"Mae ein dechrau o鈥檙 newydd yn golygu y gallwn wneud pedair cornel y Deyrnas Unedig yn gryfach ac yn fwy llewyrchus nag erioed o'r blaen"
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a鈥檙 Ysgrifennydd Busnes Alok Sharma yn amlinellu鈥檙 cyfleoedd newydd cyffrous i Gymru o Fil Marchnad Fewnol y DU.

Wrth i Fil Marchnad Fewnol y DU wneud ei ffordd drwy鈥檙 Senedd, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart a鈥檙 Ysgrifennydd Busnes Alok Sharma yn rhannu eu barn yngl欧n 芒 sut y bydd Cymru鈥檔 elwa o bwerau sy鈥檔 dychwelyd o Frwsel ar 么l Brexit a pharhad masnach ddi-dor gyda gweddill y DU mewn erthygl ddiweddar.
Mewn ychydig fisoedd yn unig, bydd pwerau sydd gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn cael eu dychwelyd i鈥檙 Deyrnas Unedig. Mae cymryd rheolaeth yn 么l o Frwsel yn gyfle nad ydym wedi鈥檌 weld ers sawl cenhedlaeth.
Bellach bydd Llywodraeth y DU a鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig ym Mae Caerdydd, Holyrood a Stormont yn gwneud penderfyniadau ar feysydd pwysig fel ansawdd aer, effeithlonrwydd ynni adeiladau ac elfennau o gyfraith cyflogaeth heb gael gwared ar unrhyw un o鈥檜 pwerau cyfredol.
Mae鈥檔 newid sylweddol ac yn un sy鈥檔 rhoi cyfle ar unwaith i weithio tuag at un o鈥檔 nodau allweddol - sef i lefelu holl genhedloedd a rhanbarthau鈥檙 Deyrnas Unedig.
Mae hyn hefyd yn golygu y bydd pwerau digynsail yn llifo i鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig, gan roi mwy o rym i Aelodau Seneddol nag erioed o鈥檙 blaen.
Mae鈥檔 golygu y gallwn barhau 芒鈥檙 adferiad o Covid-19, gan weithio gyda llywodraethau datganoledig i fuddsoddi arian mewn busnes a chymunedau ledled Cymru ac ym mhobman arall sydd ei angen ledled y DU.
Mae ein dechrau o鈥檙 newydd yn golygu y gallwn wneud pedair cornel y Deyrnas Unedig yn gryfach ac yn fwy llewyrchus nag erioed o鈥檙 blaen.
Dyna pam mae deddfau newydd yn cael eu cyflwyno i Senedd y DU heddiw i sicrhau y gall cwmn茂au fasnachu yn ddirwystr ledled y DU, gan amddiffyn swyddi a bywoliaethau wrth gynnal ein safonau ar gyfer gweithwyr, bwyd a鈥檙 amgylchedd sy鈥檔 flaenllaw ar lefel fyd-eang.
Mae masnachu wedi digwydd yn ddi-dor ledled y DU ers canrifoedd ac mae mesurau heddiw yn golygu y gallwn, ar y 31ain o Ragfyr, barhau i gynnal busnes o fewn ein ffiniau ein hunain heb roi beichiau ychwanegol ar gwmn茂au.
Mae hyn yn gwbl hanfodol i economi Cymru. Partner masnachu mwyaf y wlad yw gweddill y DU, gyda thua 75 y cant o鈥檌 hallforion yn mynd at ei ffrindiau a鈥檌 chymdogion yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Am gannoedd o flynyddoedd, mae hyn wedi bod wrth wraidd ein hundeb economaidd hynod lwyddiannus, gan hybu busnes a chreu swyddi.
