Hwb i Ogledd Cymru wrth i Lend Lease ennill contract carchar
Gogledd Cymru i elwa o gontract sydd werth miliynau ar filiynau o bunnoedd

Bydd cynigion y contract yn esgor ar fudd sylweddol i economi Gogledd Cymru a, thrwy greu swyddi a chyfleoedd, mae鈥檔 cyd-fynd 芒 chynllun tymor hir y Llywodraeth i greu economi cryfach a mwy gwydn. Mae鈥檙 contract adeiladu, sydd werth 拢151m (a TAW) hefyd yn sicrhau y bydd cyfanswm gwerth y prosiect, o gynnwys costau eraill, yn 拢212m - dipyn yn llai na鈥檙 amcanbris gwreiddiol o 拢250m.
Mae鈥檙 cynigion yn cynnwys oddeutu 拢50m i鈥檞 wario gyda busnesau bach a chanolig eu maint (BBCh), 拢30m i鈥檞 wario gyda busnesau lleol a 50% o鈥檙 gweithlu cyfan i鈥檞 recriwtio yn yr ardal leol, gan gynnwys oddeutu 100 o brentisiaid. Mae Lend Lease hefyd wedi cynnig cymorth ymarferol i ysgolion lleol a neilltuo amser i gwrdd ag anghenion lleol drwy gyflogi Rheolwr Ymgysylltu 芒鈥檙 Gymuned.
Dyma oedd gan y Gweinidog Carchardai Jeremy Wright i鈥檞 ddweud:
Roeddem yn gwybod y byddai carchar newydd yng Nghymru yn hwb aruthrol i economi Cymru, ac rwyf wrth fy modd y bydd pobl leol yn elwa ohono.
Bydd y contract hwn yn sicrhau y bydd miliynau o bunnoedd yn cael eu gwario gyda BBChau, ynghyd 芒 lefelau sylweddol o waith i fusnesau lleol a phobl ifanc - elfen allweddol o gynllun tymor hir y Llywodraeth hon i adeiladu economi cryfach.鈥�
Bydd y carchar cyntaf hwn yng ngogledd Cymru yn hwb sylweddol hefyd i鈥檙 stad carchardai, gan helpu i sicrhau bod trethdalwyr yn cael y gwerth gorau posib a chadw troseddwyr yn nes at eu cartrefi yr un pryd, er mwyn helpu i atal aildroseddu.
Amcangyfrifir y bydd adeiladu鈥檙 carchar yn creu oddeutu 1,000 o swyddi ac yn ychwanegu oddeutu 拢23m y flwyddyn i economi鈥檙 rhanbarth. Mae鈥檙 Gweinidog dros Gyfiawnder wedi bod yn arbennig o frwdfrydig dros ddefnyddio BBChau a busnesau lleol yn ystod y broses dendro, gan gynnal digwyddiad arbennig ar gyfer cyflenwyr lleol er mwyn helpu cwmn茂au i ddangos y gwasanaethau y gallant eu cynnig i ddarpar gontractwyr.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:
Bydd y carchar newydd yn Wrecsam yn hwb aruthrol i economi rhanbarthol gogledd Cymru.
Yn ystod y digwyddiad ar gyfer cyflenwyr lleol ym mis Ionawr, gwelsom y cynnyrch a鈥檙 gwasanaethau o safon yr oedd busnesau lleol yn gallu eu cynnig wrth iddynt gystadlu am gael bod yn rhan o鈥檙 datblygiad pwysig hwn.
Roeddwn wrth fy modd yn gweld cynifer o gwmn茂au鈥檔 mynegi diddordeb mor gryf mewn cyfrannu at adeiladu鈥檙 carchar.
Roedd yn brawf clir bod gan Gymru rai o鈥檙 cyflenwyr gorau yn y DU, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn elwa鈥檔 uniongyrchol o gyhoeddiad arwyddocaol heddiw.
Y carchar newydd ar gyfer 2,100 o garcharorion fydd y cyntaf yng ngogledd Cymru, ac mae鈥檔 rhan o gynlluniau moderneiddio parhaus a fydd nid yn unig yn creu stad carchardai addas ar gyfer ei bwrpas ond hefyd yn tocio 拢500m oddi ar gostau carchardai yn ystod y cyfnod adolygu gwariant cyfredol.
Mae gwaith ar y safle eisoes wedi dechrau 鈥� hen safle ffatri Teiars Firestone 鈥� a bydd y carchar yn gwbl weithredol erbyn diwedd 2017.
Nodiadau i olygyddion:
- Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, ffoniwch Ddesg Newyddion y Weinyddiaeth Gyfiawnder: 020 3334 3536.