Neges Blwyddyn Newydd Ysgrifennydd Cymru
Roedd 2015 yn flwyddyn ardderchog arall i Gymru. Mae鈥檔 edrych yn debyg bod gan 2016 botensial mawr i fod yr un peth hefyd.
Stephen Crabb
Yn ystod y 12 mis diwethaf, rwyf wedi ymweld 芒 nifer o gwmn茂au - mawr a bach - ac wedi gweld gyda llygaid fy hun eu bod yn gwneud mwy na dim ond llwyddo, maent yn ffynnu. Mae鈥檙 entrepreneuriaid uchelgeisiol sydd y tu 么l i鈥檙 cwmn茂au hyn yn cefnogi marchnad swyddi fywiog a chadarn yng Nghymru, sydd wedi gweld cynnydd mewn lefelau cyflogaeth o 42,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fodd bynnag, nid y rhifau yn unig sy鈥檔 bwysig. Mae angen i bobl ar hyd a lled y wlad elwa o economi sy鈥檔 adfywio. Rwy鈥檔 hyderus y byddant yn gwneud yn ystod 2016. Bydd cyflwyno鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol ym mis Ebrill yn cynyddu cyflogau clir cannoedd ar filoedd o weithwyr yng Nghymru. Bydd hyn, ynghyd 芒鈥檔 hymdrechion i ostwng trethi, yn golygu y bydd pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed yn cadw mwy o鈥檙 arian y maent yn ei ennill, a fydd yn ein helpu i ddod yn agosach at fod yn gymdeithas sy鈥檔 cael cyflogau uwch, sy鈥檔 talu llai o drethi a lle mae llai o bobl yn cael taliadau lles.
Hefyd, yn 2015, dathlwyd y ffaith bod Caerdydd yn brifddinas Cymru ers 60 mlynedd. Cynyddodd hyn ei enw da yn fyd-eang fel lle gwych i ymweld ag ef, i aros ac i wneud busnes. Cadarnhawyd ei chymwysterau fel gwesteiwr safon byd-eang i ddigwyddiadau mawr yn ystod twrnamaint hynod Cwpan Rygbi鈥檙 Byd. Mae鈥檙 gobaith o gael 鈥楤argen Dinas鈥� ar gyfer y brifddinas yn cynnig cyfle gwych i adeiladu partneriaeth unigryw rhwng y sector gyhoeddus a鈥檙 sector preifat i drawsnewid ein Prifddinas-Ranbarth. Edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion cadarn o Gaerdydd a Llywodraeth Cymru a fydd yn helpu i ddiogelu dyfodol economaidd un o ddinasoedd mawr y DU.
Yng ngogledd Cymru, rydym yn gweld buddion Northern Powerhouse yn barod. Fel yr ydym yn gwella鈥檙 cysylltiadau rhwng ein dinasoedd yn y gogledd, rwy鈥檔 hyderus y bydd busnesau yng ngogledd Cymru yn ffynnu.
Roedd 2015 yn garreg filltir i daith datganoli Cymru hefyd, gan i鈥檙 Llywodraeth gyflawni ei haddewid i gyflwyno cyllid gwaelodol hanesyddol a dwyn ymlaen deddfwriaeth ddrafft i gryfhau鈥檙 Cynulliad Cenedlaethol. Gyda鈥檙 cynlluniau i gyflwyno cyfradd newydd ar gyfer Treth Incwm yng Nghymru, rydym wedi paratoi鈥檙 ffordd ar gyfer etholiadau cyffrous a gwahanol iawn yn y Cynulliad ym mis Mai, gyda gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn awr yn atebol i鈥檙 bobl am yr arian y maent yn ei wario.
Yn 2016, bydd ein t卯m p锚l-droed cenedlaethol yn cael eu tro i serennu ar lwyfan chwaraeon y byd ym Mhencampwriaeth Ewrop, yn ystod beth sy鈥檔 addo i fod yn haf cofiadwy o chwaraeon.
Yn olaf, diogelwch. Ym mis Ionawr, sefais ochr yn ochr 芒 gwleidyddion ac arweinwyr crefyddol y tu allan i鈥檙 Senedd i alaru am y rhai a fu farw yn yr ymosodiad terfysgol Charlie Hebdo. Daeth pobl ar hyd a lled Cymru ynghyd mewn undod a brawdgarwch.
Gwaetha鈥檙 modd, nid dyma oedd y digwyddiad terfysgol gwaethaf a welsom yn 2015. Roedd yr ail ymosodiad ar brif ddinas Ffrainc ym mis Tachwedd yn anghredadwy. Mae fy nghysylltiad personol 芒鈥檙 ddinas, a gyda Ffrainc fel gwlad, yn golygu bod yr erchyllterau鈥檔 anoddach byth i鈥檞 deall.
Rydym yn byw mewn byd peryglus, ond prif ddyletswydd y Llywodraeth yw cadw pobl y DU yn ddiogel, a gwneud yn si诺r ein bod yn byw mewn cymdeithas gynhwysol. Wrth inni fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 bygythiad byd-eang gan ISIS, hoffwn dalu teyrnged i鈥檙 arweinwyr crefyddol yng Nghymru sy鈥檔 condemnio dysgeidiaethau eithafol ac sy鈥檔 gweithio gyda鈥檌 gilydd i atal eithafiaeth a chynnal cymunedau cydlynol.
Ar ran t卯m Gweinidogol Swyddfa Cymru, hoffwn ddymuno 2016 hapus, heddychlon a ffyniannus i chi.
Stephen Crabb
Ysgrifennydd Gwladol Cymru