Dathliadau Casnewydd: bandiau, byrgyrs ac awyrennau'n hefan heibio i gofio am frwydr Prydain
Mae rhagor o ddigwyddiadau a gweithgareddau i鈥檙 teulu wedi鈥檜 hychwanegu at ddathliadau鈥檙 ddinas groeso, ar thema NATO, y dydd Sadwrn hwn.
Newport Riverfront
Bydd y digwyddiadau, a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Chyngor Dinas Casnewydd, yn dechrau gyda band y Marchoglu Cartref yn chwarae cerddoriaeth o amgylch canol y ddinas o 10:30am ymlaen. Caiff y trigolion gyfle i flasu bwyd a diod o 28 gwlad y Gynghrair mewn g诺yl a gynhelir ar hyd glannau afon Wysg ger Theatr Glan yr Afon a The Wave.
Bydd byrgyrs cig ceirw Llychlyn ar gael, wafflau o Wlad Belg, sm枚rg氓sbord o Ddenmarc, paella o Sbaen a llawer iawn mwy. Ar stondin Prydain cews flasu caws Cymreig o Geredigion ynghyd 芒 gwirod sy鈥檔 cael ei fragu鈥檔 lleol.
Bydd pedwar o fandiau lleol yn diddanu鈥檙 dorf, a gall plant fwynhau cael peintio鈥檜 hwynebau, rhoi cynnig ar waliau dringo yn ogystal ag ar her cwrs rhwystrau gwynt y fyddin gydol y dydd.
Bydd milwyr o bob rhan o鈥檙 fyddin, gan gynnwys Brig芒d 160 (Cymru), wrth law i ddangos offer a cherbydau milwrol. Bydd cogyddion y fyddin hefyd yno i baratoi鈥檙 prydau y maent yn eu gweini i鈥檙 milwyr ar y rheng flaen. Caiff y trigolion gyfle i flasu鈥檙 rhain.
Bydd Awyrennau鈥檔 Hedfan Heibio dros y ddinas i gofio Brwydr Prydain i gloi dathliadau鈥檙 dydd am 19:30.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:
Mae llai na thair wythnos i fynd bellach nes daw Casnewydd dan y chwyddwydr rhyngwladol wrth iddi gynnal Uwchgynhadledd NATO. Mae Dathliadau鈥檙 Ddinas Groeso yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd y dydd Sadwrn hwn i nodi鈥檙 Uwchgynhadledd hanesyddol hon ac i arddangos ein dinas groeso falch.
Bydd yr 诺yl yn rhoi cyfle i bobl flasu bwyd y gwledydd fydd yn mynychu鈥檙 Uwchgynhadledd a cheir dewis gwych o weithgareddau ar gyfer pobl o bob oedran. Rwyf wir yn edrych ymlaen i fod yn bresennol a byddwn yn annog pobl i ddod draw am ddiwrnod llawn hwyl fydd yn rhagflaenu Uwchgynhadledd NATO鈥�.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Ray Truman, dirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:
Mae鈥檙 amserlen ddigwyddiadau hon a drefnwyd gan Lywodraeth y DU yn addo bod yn gyfuniad cyffrous o arddangosfeydd ac adloniant i鈥檙 teulu i gyd鈥�.
Uchafbwyntiau digwyddiadau Glan yr Afon:
10:30 Band y Marchlu Cartref yn gorymdeithio ac yn chwarae cerddoriaeth yng nghanol y ddinas
11:00 Seremoni Agoriadol gyda Band y Marchlu Cartref
11:30-16:30 G诺yl Fwyd
Clwb P锚l-droed Sir Casnewydd yn erbyn Burton Albion (Rodney Parade)
14:30 Band y Marchlu Cartref yn chwarae
14:50 Y Red Devils yn plymio o鈥檙 awyr i鈥檙 cae ac yn cyflwyno p锚l y g锚m i鈥檙 dyfarnwr
15:45 Band y Marchlu Cartref yn chwarae
Bydd amserlen gyflawn ar gyfer dathliadau dydd Sadwrn yn cael ei chyhoeddi ar www.newport.gov.uk
Cynhelir Uwchgynhadledd NATO 2014 yn y Celtic Manor ar 4-5 Medi.