensial anferth sydd gan y sector hwn i fod yn beiriant sylweddol ar gyfer tyfu a chreu swyddi ar gyfer economi gwledig Cymru.

Nodiadau ar gyfer y Golygydd

  • Mae鈥檙 Llywodraeth yn cynrychioli buddiannau ein ffermwyr yn Ewrop drwy ymgyrchu am lai o archwiliadau fferm, canllawiau symlach, dull mwy pragmatig tuag at gosbau am gamgymeriadau gweinyddol bychain ac archwilio鈥檙 gofynion gwyrddio cymhleth er mwyn gwneud y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn symlach ar gyfer ffermwyr yng Nghymru a Lloegr.

  • Erbyn yr hydref, bydd system newydd yn bodoli yn cynnig llinell gymorth unigol i ffermwyr ar gyfer yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (ATG) ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (AIAP), sy鈥檔 gyfrifol am 75 y cant o鈥檙 gwaith.

  • Yn y bum mlynedd ddiwethaf, mae ein hallforion bwyd a diod wedi codi 拢1.8 biliwn, gyda bron i 拢19 biliwn o fwyd a diod y DU wedi cael eu hallforio i 214 o wledydd a thiriogaethau o gwmpas y byd y llynedd - mae hyn yn cynnwys i芒 i Sweden, gwin i Awstralia, tsilis i Bacistan a the i Tsieina. Ers 2010, bu enillion sylweddol mewn allforio drwy鈥檙 diwydiant a gwelwyd fod Eog wedi cynyddu 58% i 拢617 miliwn, cig moch wedi cynyddu 48% i 拢244 miliwn a chaws wedi codi 38% i 拢469 miliwn. Ar hyn o bryd, mae allforion Cymru werth 拢300 miliwn 鈥� byddai cynyddu鈥檙 ffigwr hwn yn ychwanegu at y 230,000 sydd yn cael eu cyflogi yn y gadwyn fwyd yng Nghymru ar hyn o bryd.

  • O鈥檙 fferm i鈥檙 fforc, mae cadwyn fwyd y DU yn cyfrannu 拢103 biliwn at ein heconomi 鈥� mwy na cheir ac awyrofod gyda鈥檌 gilydd 鈥� a bwyd a diod yw鈥檙 sector cynhyrchu unigol mwyaf yn y DU. Yn ogystal, mae鈥檔 cyflogi oddeutu 1 mewn 8 o bobl 鈥� ffigur sy鈥檔 codi mewn ardaloedd gwledig. Mae cadwyn fwyd Cymru yn cyflogi 48,000 o bobl ac yn cynhyrchu 拢1.3 biliwn y flwyddyn.

  • Mae 193,000 o fusnesau bwyd a diod yn y DU, sy鈥檔 prynu dwy ran o dair o gynnyrch amaethyddol y DU ac mae ganddyn nhw drosiant cyfunol o 拢415 biliwn.

  • Mae sector bwyd a diod y DU yn hynod o arloesol, yn cyflwyno oddeutu 16,000 o gynnyrch newydd bob blwyddyn 鈥� mwy na Ffrainc a鈥檙 Almaen gyda鈥檌 gilydd ac ail yn y byd i鈥檙 Unol Daleithiau yn unig.

  • Ers Hydref 2013, mae llywodraeth y DU wedi helpu 3,760 o fusnesau bwyd a diod i werthu eu cynnyrch dramor.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Gorffennaf 2015