Neges y Flwyddyn Newydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru
David Jones AS yn edrych ymlaen at 2014

David Jones MP
Wrth i 2013 dynnu at ei therfyn, gallwn edrych ymlaen at 2014 gyda brwdfrydedd o鈥檙 newydd. Drwy lynu wrth ein cynllun economaidd ar gyfer y materion mawr sy鈥檔 bwysig i bobl Cymru, rydw i鈥檔 falch o gael dweud ein bod yn mynd i鈥檙 cyfeiriad iawn.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae鈥檙 Llywodraeth hon wedi rhoi mwy a mwy o fesurau cadarn yn eu lle i helpu i ailadeiladu a meithrin yr economi. Rhaid i ni gofio ein bod wedi etifeddu gwaddol echrydus 鈥� un a oedd yn ein gorfodi i wneud penderfyniadau eithriadol anodd. Rydw i鈥檔 gwybod bod rhai o鈥檙 penderfyniadau hyn wedi effeithio arnoch chi鈥檔 bersonol neu鈥檔 broffesiynol. Ond dim ond drwy ddal ein tir y bydd posib i ni wynebu鈥檙 her a datblygu i fod yr economi sy鈥檔 tyfu gyflymaf yn y byd Gorllewinol.
Bydd ein cysondeb wrth fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 diffyg ariannol, gan sicrhau hefyd bod y DU yn lle gwych i wneud busnes ynddo, yn golygu ein bod nid yn unig yn gweld bod yr economi yn tyfu, ond bod y twf hwnnw鈥檔 ennill momentwm.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld cwmn茂au鈥檔 dangos yn gyson mai nid dim ond goroesi y maent ond, yn hytrach, arloesi a ffynnu. Mae gennym fwy nag erioed o bobl mewn gwaith ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi bod yn dyst i鈥檙 cynnydd canran mwyaf mewn cyflogaeth yn y sector preifat mewn unrhyw ranbarth yn y DU.
Yn 2013, fel sail i鈥檞 huchelgais i sicrhau cydbwysedd o鈥檙 newydd yn economi Cymru a meithrin y sector preifat, gwnaed buddsoddiad mawr yn y seilwaith gan Lywodraeth y DU.
O鈥檙 拢250 miliwn o fuddsoddiad mewn carchar newydd yn Wrecsam i gefnogaeth ar gyfer cyllido gorsaf p诺er niwclear Wylfa Newydd, rydym wedi dangos ein hymrwymiad i wella seilwaith Prydain, sy鈥檔 hanfodol yn ein barn ni i gyflwyno twf economaidd tymor hir a chytbwys.
Rydym hefyd yn gwybod bod seilwaith TG yn rhan hanfodol o鈥檔 heconomi. Dyna pam ein bod wedi rhoi bron i 拢57 miliwn i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cartrefi a busnesau yn rhai o ardaloedd mwyaf anhygyrch Cymru yn gallu cael band eang. Rydw i wrth fy modd bod yr ehangu ar droed eisoes.
Mae mwy a mwy o gymunedau鈥檔 elwa o ddefnyddio tua 3,000 o gabinetau band eang ffibr newydd ledled Cymru, ac mae鈥檙 busnesau yn ein Dinasoedd Cysylltiad Cyflym, sef Caerdydd a Chasnewydd, yn gallu gwneud cais yn awr am grantiau unigol o hyd at 拢3,000 i dalu costau gosod band eang cyflymach a gwell.
Yn y dyfodol agos iawn, bydd tua 100,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn cael mynediad i fand eang cyflym iawn o ganlyniad uniongyrchol i鈥檙 prosiect hwn.
Hefyd rydym wedi parhau i ddangos bod y Llywodraeth hon yn sefyll yn gadarn ar ochr busnesau. Cyflwynodd Cyllideb y Canghellor a Datganiad yr Hydref eleni bolis茂au a fydd yn rhoi hwb i fusnesau a hyder defnyddwyr yma yng Nghymru; ac roedd lansio ein strategaeth Busnesau Bach: Uchelgais MAWR yn dangos yn glir ein hymrwymiad i roi grym i fusnesau bach.
Yn 2013, cyhoeddwyd y byddwn yn datganoli pecyn o bwerau benthyg a threthu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn rhoi iddynt yr adnoddau i fuddsoddi yng Nghymru ac, am y tro cyntaf, bydd y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol atebol i鈥檙 bobl sy鈥檔 eu hethol.
