Datganiad i'r wasg

Bydd technoleg newydd yn helpu i gadw鈥檙 system cyfiawnder i symud yn ystod pandemig COVID-19

Mae technoleg fideo newydd yn cael ei gyflwyno i gynorthwyo鈥檙 system cyfiawnder i symud yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Animated graphic of a computer screen with four people on the screen
  • Technoleg fideo newydd i gefnogi gwrandawiadau o bell mewn llysoedd trsoeddol
  • Gellir cael mynediad i鈥檙 system ddiogel trwy ystod eang o declynau
  • Cam cyntaf platfform fideo newydd yn cael ei gyflwyno i fwy na 100 o lysoedd

Mae GLlTEM yn cyflwyno platfform fideo newydd i alluogi pob parti mewn gwrandawiad troseddol i gymryd rhan o bell - gan alluogi pob llys ynadon a llys y goron yng Nghymru a Lloegr i gynnal gwrandawiadau diogel, gan ei gwneud hi鈥檔 haws i sicrhau bod cyfiawnder yn parhau i gael ei weithredu.

Caiff y rhan fwyaf o achosion troseddol eu gwrando mewn llys ynadon a bydd y dechnoleg hon 鈥� isydd ar gael ar gyfer gwrandawiadau remand, terfyn amser yn y ddalfa a gwrandawiadau dedfrydu 鈥� yn galluogi pobl i symud drwy鈥檙 system cyfiawnder troseddol yn ystod y cyfnod anarferol hwn.

Ni fydd y dechnoleg hon yn cael ei defnyddio ar gyfer treialon rheithgor a bydd barnwr yn penderfynu fesul achos os bydd hi鈥檔 briodol i ddefnyddio unrhyw wrandawiad arall.

Gyda diolch i ymroddiad staff GLlTEM, mae llysoedd yn parhau i flaenoriaethu pob gwrandawiad sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 ddalfa, carchariad a mechn茂aeth, a cheisiadau brys ar faterion megis trais domestig. Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 90% o鈥檙 holl achosion ers 14ddeg Ebrill wedi cael eu cynnal o bell gan sicrhau bod pobl fregus yn cael eu gwarchod.

Dywedodd Gweinidog y Llysoedd, Chris Philp

Mae鈥檔 hanfodol bod cyfiawnder yn parhau i gael ei weithredu yn y cyfnod anodd hwn a bydd y platfform newydd hwn yn cyflwyno technoleg fideo diogel a chadarn i lysoedd ar draws Cymru a Lloegr i鈥檞 galluogi i gyflawni mwy o鈥檜 gwaith pwysig.

Gwnaed argraff fawr arnaf o ran sut y mae鈥檙 system cyfiawnder wedi addasu cystal i鈥檙 sialensau anarferol yr ydym yn eu hwynebu.

Rydym eisoes wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o achosion sy鈥檔 cael eu gwrando o bell, a bydd y datblygiad hwn yn sicrhau bod olwynion cyfiawnder yn parhau i droi.

Dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Guy Kearl CF, Uwch Farnwr Cylchdaith yn Llys y Goron Leeds:

Mewn amser ansicr, mae gwybod bod rheolaeth y gyfraith yn goroesi ac y bydd cyfiawnder yn cael ei weithredu yn rhoi cysur mawr i bawb ohonom.

Mae鈥檙 dechnoleg fideo ddiogel hon yn un amlbwrpas ac yn rhoi鈥檙 gallu hanfodol i gyflwyno amrediad o wrandawaiadau troseddol: Rwyf yn falch iawn o gael bod yn rhan o鈥檙 gwaith o鈥檌 gyflwyno鈥檔 llwyddiannus.

I ddechrau bydd y Platfform Cwmwl Fideo Kinly (CVP) yn cael ei gyflwyno i 60 o lysoedd ynadon a 48 o lysoedd y goron sydd ar hyn o bryd yn agored i鈥檙 cyhoedd, gydag eraill yn dilyn mor fuan 芒 phosibl. Yn ogystal mae鈥檔 cael ei gyflwyno i lysoedd Sifil a Theulu.

Mae CVP yn cysylltu鈥檔 ddiogel i鈥檙 rhywdwaith fideo presennol ar gyfer y system cyfiawnder sy鈥檔 cysylltu gorsafoedd heddlu a charchardai gyda鈥檙 llysoedd, a gellir cael mynediad iddo trwy unrhyw ddyfais sydd 芒 chysylltiad i鈥檙 rhyngrwyd a chyda camera a meicroffon.

Mae llysoedd ynadon yn Llundain, y De-Ddwyrain, y De-Orllewin a鈥檙 Canolbarth wedi dechrau defnyddio CVP, gyda鈥檙 un cyntaf yn gwneud hynny yn gynharach yn ystod y mis hwn.

Yn ogystal cafodd ei gyflwyno yn Llysoedd y Goron Leeds, Sheffield, Newcastle a Hull gyda mwy o lysoedd yn y De-Ddwyrain yn barod i ddechrau. Y bwriad yw y bydd 16 o lysoedd ynadon a naw o lysoedd y goron yn defnyddio CVP erbyn diwedd yr wythnos nesaf.

Cyn belled mae GLlTEM wedi cynnal 412 o wrandawiadau remand trwy CVP, wedi cysylltu arlein gyda 26 o ddalfeydd yr heddlu, cysylltu 95 o eiriolwyr, 42 o erlynwyr y Goron, 20 o swyddogion Prawf a dau gyfieithydd.

Dywedodd Amanda Pinto CF, Cadair Cyngor y Bar:

Mae鈥檔 rhaid i ni gadw鈥檙 system cyfiawnder i fynd er budd y cyhoedd. Mae bargyfreithwyr yn ogystal 芒鈥檙 farnwriaeth, staff y llysoedd a llawer mwy, yn benderfynol o addasu鈥檔 gyflym i weithredu cyfiawnder yn ystod Covid-19, gan gynnwys gwneud hynny o bell. Mae鈥檙 platfform CVP newydd yn holl bwysig i鈥檙 ymdrechion hyn, gan alluogi mwy o achosion i gael eu gwrando heb yr angen i bawb orfod casglu鈥檔 gorfforol mewn ystafell llys. Rydym wedi cael adborth positif gan fargyfreithwyr sydd wedi cymryd rhan mewn gwrandawiadau lle defnyddiwyd CVP yn barod. Rwyf yn awyddus i鈥檞 weld yn cael ei gyflwyno鈥檔 ehangach ac i sicrhau gymaint ag sy鈥檔 bosibl bod cyfiawnder effeithiol yn cael ei weithredu, yn hytrach na鈥檌 gadw i aros.

Dywedodd DPG Tony Blaker o Heddlu Kent ac arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer y Llysoedd:

Mae plismona yn defnyddio鈥檙 dechnoleg arloesol hon ac yn adeiladu ar ein partneriaeth bresennol gyda GLlTEM; gan helpu i warchod y cyhoedd a phobl sy鈥檔 gweithio mewn asiantaethau cyfiawnder troseddol. Trwy gynnal gwrandawiadau o bell yn ystod yr argyfwng hwn, gallwn helpu i leihau lledaeniad y feirws a sicrhau bod y System Cyfiawnder Troseddol yn parhau i weithio鈥檔 effeithiol. Rydym yn gweithio ar fyrder gyda鈥檔 partneriaid i gynyddu鈥檙 defnydd o dechnoleg, gan barhau i roi buddion i鈥檙 cyhoedd a chadw pobl yn saff.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2020