Gogledd Cymru鈥檔 Cynnal Uwchgynhadledd Ddod 盲 Chyfleoedd Pwerdy Gogledd Lloger Dros y Ffin
Mae arweinwyr busnesau dylanwadol a gwleidyddion o鈥檙 ddwy ochr i鈥檙 ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi cyfarfod i drafod sut y gall Gogledd Cymru wneud y gorau o gyfleoedd economaidd Ardal Pwerdy Gogledd Lloegr.
Bwriad yr uwchgynhadledd drawsffiniol, a gynhaliwyd yng Ngholeg Cambria yn Sir y Fflint, oedd hybu trafodaeth ddyfal a chodi ymwybyddiaeth ymysg busnesau yngl欧n 芒 sut i gyflymu datblygiad economaidd trawsffiniol drwy amrywiaeth o fentrau sydd o fudd i鈥檙 ddwy ochr. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys moderneiddio鈥檙 rhwydwaith trafnidiaeth, manteisio i鈥檙 eithaf ar gyfleoedd yn y sector ynni, a strategaeth datblygu economaidd drawsffiniol glir a th卯m economaidd trawsffiniol cryf.
Yn ymuno 芒 Guto Bebb, Gweinidog yn Swyddfa Cymru a Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet Cymreig dros yr Economi a Seilwaith, ar Gampws Llaneurgain roedd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau busnes gan gynnwys Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Ffederasiwn Busnesau Bach, y CBI, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, cadeiryddion Ardaloedd Menter Cymru, Siambr Swydd Gaer a Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi Dyfrdwy.
Wrth siarad cyn yr Uwchgynhadledd, dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb:
Mae鈥檙 uwchgynhadledd hon yn adlewyrchu pwysigrwydd Gogledd Cymru a鈥檙 r么l mae鈥檔 ei chwarae mewn perthynas 芒 Phwerdy Gogledd Lloegr.
Rwy鈥檔 falch o fod yma鈥檔 gweithio ochr yn ochr 芒 Llywodraeth Cymru, ac mae hynny鈥檔 sicr o鈥檔 helpu i gyflawni mwy dros yr ardal. Yn sgil canlyniad refferendwm yr U.E. mae鈥檔 hanfodol ein bod ni鈥檔 edrych ar yr holl gyfleoedd sy鈥檔 gallu cryfhau ein heconomi. Bydd sicrhau cynllun twf yn sicr yn gymorth i adeiladu economi鈥檙 rhanbarth ac i fanteisio i鈥檙 eithaf ar y cysylltiadau 芒 Phwerdy Gogledd Lloegr. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Canghellor a chydweithio dros y ffin. Mae hyn yn newyddion da i Ogledd Gymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet Cymreig dros yr Economi a Seilwaith:
Mae gen i uchelgeisiau economaidd mawr ar gyfer y Gogledd ac rwy鈥檔 benderfynol o wneud popeth y gallaf i sbarduno ffyniant a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.
Mae Pwerdy Gogledd Lloegr yn gyfle anferth i鈥檙 Gogledd ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru ran amlwg iawn ym mhob penderfyniad a chynnig datblygu er mwyn sicrhau鈥檙 dyfodol gorau posibl i鈥檙 rhanbarth.
Rhaid inni alinio鈥檔 blaenoriaethau 芒 rhai Pwerdy Gogledd Lloegr, yn enwedig yng nghyd-destun cynllun Twf y Gogledd, yn ogystal 芒 datblygu鈥檙 cyfryngau gorau posib ar gyfer gweithio鈥檔 effeithiol ar draws y ffin.
Mae Cynhadledd Gogledd Cymru yn dilyn cyhoeddi鈥檙 Adolygiad Economaidd Annibynnol o Bwerdy Gogledd Lloegr wythnos ddiwethaf sy鈥檔 tynnu sylw at feysydd y mae Gogledd Lloegr yn arwain y byd ynddynt. Mae hefyd yn nodi鈥檙 mesurau sydd eu hangen i sicrhau gwelliannau i economi鈥檙 rhanbarth gan ddod i鈥檙 casgliad fod angen newid radical er mwyn cau bylchau mewn sgiliau a chynhyrchiant ond y gallai newidiadau o鈥檙 fath arwain o bosibl at 850,000 o swyddi erbyn 2050.