Uwchgynhadledd rheilffyrdd Gogledd Cymru yn pwyso am foderneiddio yn y rhanbarth
Gweinidogion o Lywodraeth y DU mewn uwchgynhadledd rheilffyrdd i sicrhau bod Gogledd Cymru yn elwa o Bwerdy'r Gogledd.

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, a鈥檙 Gweinidog Rheilffyrdd, Claire Perry, yng Ngogledd Cymru heddiw (dydd Iau 12 Tachwedd) yn gobeithio cytuno ar greu corff mawr newydd i fynd 芒 moderneiddio鈥檙 rheilffyrdd rhagddo yn y rhanbarth.
Mae鈥檙 ddau weinidog mewn uwchgynhadledd rheilffyrdd yn Llandudno, lle mae disgwyl y cyhoeddir tasglu newydd, a fydd yn cynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a busnesau. Ei r么l fydd cyflwyno achos manwl i Lywodraeth y DU dros foderneiddio鈥檙 rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru.
Bydd cynnig y tasglu鈥檔 cael ei gynnig gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sy鈥檔 cynnwys ffigurau busnes amlwg o鈥檙 rhanbarth. Ynghyd 芒鈥檙 ddau weinidog o Lywodraeth y Du mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, hefyd yn yr uwchgynhadledd.
Mae disgwyl y cytunir ar fanylion y corff newydd yn yr uwchgynhadledd. Mae cefnogwyr pwysig o鈥檙 ochr draw i鈥檙 ffin yn cynnwys Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington a Chynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae Gogledd Cymru yn gartref i allforwyr mawr a sector busnesau bach a chanolig sy鈥檔 ffynnu. Mae鈥檙 rhanbarth deinamig hwn yn haeddu seilwaith gyda鈥檙 gorau yn y byd er mwyn ei helpu i ffynnu.
Mae Pwerdy鈥檙 Gogledd yn cysylltu dinasoedd mawr gogledd Lloegr i ail gydbwyso鈥檙 economi drwy hybu twf a buddsoddiad newydd - rhaid i Gymru beidio 芒 chael ei gadael ar 么l. Dyma鈥檙 amser i greu鈥檙 rhwydwaith trafnidiaeth modern sydd ei angen ar fusnesau Gogledd Cymru er mwyn elwa ar fanteision gweledigaeth Pwerdy鈥檙 Gogledd.
Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd, Claire Perry:
Mae鈥檙 llywodraeth un genedl hon yn benderfynol y bydd pob rhan o鈥檙 DU yn elwa o鈥檙 symiau mwy nag erioed o鈥檙 blaen rydyn ni鈥檔 eu buddsoddi mewn trafnidiaeth. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ail gydbwyso ein heconomi ac mae鈥檔 iawn y dylai Gogledd Cymru fod yn rhan o hynny.
Bydd teithwyr yn elwa o siwrneiau gwell diolch i鈥檔 cynigion i wella鈥檙 signalau ar y rheilffordd rhwng y Fflint a Chaergybi, a bydd y cysylltiad Halton Curve yn creu gwasanaethau rheolaidd uniongyrchol rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl am y tro cyntaf mewn degawdau. Bydd datganoli masnachfraint Cymru a鈥檙 Gororau hefyd yn helpu i sicrhau bod anghenion lleol yn cael eu diwallu. Ond wrth i ni edrych tua鈥檙 dyfodol, mae hi鈥檔 hollbwysig bod pobl, arweinwyr a busnesau Cymru yn cydweithio i greu achos clir dros ragor o welliannau.