Stori newyddion

Prif Weinidog Prydain yn Ymweld a Chymru cyn tanio Erthygl 50

Theresa May yn arwyddo Bargen Ddinesig Bae Dinas Abertawe

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Prime Minister Theresa May and First Minister of Wales Carwyn Jones meeting at the Liberty Stadium in Swansea

Bydd Prif Weinidog Prydain yn ymweld 芒 Chymru ddydd Llun (20 Mawrth) fel rhan o鈥檙 broses o ymgysylltu 芒鈥檙 gwledydd datganoledig cyn i Erthygl 50 gael ei thanio yn ddiweddarach y mis hwn.

Mewn cyfres o ymweliadau 芒 gwahanol rannau o鈥檙 Deyrnas Unedig 鈥� gan gynnwys Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon 鈥� bydd y Prif Weinidog yn ymgysylltu ac yn gwrando ar bobl o bob cwr o Brydain wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd fel un Deyrnas Unedig.

Mae鈥檙 ymweliad yn digwydd yr un pryd ag y mae Abertawe yn arwyddo Bargen Ddinesig hanesyddol y disgwylir iddi greu dros 9,000 o swyddi a sbarduno buddsoddiad fydd yn werth bron i 拢1.3bn. Mae鈥檙 fargen rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, yn paratoi鈥檙 ffordd ar gyfer buddsoddiad seilwaith mawr yn rhanbarth Bae Dinas Abertawe, a fydd yn amrywio o ganolfannau ymchwil i 鈥渞anbarth digidol鈥� newydd y glannau.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y Prif Weinidog, ynghyd 芒鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cwrdd 芒 phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn ogystal 芒 chynrychiolwyr gwahanol sectorau a busnesau.

Y prif bwynt trafod fydd sut y gall pob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig 鈥� gan gynnwys Cymru 鈥� wneud y gorau o鈥檙 cyfleoedd a gynigir gan Brexit. Mae marchnad allforio Cymru yn werth tua 拢12.3bn y flwyddyn 鈥� sy鈥檔 dangos na fu erioed well adeg i gwmn茂au Cymreig allforio eu cynnyrch i wledydd tramor.

Mae Cymru eisoes yn allforio鈥檔 llwyddiannus 鈥� yn anfon adenydd awyrennau i鈥檙 byd, technoleg oeri i鈥檙 Dwyrain Canol a fformatau teledu i ddwsinau o wledydd.

Yn 么l Prif Weinidog Prydain, Theresa May:

O鈥檓 diwrnod cyntaf ar risiau Downing Street, rydw i wedi nodi鈥檔 glir fy mod yn benderfynol o gryfhau a chynnal yr Undeb gwerthfawr. Rydw i hefyd wedi nodi鈥檔 glir y byddaf yn gweithio er mwyn sicrhau bargen sy鈥檔 gweithio i鈥檙 Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydw i eisiau i bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig allu gwneud y gorau o鈥檙 cyfleoedd sydd o鈥檔 blaenau a sicrhau bod busnesau Cymru yn gallu elwa o鈥檙 fasnach fwyaf rhydd sy鈥檔 bosibl fel rhan o Brydain sy鈥檔 masnachu鈥檔 fyd-eang.

Mae gan brifysgolion Cymru eisoes enw arbennig o dda ar lefel ryngwladol. Maent yn denu myfyrwyr tramor ac yn arloesi 芒 phrosiectau ymchwil yma a thros y m么r.

Rydw i hefyd eisiau i Gymru fod ar y blaen ym maes gwyddoniaeth ac arloesi 鈥� fel y gwelwn 芒鈥檙 Fargen Ddinesig arbennig hon i Abertawe heddiw.

Mae鈥檙 fargen yn enghraifft wych o鈥檙 hyn y gellir ei gyflawni pan mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda鈥檌 gilydd er mwyn sicrhau bargen sydd o fudd i鈥檙 ddinas ac i Gymru gyfan.

Bydd Cynllun y Llywodraeth hon ar gyfer Prydain yn ceisio creu Teyrnas Unedig gryfach a thecach a gwell bargen i bobl gyffredin sy鈥檔 gweithio yng Nghymru ac ym Mhrydain.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn dangos beth y mae鈥檔 bosibl ei gyflawni pan mae鈥檙 llywodraeth a鈥檙 sector preifat yn dod at ei gilydd ac yn dod o hyd i atebion lleol a all ddod 芒 budd parhaol i ardal.

Bydd y fargen ddinesig yn adeiladu ar gryfderau鈥檙 rhanbarth a鈥檙 cyfleoedd sydd ar gael, gan helpu Abertawe i gystadlu 芒 rhai o ddinasoedd gorau鈥檙 byd drwy dechnoleg ddigidol gyffrous.

Mae hwn yn gyfle gwych i Abertawe ffynnu ac elwa o bartneriaethau agos sy鈥檔 canolbwyntio ar sicrhau enillion gwirioneddol i ardal leol.

Nodiadau i olygyddion

Mae prif elfennau dinas-ranbarth Bae Abertawe yn cynnwys:

  • Gwerth 拢1.3bn o gyllid yn cynnwys 拢115m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig; 拢125.4m gan Lywodraeth Cymru; 拢396 miliwn gan fusnesau a鈥檙 gweddill yn dod o gyfraniadau gan yr ardal leol a phrifysgolion

  • Darpariaeth 100% i wasanaethau band-eang y genhedlaeth nesaf a meinciau arbrofi 5G

  • Partneriaeth gyda chwmni dur TATA er mwyn sefydlu canolfan arloesi a gwybodaeth ar gyfer dur, gan gynnwys pwyslais ar gynhyrchu dur di-garbon a chynaliadwyedd y diwydiant yn y dyfodol

  • Cyfleusterau newydd amrywiol er mwyn denu busnesau technegol a digidol i Ranbarth Digidol Dinas Abertawe a鈥檙 Glannau

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email publiccorrespondence@cabinet-office.gsi.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Mawrth 2017