Datganiad i'r wasg

Mae Gogledd Cymru yn 'allweddol' i dyfu economi Cymru meddai Ysgrifennydd Cymru

Mae Ysgrifennydd Cymru yn hyrwyddo gweithgynhyrchu uwch yng Ngogledd Cymru trwy gynnal bwrdd crwn ac ymweld 芒 busnesau yn yr ardal.

Welsh Secretary Jo Stevens meeting staff on the factory floor at Toyota on Deeside.

  • Ysgrifennydd Cymru yn canu clodydd gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru ac yn gweld 芒鈥檌 llygaid ei hun sut mae鈥檙 sector yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
  • Cenhadaeth twf economaidd Llywodraeth y DU yn cael ei gwireddu gyda Pharth Buddsoddi 拢160 miliwn yn Wrecsam a Sir y Fflint.
  • Mae鈥檙 buddsoddiad yn rhan o鈥檙 Cynllun ar gyfer Newid sy鈥檔 helpu i gyrraedd y garreg filltir o godi safonau byw i bobl sy鈥檔 gweithio.

Mewn cyfarfod ar safle Toyota ar Lannau Dyfrdwy, fe wnaeth Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddatgan yn glir wrth arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru y byddant yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i ddatblygu鈥檙 economi yng Nghymru.聽Dyma鈥檙 drafodaeth ddiweddaraf gydag arweinwyr ym maes gweithgynhyrchu uwch mewn cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel rhan o鈥檌 hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru.

Yr wythnos diwethaf, roedd Ms Stevens wedi lansio Gr诺p Cynghori Twf Economaidd Cymru, a chyfarfu hefyd ag arweinwyr o鈥檙 diwydiannau digidol a thechnolegol yng Nghymru. Yr wythnos flaenorol, cyfarfu 芒鈥檙 sector creadigol.

Mae鈥檙 gr诺p hefyd yn gweithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i lywio Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i roi hwb i ddiwydiannau allweddol Cymru, ac i lywio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad nesaf o Wariant. Mae disgwyl y ddau beth hyn yn ystod gwanwyn 2025.

Yng Nghyllideb yr Hydref, cadarnhaodd y Canghellor 拢320 miliwn o gyllid ar gyfer dau Barth Buddsoddi yng Nghymru. Caiff Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint ei gefnogi gan 拢160 miliwn o arian Llywodraeth y DU a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo cyfleoedd buddsoddi, creu swyddi ychwanegol, a sbarduno twf economaidd.聽

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae fy ffocws ar dyfu鈥檙 economi yng Nghymru a sicrhau bod gan bobl fwy o arian yn eu pocedi. Mae鈥檙 sector gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru yn sbardun allweddol ar gyfer twf.

Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Prif Weinidog ein Cynllun ar gyfer Newid gyda chenhadaeth glir i roi hwb i鈥檙 economi a chodi safonau byw i bawb.

Mae fy ymrwymiad i fusnesau yng ngogledd Cymru yn ymrwymiad personol. Dyma lle cefais fy magu ac rwy鈥檔 gwybod pa mor bwysig yw hi i helpu i sicrhau twf a gwneud gwahaniaeth go iawn i鈥檙 bobl sy鈥檔 byw ac yn gweithio yn yr ardal hon.

Dywedodd Richard Finchett, Cyfarwyddwr Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd, Plant Glannau Dyfrdwy:

Ers i ni ddechrau cynhyrchu injans yng Nglannau Dyfrdwy fwy na 30 mlynedd yn 么l, mae Toyota wedi bod yn falch o gyfrannu at gymdeithas Cymru ac at gyflogaeth o safon uchel yn yr ardal hon.

Mae gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys y sector modurol yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer economi ddeinamig gyda鈥檌 fuddsoddiadau cysylltiedig mewn pobl, cynhyrchu sgiliau a鈥檙 gymuned ehangach. Mae Cyfarfod Ford Gron Llywodraeth y DU heddiw a gynhaliwyd yn Toyota Glannau Dyfrdwy yn gam pwysig yn y ddeialog barhaus rhwng busnes a鈥檙 llywodraeth ynghylch ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer twf economaidd, ffyniant cenedlaethol ac arweinyddiaeth garbon isel ledled Cymru.

Dywedodd John Whalley, Prif Weithredwr Awyrofod Cymru:

Dwi鈥檔 falch iawn bod y Prif Weinidog, ar ei ymweliad diweddar ag Airbus ym Mrychdyn, wedi cadarnhau buddsoddiad gwerth 拢975 miliwn gan Lywodraeth y DU yn y sector awyrofod. A dwi鈥檔 falch o鈥檙 arwyddion cynnar o gydweithio agos 芒 Llywodraeth Cymru yn ogystal 芒鈥檙 datganiad o fwriad ym mhapur gwyrdd y Strategaeth Ddiwydiannol. Mae鈥檙 sectorau awyrofod a gofod yn edrych ymlaen at gydweithio ffrwythlon rhwng y ddwy lywodraeth a鈥檙 diwydiant gan arwain at fwy o ffyniant i bobl Cymru.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Mynychwyr y cyfarfod bwrdd crwn Gweithgynhyrchu Uwch:

  • Richard Finchett, Cyfarwyddwr, Toyota Manufacturing UK Glannau Dyfrdwy
  • Helen Swift, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Airbus
  • John Whalley, Prif Weithredwr, Awyrofod Cymru
  • Rachael Blackburn, Cyfarwyddwr, Awyrofod Cymru
  • Jackie Pearson, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, Shotton Mill Limited
  • David Chapman, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Triumph
  • David Randall, Cyfarwyddwr Peirianneg, Magellan Aerospace

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Rhagfyr 2024