Lansio cynllun ad-dalu ffioedd atwrneiaeth
Gall pawb sy鈥檔 gymwys am ad-daliad rhannol ar eu ffioedd atwrneiaeth wneud cais o heddiw (1 Chwefror 2018).

Cynigir ad-daliadau i鈥檙 rhai hynny lle codwyd mwy o ffi arnynt na beth oedd yn angenrheidiol i wneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2017.
Yn ystod y cyfnod hwn, gostyngodd costau gweithredu Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) wrth i fwy o bobl wneud cais i gofrestru atwrneiaeth, ac o ganlyniad, daeth y broses yn fwy effeithlon, ond ni chafodd y ffi a godwyd ar gyfer gwneud cais ei lleihau yn unol 芒 hyn.
Bu i鈥檙 Weinyddiaeth Cyfiawnder, sy鈥檔 gosod ffioedd OPG, leihau鈥檙 ffi ar gyfer gwneud cais a bydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2017 ymlaen, ac mae nawr wedi lansio cynllun ad-dalu i鈥檙 rhai hynny a dalodd ffi uwch yn ystod y cyfnod cymhwyso. Cynhelir y cynllun gan OPG.
Mae gwneud hawliad drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein yn broses gyflym a syml. Dim ond un ffurflen sydd angen ei llenwi ar gyfer pob rhoddwr a bydd OPG yn chwilio am yr holl ffioedd a dalwyd am geisiadau atwrneiaeth a wnaed yn ystod y cyfnod cymhwyso.
Mae cyfarwyddiadau llawn ar gael ar-lein i鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 gwneud cais ac mae llinell gymorth benodol ar gael ar gyfer y gwasanaeth ad-daliadau i鈥檙 rhai sydd ei hangen. Ffoniwch ganolfan gyswllt OPG ar 0300 456 0300 (yn y Saesneg) a dewiswch opsiwn 6 ar gyfer y t卯m ad-daliadau.
Mae鈥檙 llinellau ar agor dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener, 9am tan 5pm ac ar ddydd Mercher, 10am tan 5pm. Dewiswch opsiwn 6 os ydych yn ffonio. Ewch i www.gov.uk/costau-galwadau i gael gwybodaeth am brisiau galwadau.
Cyn y lansiad, profwyd y gwasanaeth ar-lein yn helaeth gydag amrywiaeth eang o roddwyr ac atwrneiod cymwys. Mae OPG yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau fod y rhai a effeithiwyd arnynt yn ymwybodol o鈥檙 gwasanaeth ad-dalu ac yn gallu gwneud hawliad.
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn gweithredu ar eu rhan, yn credu eu bod yn gymwys, ewch i www.gov.uk/power-of-attorney-refund am ragor o fanylion ac i wneud hawliad.