Gogledd Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn ymgyrchoedd Llywodraeth y DU
Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi treulio dau ddiwrnod yng Ngogledd Cymru yn cwrdd 芒 busnesau blaenllaw yn y rhanbarth ac yn trafod eu cyfraniadau tuag at ymgyrchoedd ynni gl芒n a thwf economaidd Llywodraeth y DU.

Welsh Secretary Jo Stevens at Wockhardt UK Ltd.
- Ysgrifennydd Cymru yn hyrwyddo gwerth busnesau arloesol yng Ngogledd Cymru
- Gallai prosiectau i leihau allyriadau carbon helpu i gyflawni uchelgeisiau sero net y llywodraeth
- Y sector gwyddorau bywyd arloesol yn sbarduno twf economaidd ac yn cyfrannu swyddi sy鈥檔 talu鈥檔 dda
Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi treulio dau ddiwrnod (10 ac 11 Ebrill) yng Ngogledd Cymru yn cwrdd 芒 busnesau blaenllaw yn y rhanbarth ac yn trafod eu cyfraniadau tuag at ymgyrchoedd ynni gl芒n a thwf economaidd Llywodraeth y DU. Mae鈥檙 ymgyrchoedd yn gonglfeini i鈥檙 Cynllun ar gyfer Newid sydd gan Lywodraeth y DU i geisio codi safonau byw ledled y DU a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Yng ngwaith sment Heidelberg Materials yn Padeswood ger yr Wyddgrug, clywodd yr Ysgrifennydd Gwladol am brosiect arloesol Dal a Storio Carbon sy鈥檔 ceisio datgarboneiddio gwaith cynhyrchu sment a chyfrannu at nodau sero net y DU.
Mae Heidelberg Materials yn cynnig buddsoddi mwy na 拢600 miliwn yn ei waith yn Padeswood, a byddai hyn yn ei alluogi i gasglu hyd at 800,000 tunnell o CO2 y flwyddyn a chreu tua 50 o swyddi newydd.
Yng nghyfleuster Parc Adfer Enfinium yng Nglannau Dyfrdwy, gwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol sut mae鈥檙 orsaf heddiw yn trosi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn ynni a chynhyrchion defnyddiol eraill, a dangosodd y cwmni eu cynlluniau i 么l-osod Gorsaf Dal Carbon.
Mae鈥檙 prosiect Dal a Storio Carbon yn cynrychioli buddsoddiad o 拢200 miliwn yn economi werdd Gogledd Cymru ac mae Enfinium yn amcangyfrif y gallai dynnu hyd at 125,000t o garbon o鈥檙 atmosffer bob blwyddyn drwy鈥檙 deunydd organig y mae鈥檙 orsaf eisoes yn ei brosesu.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檔 wych gweld Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran cynlluniau ar gyfer Dal a Storio Carbon. Dyma dechnoleg sydd 芒 photensial enfawr i鈥檔 helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net.
Fel rhan o鈥檔 Cynllun ar gyfer Newid, rydym ni eisiau annog arloesedd a buddsoddiad fel y rhai sy鈥檔 cael eu dangos gan y cwmn茂au hyn yng ngogledd Cymru, gan arwain at dwf economaidd yn ogystal 芒 swyddi diogel sy鈥檔 talu鈥檔 dda yn y dyfodol.
Dywedodd Simon Willis, Prif Swyddog Gweithredol Heidelberg Materials UK:
Roeddem yn falch iawn o groesawu Jo Stevens i Padeswood a chael y cyfle i arddangos ein cynlluniau ar gyfer y safle.
Bydd ein prosiect Dal a Storio Carbon, a gafodd ganiat芒d cynllunio yn gynharach y mis hwn, yn dod 芒 buddsoddiad a chyfleoedd sylweddol i鈥檙 rhanbarth, gan roi hwb i economi Gogledd Cymru a sicrhau dyfodol tymor hir cannoedd o swyddi medrus.
Unwaith y bydd yn weithredol, bydd hefyd yn darparu deunyddiau adeiladu sero net ar gyfer prosiectau mawr ledled y wlad, gan roi鈥檙 diwydiant adeiladu ar lwybr tuag at ddatgarboneiddio a helpu鈥檙 llywodraeth i gyrraedd ei thargedau sero net erbyn 2050.
