Datganiad i'r wasg

Y Prif Weinidog: Bydd fy llywodraeth Un Genedl yn cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Cyfraniad menywod at adfywiad economaidd Cymru "yn cael ei werthfawrogi bob gafael"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
  • Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol o gymorth i gau鈥檙 bwlch cyflog rhwng y rhywiau

  • Bydd yn ofynnol i bob cwmni sydd 芒 mwy na 250 o weithwyr cyflogedig gyhoeddi eu bwlch cyflog

  • Mae ffigurau newydd yn dangos bod cwmn茂au FTSE 100 wedi cyrraedd y targed o sicrhau bod 25% o aelodau鈥檙 bwrdd yn fenywod

Heddiw (Dydd Mawrth 14 Gorffennaf), bydd y Prif Weinidog yn nodi ei uchelgais i 鈥渞oi terfyn ar y bwlch mewn cyflogau rhwng y rhywiau o fewn cenhedlaeth鈥�.

Erbyn hyn mae mwy o fusnesau sy鈥檔 cael eu harwain gan fenywod nag erioed o鈥檙 blaen, y nifer uchaf erioed o fenywod mewn gwaith, ac mae鈥檙 bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.

Yng Nghymru, mae 667,000 o fenywod mewn swyddi cyflogedig - cynnydd o 34,000 er mis Mai 2010.

Ond bydd y Prif Weinidog yn dweud bod rhagor i鈥檞 wneud.

Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd, sy鈥檔 dechrau fis Ebrill nesaf ar 拢7.20 ac a fydd yn cyrraedd dros 拢9 erbyn 2020, yn helpu menywod yn bennaf - sy鈥檔 tueddu i fod mewn swyddi sy鈥檔 talu llai - a bydd yn helpu i gau鈥檙 bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Roedd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn rhan o Gyllideb lle nododd y Llywodraeth yn glir ei hymrwymiad i ail-gydbwyso鈥檙 economi drwy symud o economi sy鈥檔 drymlwythog o ran lles a threthi i fod yn gymdeithas 芒 llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch.

Heddiw, mae鈥檙 Llywodraeth yn cyhoeddi rhagor o gamau i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bwlch rhwng y rhywiau.

  • Bydd gofyn i bob cwmni sydd 芒 mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi鈥檙 gwahaniaeth rhwng cyflog cyfartalog eu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd.

  • Bydd ymgynghoriad, a lansiwyd heddiw, yn edrych ar y manylion ynghylch sut bydd y rheoliadau newydd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cynllunio, gan gynnwys pa wybodaeth fydd yn cael ei chyhoeddi, ymhle y gwneir hynny a phryd bydd hynny鈥檔 digwydd. Bydd hefyd yn ceisio barn ar beth arall y gellir ei wneud i annog merched i ystyried y rhychwant ehangaf o yrfaoedd, cefnogi rhieni sy鈥檔 dychwelyd i鈥檙 gwaith a helpu menywod o bob oed i gyrraedd eu llawn botensial a chael y sicrwydd o swydd sy鈥檔 talu鈥檔 dda.

Daw hyn wrth i 100 cwmni FTSE y Deyrnas Unedig gyrraedd targed yr Arglwydd Davies o 25 y cant o swyddi ar lefel bwrdd yn cael ei llenwi gan ferched - targed a osodwyd yn 2011.

Mewn darn yn y Times heddiw, dywedodd y Prif Weinidog:

Heddiw rwy鈥檔 cyhoeddi cam mawr iawn: byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob un cwmni sydd 芒 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi鈥檙 bwlch rhwng enillion cyfartalog menywod ac enillion cyfartalog dynion. Bydd hynny鈥檔 bwrw goleuni ar yr anghysondebau ac yn creu鈥檙 pwysau sydd ei angen arnom ar gyfer newid, a chynyddu cyflogau menywod.

Mae hyn yn mynd yn 么l at yr hyn a gyhoeddom yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf. Ein nod yw adfer cydbwysedd ein heconomi yn sylfaenol, gan drawsnewid Prydain o fod yn economi sy鈥檔 drymlwythog o ran lles a threthi i fod yn gymdeithas 芒 llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch. Rydym eisiau i bawb gael cyflogau uwch. Dyna pam y cyhoeddodd y Canghellor y Cyflog Byw Cenedlaethol, sy鈥檔 dechrau fis Ebrill nesaf ar 拢7.20 ac a fydd yn cyrraedd dros 拢9 erbyn 2020. Bydd hyn yn helpu menywod yn bennaf, sy鈥檔 tueddu i fod mewn swyddi cyflog is. Bydd yn helpu i gau鈥檙 bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ond mae angen i ni fynd ymhellach, a dyna pam mae cyflwyno archwiliadau cyflog rhwng y ddau ryw mor bwysig.

Tryloywder, sgiliau, cynrychiolaeth, gofal plant fforddiadwy - gall y pethau hyn roi terfyn ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn cenhedlaeth. Dyna fy nod.

Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn darparu rhaglen eang o gymorth i fenywod yn y gweithle, gan gyflwyno 30 awr o ofal plant am ddim, 20.6 miliwn o weithwyr cyflogedig bellach yn gallu elwa ar weithio鈥檔 hyblyg, a鈥檙 gwasanaeth gyrfaoedd newydd yn rhoi busnesau ar y blaen ac yn dangos i ferched ysgol nad oes yr un proffesiwn allan o鈥檜 cyrraedd.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yng Nghymru, mae gennym rai o鈥檙 doniau busnes benywaidd gorau a mwyaf disglair. Ar bob lefel ac ym mhob r么l, mae angen iddynt wybod bod eu cyfraniadau at yr adferiad economaidd yng Nghymru yn cael eu gwerthfawrogi. Mae cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar bolis茂au fel y Cyflog Byw Cenedlaethol a chynlluniau fel y Rhaglen Waith sy鈥檔 brwydro yn erbyn y rhwystrau sy鈥檔 dal menywod yn 么l rhag llwyddo ym myd gwaith.

Mae鈥檙 llywodraeth hon o blaid pawb sy鈥檔 gweithio; rydym yn credu mewn cefnogi dyheadau鈥檙 rhai sydd eisiau datblygu eu hunain. Y wobr am wneud hynny fydd economi gryfach a mwy o gyfleoedd i鈥檙 genhedlaeth hon o fenywod a鈥檙 genhedlaeth nesaf hefyd.

Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, cynyddodd nifer y menywod hunangyflogedig yng Nghymru 2,000, fel bod y ffigur yn 58,000 erbyn hyn.

Abi Carter yw sylfaenydd Forensic Resources Ltd - cwmni ymgynghorwyr gwyddoniaeth fforensig yng Nghaerdydd sy鈥檔 darparu gwasanaethau tyst arbenigol i dimau cyfreithiol a chwmn茂au yswiriant ledled y Deyrnas Unedig.

Meddai Ms Carter:

Weithiau mae menywod yn petruso cyn neidio i mewn i fyd busnes ac entrepreneuriaeth. Os yw menywod am fod yn ddigon dewr i wneud hynny, mae鈥檔 hanfodol eu bod yn cael yr un gefnogaeth, cymeradwyaeth a phosibiliadau 芒鈥檜 cymheiriaid gwryw. Mae鈥檔 gyfrifoldeb ar bawb ohonom i rymuso menywod i lwyddo yn y gweithle, gan roi iddynt y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny, fel y gallwn harneisio鈥檙 cyfoeth o ddoniau y gallant eu cyflwyno i fyd busnes.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae dadansoddiad gan y Trysorlys o effaith cyhoeddiad y Llywodraeth am y cyflog byw cenedlaethol newydd yng Nghyllideb yr wythnos diwethaf yn dangos y disgwylir y bydd 65 y cant o鈥檙 rhai a fydd ar eu hennill yn ferched.

  • Y bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau yn achos yr holl weithwyr (19.1%) yw鈥檙 isaf ers i gofnodion ddechrau. Mae鈥檔 dangos bod menyw, ar gyfartaledd, yn ennill tua 80c am bob 拢1 a enillwyd gan ddyn.

  • Bydd y rheoliadau arfaethedig yn gweithredu Adran 78 Deddf Cydraddoldeb 2010 - mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ym Mhrydain Fawr sydd ag o leiaf 250 o weithwyr cyflogedig gyhoeddi gwybodaeth am y cyflog y mae eu gweithwyr gwryw a benyw yn ei gael. Rydym yn bwriadu cyflwyno hyn yn ystod hanner cyntaf 2016, a bydd yr ymgynghoriad yn archwilio pa mor gyflym y gellir gorfodi鈥檙 rheoliadau.

  • Yn 2011, gosododd yr Arglwydd Davies o Abersoch y targed o gael 25 y cant o fenywod ar fyrddau ar 么l cael cais gan y Llywodraeth i edrych ar sut i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 diffyg merched ar fyrddau cwmn茂au FTSE. Erbyn hyn nid oes byrddau sydd 芒 dynion yn unig o gymharu鈥檙 sefyllfa 芒 2011.

  • Bydd yr Arglwydd Davies yn awr yn gweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant i ddysgu o brofiadau鈥檙 pedair blynedd diwethaf, ac yn gwneud cyfres o argymhellion ar sut gall busnesau barhau i wella amrywiaeth o safbwynt y rhywiau.

Menywod ac economi Cymru

  • Mae 667,000 o fenywod yn gweithio yng Nghymru - cynnydd o 34,000 er mis Mai 2010
  • Merched yw 47.7% o鈥檙 holl weithwyr cyflogedig yng Nghymru erbyn hyn
  • Mae 33% o reolwyr neu uwch swyddogion yng Nghymru yn fenywod
  • Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, cynyddodd nifer y menywod hunangyflogedig 2,000, fel bod y ffigur yn 58,000 erbyn hyn

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Gorffennaf 2015