Gall ceiswyr personol yn awr wneud cais am brofiant ar-lein
Mae GLlTEM yn manylu ar sut y gall ceiswyr personol yn awr wneud cais am brofiant gan ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth newydd ar-lein.

Mae鈥檙 Gwasanaeth Profiant bellach yn derbyn ceisiadau ar-lein gan geiswyr personol a nifer fychan o gyfreithwyr detholedig ar sail y meini prawf isod:
- Ceisiadau lle mae hyd at 4 o ysgutorion yn gwneud cais.
- lle mae鈥檙 ewyllys wreiddiol ar gael hyd yn oed os bu i鈥檙 ymadawedig wneud hyd at 4 o newidiadau i鈥檙 ewyllys honno. (adnabyddir y newidiadau hyn fel codisiliau)
- Os oedd yr ymadawedig yn ystyried Cymru neu Loegr fel eu cartref parhaol neu鈥檔 bwriadu dychwelyd i Gymru neu Lloegr i fyw yn barhaol.
Bydd y ffurflen gais ar-lein yn parhau i gael ei datblygu i ymdrin ag ystod ehangach o geisiadau profiant yn y dyfodol.
Beth mae鈥檙 cais newydd ar-lein yn ei gynnig?
Mae鈥檙 ffurflen gais newydd ar-lein yn cynnwys:
- Datganiad newydd o wirionedd i chi ddatgan bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir, sy鈥檔 diddymu鈥檙 angen i dyngu llw
- y cyfleuster i dalu ffi ar-lein fel nad oes rhaid postio siec i鈥檙 Gwasanaeth Profiant.
- cyfleuster i 鈥榞adw a dychwelyd鈥� sy鈥檔 eich caniat谩u i gadw ac ail edrych ar gais os oes arnoch angen dod o hyd i ragor o wybodaeth. Mae hyn yn caniat谩u i gais sydd ar ei hanner gael ei gadw a鈥檌 gwblhau yn hwyrach ymlaen.
Beth sydd ei angen arnoch i gyflwyno cais ar-lein?
Mae鈥檙 ffurflen gais ar-lein yn haws i鈥檞 deall ond bydd dal gofyn i chi ddarparu dogfennau ategol fel y broses bresennol. Dyma fydd eu hangen:
- yr ewyllys wreiddiol gyda dau lungopi
- copi swyddogol o鈥檙 dystysgrif farwolaeth.
- y ffurflenni treth etifeddu a鈥檙 ffigyrau perthnasol
- unrhyw dystiolaeth ategol arall sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 achos (e.e. ffurflen ymwrthod)
Rydym yn edrych at wella hyn yn y dyfodol, efallai trwy ddatblygu perthynas gydag adrannau eraill i gasglu鈥檙 wybodaeth yn awtomatig fel rhan o鈥檙 broses.
Os ydych chi鈥檔 cyrraedd gofynion y meini prawf ac eisiau gwneud cais ar-lein os gwelwch yn dda cysylltwch 芒 llinell gymorth GLlTEM lle cewch y manylion priodol.
Updates to this page
-
Applications now open to a small number of solicitors.
-
Addition that a small number of solicitors can also use the service.
-
Up to 4 executors can now apply.
-
Up to 4 executors can now apply.
-
Criteria changes to include applications from up to 4 executors.
-
Online tool extended for professionals in Spring 2018.
-
Change to acceptance criteria
-
First published.