P鈥檜n a oedd yn adeiladu鈥檙 diwydiant trwm a welodd y cymoedd yng nghanol y chwyldro diwydiannol neu y diwydiannau newydd sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg fel FinTech, lle mae cwmn茂au Cymru ar flaen y gad 鈥� mae Cymru wedi gwneud y mwyaf o鈥檙 cyfleoedd a ddarperir gan farchnad sydd wastad yn tyfu o fewn y Deyrnas Unedig.
Mae ei ffyniant wedi dibynnu ar fusnesau yn gallu gwerthu eu nwyddau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a鈥檙 Alban heb orfod poeni am wahanol reoliadau o fewn meysydd cynhyrchu, gweithgynhyrchu a labelu bwyd.
Yn wir, rydym mor gyfarwydd 芒鈥檔 marchnad fewnol a鈥檙 manteision a ddaw yn ei sgil, rydym yn tueddu i beidio 芒 rhoi ail feddwl iddi.
Heb y camau yr ydym yn eu cymryd heddiw i amddiffyn busnes, bydd y rheolau cyffredin sy鈥檔 caniat谩u llif masnach rydd yn diflannu ym mis Rhagfyr gan greu rheoliadau biwrocrataidd niweidiol ledled y DU. Byddai hyn yn creu rhwystrau i fasnachu ac yn rhoi swyddi mewn risg.
Mae鈥檔 golygu y gallai ffermwr yng Nghymru o bosib wynebu problemau wrth werthu cig oen yn Lloegr, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon oherwydd gwahanol reolau ynghylch safonau lles anifeiliaid, neu gallai cynhyrchwyr Wisgi Cymreig golli mynediad at gyflenwad gan ffermwyr haidd mewn rhannau eraill o鈥檙 DU.
Gallai hyd yn oed olygu y gallai busnesau ar un pen o鈥檙 dref wynebu gwahanol reolau a safonau i鈥檙 pen arall, mewn ardaloedd fel Saltney yn Sir y Fflint sy鈥檔 croesi rhwng Cymru a Lloegr, gan roi mantais annheg i un ohonynt.
Bydd y Bil rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn newid hynny.
Bydd yn creu cyfleoedd newydd cyffrous i weithio gyda gweinidogion yng Nghymru, yn ogystal 芒 phartneriaid eraill, i gryfhau Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig gyfan. Nid yw鈥檔 dileu unrhyw un o bwerau presennol y Senedd felly mae鈥檔 sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill yn achos datganoli.
Bydd y Bil hefyd yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU wario arian ledled y wlad gyfan, gan gynnwys mewn meysydd lle mae Brwsel yn cyfarwyddo cyllidebau鈥檙 UE ar hyn o bryd.
O ganlyniad i hyn, byddwn yn gallu buddsoddi mewn cynlluniau seilwaith, datblygu economaidd, diwylliant, chwaraeon a rhaglenni cyfnewid addysg ryngwladol ledled Cymru.
Ochr yn ochr 芒 chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ei hun, bydd y pwerau hyn yn cynyddu鈥檙 cyfle ar gyfer buddsoddi mawr ei angen mewn cymunedau o Aberd芒r i Aberconwy, a byddant yn cyflymu鈥檙 broses o roi鈥檙 buddsoddiad hwnnw ar waith.
Gofynnwyd am farn diwydiannau, academyddion ac elusennau ar y cynigion ac roedd y nifer fawr o fusnesau a ymatebodd yn glir mai鈥檙 cynigion hyn oedd yr ateb gorau.
Byddwn yn osgoi rhwystrau masnach newydd, yn amddiffyn buddion ledled y DU i ddefnyddwyr ac yn rhoi sicrwydd i fusnes wrth i鈥檙 cyfnod Pontio ddod i ben.
Trwy gefnogi busnes a gwarchod marchnad fewnol y Deyrnas Unedig, bydd yr Undeb yn gryfach nag erioed o鈥檙 blaen ac yn masnachu gyda鈥檔 gilydd ac ar draws y byd fel yr ydym wedi鈥檌 wneud ers canrifoedd.