Dywedodd Prif Weithredwr Enfinium, Mike Maudsley:
Pleser oedd croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyfleuster Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy, i drafod ein cynlluniau i fuddsoddi yn y rhanbarth a helpu i dyfu鈥檙 economi werdd yng Ngogledd Cymru.
Er mwyn cyflawni sero net, mae angen i Gymru a鈥檙 DU ddod o hyd i ffordd o waredu carbon ar raddfa fawr. Drwy ddal carbon ym Mharc Adfer mae modd datgarboneiddio gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yng Nghymru, a hefyd trawsnewid y safle i fod y prosiect gwaredu carbon mwyaf yng Nghymru.
Tra oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y gogledd, gwelodd hi鈥檙 busnesau arloesol yn sector gwyddorau bywyd yr ardal.
Mae Wockhardt UK Ltd yn is-gwmni i gwmni fferyllol byd-eang sydd 芒鈥檌 bencadlys Prydeinig yn Wrecsam. Mae gan y safle hefyd gyfleuster gweithgynhyrchu chwistrelladwy di-haint sydd wedi bod yn allweddol wrth gynhyrchu brechlyn COVID-19 Astra-Zeneca/Rhydychen.
Yn ystod ei hymweliad, aeth Jo Stevens ar daith o amgylch y labordai a鈥檙 ardaloedd gweithgynhyrchu, cwrdd 芒 phrentisiaid, a thrafod y dylanwad y mae鈥檙 cwmni yn ei gael ar economi鈥檙 rhanbarth. Ailadroddodd ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi鈥檙 sector gwyddorau bywyd a sbarduno twf economaidd parhaus drwy fuddsoddi ac arloesi.
Yn ei hymweliad olaf, aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Ipsen Biopharm, sef cwmni biofferyllol byd-eang sydd 芒 chanolfan rhagoriaeth niwrowyddonol yn Wrecsam. 聽Gwelodd eu gwaith yn datblygu ac yn cynhyrchu niwrodocsinau, sy鈥檔 cael eu defnyddio i drin pobl sy鈥檔 byw 芒 chyflyrau niwrolegol.
Mae Ipsen wedi buddsoddi dros 拢100 miliwn yn ei safle yn Wrecsam dros y tair blynedd diwethaf, er mwyn ehangu ei waith ymchwil a datblygu yn ogystal 芒鈥檌 alluoedd gweithgynhyrchu. Mae鈥檙 safle鈥檔 defnyddio 100% o ynni adnewyddadwy ar draws ei unedau cynhyrchu ac ymchwil.
Dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr Wockhardt UK Ltd, Ravi Limaye:
Anrhydedd oedd croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, i鈥檔 cyfleuster. Mae Wockhardt yn Wrecsam ers 21 o flynyddoedd ac mae wedi gweld y dref yn troi鈥檔 ddinas ac yn enwog ar lwyfan y byd.
Roedden ni鈥檔 rhan o鈥檙 gwaith o gynhyrchu鈥檙 brechlyn COVID ac rydym ni鈥檔 eithriadol o falch o鈥檔 staff ymroddedig a lwyddodd i wneud hyn er gwaethaf yr heriau na welwyd eu tebyg o鈥檙 blaen yn sgil y pandemig.
Dywedodd Jeannette Brend, Pennaeth Safle yn Ipsen yn Wrecsam:
Mae Ipsen yn Wrecsam sy鈥檔 creu cynnyrch sy鈥檔 cael ei allforio i gleifion mewn 90 a mwy o wledydd ledled y byd. Mae Wrecsam yn safle pwysig i Ipsen, ac rydym ni鈥檔 falch o fod yn gyflogwr o bwys yn y gymuned leol a buddsoddi yn yr ardal.
Rydym ni鈥檔 croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi鈥檙 sector gwyddorau bywyd ac rydym ni鈥檔 gobeithio y bydd hyn yn parhau er mwyn i arloesedd barhau i ffynnu.鈥澛�
Drwy gydol ei hymweliadau, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu twf economaidd ac ynni gl芒n, gan bwysleisio mor bwysig yw buddsoddi mewn technolegau gwyrdd a gwyddorau bywyd i gefnogi datblygiadau yn y rhanbarth a chreu swyddi.
DIWEDD