Cyhoeddwyd Bil drafft gennym ar gyfer Cymru cyn y Nadolig, fel cam cyntaf tuag at weithredu鈥檙 newidiadau hyn. Rwyf yn bwriadu bwrw ymlaen 芒鈥檙 ddeddfwriaeth cyn gynted ag y bydd amser seneddol yn caniat谩u, ar 么l craffu ar ddrafft y Bil.
Fodd bynnag, nid ydym eisiau aros nes i bwerau benthyg newydd Llywodraeth Cymru ddod yn weithredol cyn bwrw ymlaen 芒鈥檙 gwelliannau y mae eu gwir angen i鈥檙 M4 yn ardal Casnewydd. Felly, ym mis Tachwedd, roeddwn i鈥檔 hynod falch o groesawu Prif Weinidog Cymru i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio ei phwerau benthyg cyfyngedig presennol i sicrhau bod cynllun gwella鈥檙 M4 ar droed cyn gynted 芒 phosib.
Yn ystod yr ymweliad hwnnw, cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y bydd Cymru鈥檔 cynnal Uwch Gynhadledd NATO yn 2014. Hon fydd un o鈥檙 uwch gynadleddau rhyngwladol mwyaf i鈥檞 cynnal yn y DU erioed a鈥檙 uwch gynhadledd gyntaf gan NATO i鈥檞 chynnal yma ers 1990.
Bydd dod 芒 NATO i Gymru yn gyfle i ni dynnu sylw at yr hyn sydd gan Gymru, ei phobl a鈥檌 busnesau i鈥檞 gynnig i鈥檙 byd. Cawn gyfle i ddisgleirio ar y llwyfan rhyngwladol ac mae鈥檔 rhaid i ni wneud yn si诺r ein bod yn anfon arweinwyr y byd gartref gyda neges glir a chadarnhaol am bopeth sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig.
Yn 2014, byddwn hefyd yn dod at ein gilydd fel cenedl i nodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Drwy gyfrwng rhaglen pedair blynedd o ddigwyddiadau, byddwn yn anrhydeddu bywydau a dewrder pawb a wasanaethodd yn y rhyfel, fel aelodau o鈥檙 fyddin a gartref.
Yn gyfansoddiadol, 2014 fydd y flwyddyn bwysicaf i鈥檙 Deyrnas Unedig ers mwy na 300 o flynyddoedd. Mewn dim ond naw mis, gofynnir i bobl yr Alban wneud dewis hanesyddol rhwng parhau 芒鈥檙 Undod 鈥� aros yn rhan o鈥檙 DU 鈥� neu fynd eu hunain. Mae鈥檔 benderfyniad sydd 芒 goblygiadau pwysig a phellgyrhaeddol i bob rhan o鈥檙 DU, gan gynnwys Cymru.
Yn fy marn i, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno achos cadarnhaol a chryf i ddarbwyllo pobl yr Alban y dylai鈥檙 Alban aros yn rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig. Fel Cymro balch, ac un sydd o blaid undod, rwy鈥檔 ymgyrchu鈥檔 daer dros weld yr Alban yn pleidleisio dros Undod cadarn a pharhaus.
Yn 2014, byddwn yn parhau i reoli ein heconomi yn ofalus, i greu swyddi ac i ysgogi鈥檙 twf y mae Cymru wir ei angen. Os yw Cymru am lwyddo, mae鈥檔 rhaid i lywodraethau鈥檙 Deyrnas Unedig a Chymru gydweithio鈥檔 agos, a dyna beth rydw i鈥檔 benderfynol o鈥檌 wneud.
Ar ddechrau Blwyddyn Newydd, rydym yn gwneud hynny gyda鈥檙 hyder sy鈥檔 dod o sefydlu鈥檙 polis茂au priodol er mwyn sicrhau bod Cymru, a鈥檙 DU yn gyffredinol, yn gallu llwyddo yn y ras fyd-eang.
Ymhlith yr addewidion niferus a gaiff eu gwneud ar Ionawr 1af, gadewch i ni wneud un addewid er lles Cymru. Gadewch i ni ddechrau 2014 gydag addewid i groesawu鈥檙 dyfodol gydag optimistiaeth a realaeth, a pharhau i gydweithio er mwyn cynnal y cynnydd da sydd wedi鈥檌 wneud gyda鈥檙 heriau rydym wedi鈥檜 hwynebu, ac yr ydym wedi dod drwyddynt, gyda鈥檔 gilydd.
Ymunaf 芒鈥檓 cydweithwyr Gweinidogol yn Swyddfa Cymru i ddymuno Blwyddyn Newydd hapus a llewyrchus i bawb.