Gwasanaethau Ar-lein yn Gyrru Boddhad
DVLA a鈥檙 Gymdeithas Gwerthwyr Cerbydau Rhyddfraint Cenedlaethol (NFDA) yn gweithio gyda鈥檌 gilydd i annog delwyr modurwyr i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA.

Mae DVLA a鈥檙 Gymdeithas Gwerthwyr Cerbydau Rhyddfraint Cenedlaethol (NFDA) sy鈥檔 pwysleisio wrth werthwyr cerbydau sut y gall gwasanaethau ar-lein DVLA helpu i gynyddu boddhad cwsmeriaid, yn dilyn ymchwil newydd a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr gan DVLA.
Dangosodd arolwg diweddar a gomisiynwyd gan DVLA y byddai 97% o鈥檙 rhai a ofynnwyd yn argymell gwasanaethau ar-lein DVLA. Y rheswm mwyaf poblogaidd i wneud busnes ar-lein oedd cyfleustra (86%), a ddilynwyd gan gyflymder (82%). Dangosodd ymchwil DVLA hefyd fod 9 o bob 10 modurwr y gofynnwyd iddynt wedi dweud bod y gwerthwr cerbydau wedi gofalu am yr ochr weinyddol ar yr adeg y prynwyd y cerbyd ganddynt. Dywedodd dros hanner y modurwyr (52%) hefyd y byddent yn fwy tebygol o werthu eu cerbyd i werthwr cerbydau a oedd yn cwblhau鈥檙 gwaith gweinyddol ar eu cyfer.
Y ffordd gyflymaf a鈥檙 symlaf i ddweud wrth DVLA bod cerbyd wedi鈥檌 brynu i mewn i鈥檙 busnes, ei werthu i mewn i鈥檙 busnes neu ei werthu i gwsmer fydd bob amser trwy wasanaeth ar-lein DVLA. Bydd cwsmeriaid yn derbyn cadarnhad yn syth nad nhw yw鈥檙 ceidwad bellach, ac ad-daliad awtomatig o unrhyw fisoedd llawn o dreth sy鈥檔 weddill. Bydd y rhai sy鈥檔 prynu cerbyd yn derbyn eu llyfr log newydd (V5CW) o fewn 5 niwrnod gwaith.
Yn ogystal 芒 lefelau boddhad cwsmer uwch, mae gwerthwyr cerbydau hefyd yn elwa o amser gweinyddol is, dim costau postio a thrywydd archwilio cliriach ar gyfer dyddiad newidiadau ceidwad.
Gyda dros hanner y modurwyr hynny a ofynnwyd (51%) yn dweud eu bod wedi rhan-gyfnewid cerbyd wrth brynu cerbyd, mae gwasanaeth ar-lein diweddaraf y DVLA i ofyn am lyfr log V5CW dyblyg yn lleihau鈥檙 amser y mae鈥檔 ei gymryd i鈥檞 dderbyn o 6 wythnos i 5 niwrnod yn unig, gan olygu mai dyma鈥檙 ffordd ddelfrydol i鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 ceisio osgoi oedi pan fydd llyfr log y cerbyd wedi鈥檌 golli neu鈥檌 ddifrodi.
Dywedodd Prif Weithredwr y DVLA, Julie Lennard:
Gwasanaethau ar-lein DVLA fydd bob amser y ffordd gyflymaf a鈥檙 symlaf i gwsmeriaid ddelio 芒 ni, ac mae miliynau o fodurwyr yn barod yn eu defnyddio. Dengys yr ymchwil bod modurwyr yn gwerthfawrogi鈥檙 gefnogaeth y mae gwerthwyr cerbydau yn ei chynnig o ran yr ochr weinyddol, ac mae boddhad cwsmeriaid mor bwysig yn y diwydiant hwn fel ein bod yn awyddus i ddangos i werthwyr cerbydau fanteision ein gwasanaethau ar-lein.
Gall busnesau a modurwyr arbed amser ac arian trwy fynd ar-lein pan fydd angen iddynt wneud cais neu ddweud wrthym fod cerbyd wedi ei werthu i unigolyn arall - ar adeg a lle sy鈥檔 addas iddynt.
Dywedodd Sue Robinson, Prif Weithredwr, Cymdeithas Gwerthwyr Cerbydau Rhyddfraint Cenedlaethol (NFDA):
Rydym yn ymwybodol bod llawer o werthwyr cerbydau rhyddfraint yn barod yn croesawu manteision gwasanaethau ar-lein y DVLA. 惭补别鈥檙 gwasanaethau hyn yn gyflym, yn effeithlon ac yn hawdd eu defnyddio ac, o ganlyniad, yn sbardun gwych i鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 ceisio cynyddu boddhad cwsmeriaid ac ailadrodd busnes trwy ragori yn y gwasanaeth cwsmeriaid y maent yn ei gynnig. Rydym yn annog gwerthwyr cerbydau rhyddfraint i barhau i bwysleisio wrth eu cwsmeriaid y manteision o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA .
Ymweld 芒 188体育 am restr lawn o wasanaethau ar-lein DVLA a rhagor o wybodaeth.
Nodiadau i鈥檙 Golygydd:
-
惭补别鈥檙 gwasanaeth ar-lein i ddweud wrth DVLA bod cerbyd wedi鈥檌 brynu neu wedi鈥檌 werthu ar gael ar 188体育 saith niwrnod yr wythnos rhwng 7am a 9pm.
-
Dylai modurwyr sydd angen gwneud cais am lyfr log dyblyg (V5CW) fynd ar-lein i /gwerthu-prynu-cerbyd. Lansiwyd y gwasanaeth newydd ym mis Medi 2020 ac mae wedi cael ei ddefnyddio tua 45,000 o weithiau.
-
Ym mis Mehefin 2020, lansiwyd gwasanaeth newydd i fodurwyr newid y cyfeiriad ar eu llyfr log V5C. 惭补别鈥檙 gwasanaeth hwn wedi cael ei ddefnyddio tua 540,000 o weithiau ers iddo gael ei lansio.
-
Mae gwasanaethau ar-lein DVLA yn gweithredu fel arfer ac nid yw pandemig y Coronafeirws wedi effeithio arnynt. Mae holl wasanaethau ar-lein y DVLA ar gael ar 188体育.
-
Dywedodd 92.3% o ymatebwyr arolwg DVLA a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 eu bod wedi prynu cerbyd ail-law. Dywedodd 73.8% eu bod wedi prynu鈥檙 cerbyd gan werthwr cerbydau. Dywedodd 51.1% eu bod wedi cyfnewid cerbyd am un arall wrth brynu un ail-law. Dywedodd 93.0% fod y gwerthwr cerbydau wedi cwblhau鈥檙 gwaith gweinyddol/papur y gwerthiant ar eu cyfer pan brynon nhw鈥檙 cerbyd a dywedodd 52.5% y byddent yn fwy tebygol o werthu cerbyd i werthwr cerbydau a gwblhaodd holl waith gweinyddol/papur y gwerthiant ar eu cyfer (dywedodd 18.4% nad oeddent yn gwybod).
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407