Datganiad i'r wasg

Cyfraddau newydd Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn dod i rym

Bydd 80,000 o weithwyr yng Nghymru yn elwa

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Minimum Wage

  • Bydd dros filiwn o bobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 cael codiad cyflog heddiw wrth i鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol godi.
  • Bydd prentisiaid yn cael mwy o gynnydd nag erioed
  • Cynnydd o dros 拢1,000 yng nghyflog blynyddol prentis llawn amser

Bydd cyflogau miloedd o weithwyr yng Nghymru鈥檔 cael hwb o heddiw ymlaen wrth i gyfraddau newydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ddod i rym.

O ddydd Iau 1 Hydref 2015, bydd cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer prentisiaid yn codi 57 ceiniog i 拢3.30 a bydd cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer oedolion yn codi 20 ceiniog o 拢6.50 i 拢6.70 yr awr.

Mae prentisiaid yn cael mwy o hwb nag erioed ac mae鈥檔 golygu y bydd y rheini sy鈥檔 gweithio 40 awr yr wythnos yn derbyn 拢1,185 yn fwy yn eu cyflogau dros y flwyddyn.

Drwy fabwysiadu cyfradd uwch na鈥檙 hyn a argymhellwyd gan y Comisiwn Cyflogau Isel (LPC), bydd prentisiaethau鈥檔 cynnig cyflog sy鈥檔 debyg i ddewisiadau gwaith eraill.

Y cynnydd o 3% yn y gyfradd i oedolion yw鈥檙 cynnydd real mwyaf ers 2006 ac mae鈥檔 golygu bod yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn agosach nag erioed at y cyfartaledd cyflog. Mae鈥檙 gyfradd newydd yn golygu y bydd cyflogai sy鈥檔 gweithio鈥檔 llawn amser, am 40 awr, yn gweld y cynnydd ariannol mwyaf yn ei gyflog blynyddol ers 2008.

Yng Nghymru, bydd oddeutu 80,000 o swyddi鈥檔 dod o dan y gyfradd newydd i oedolion.

Cyfraddau鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol o 1 Hydref 2015, fel y鈥檜 hargymhellwyd gan y Comisiwn Cyflogau Isel (LPC) yw:

  • bydd y gyfradd i oedolion yn cynyddu 20 ceiniog i 拢6.70 yr awr
  • bydd y gyfradd i bobl ifanc 18 i 20 oed yn cynyddu 17 ceiniog i 拢5.30 yr awr
  • bydd y gyfradd i bobl ifanc 16 i 17 oed yn cynyddu 8 ceiniog i 拢3.87 yr awr
  • bydd y gyfradd i brentisiaid yn cynyddu 57 ceiniog i 拢3.30 yr awr
  • mae鈥檙 swm sy鈥檔 cael ei osod yn erbyn llety鈥檔 cynyddu o 拢5.08 i 拢5.35

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y cynnydd heddiw yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn hwb i gyflogau miloedd o weithwyr ar hyd a lled Cymru. Yn bwysig iawn, mae hyn yn cynnwys prentisiaid, sydd wrth galon ein hymrwymiad i gefnogi economi gryfach.

Mae鈥檙 cynnydd hwn, yn ogystal 芒 chyflwyno鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol a鈥檙 cynnydd yn y lwfans personol di-dreth, yn rhannau hanfodol o鈥檔 cynllun i symud tuag at gymdeithas 芒 llai o bwysau o ran lles a threthi, ond gyda chyflogau uwch.

Mae鈥檙 Llywodraeth hon ar gyfer un genedl wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith yn talu a gwneud yn si诺r bod pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed yn cael y cyflog mae ganddyn nhw hawl i鈥檞 gael.

Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol, sy鈥檔 dechrau fis Ebrill nesaf ar 拢7.20 yn cyrraedd dros 拢9 erbyn 2020.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2015