Safle profi COVID lleol newydd wedi agor ym Mangor
Dyma'r safle diweddaraf i'w agor yng Nghymru gan Lywodraeth y DU

Mae cyfleuster profion coronafeirws newydd wedi agor i鈥檙 rheini sydd 芒 symptomau drefnu apwyntiadau ym Maes Parcio L么n Glan M么r (LL57 1AT) ym Mangor. Mae hyn yn rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU ar draws y DU i barhau i鈥檞 gwneud hi鈥檔 haws i gymunedau lleol gael gafael ar brofion coronafeirws. Mae rhaglen brofi鈥檙 DU yn cael ei chyflwyno ar sail pedair gwlad, gyda Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at brofion.
Dim ond ar gyfer y rheini sydd 芒 symptomau鈥檙 coronafeirws y mae profion ar y safle hwn ar gael 鈥� tymheredd uchel, peswch cyson newydd, neu golli neu newid eich synnwyr o flas neu arogl. Gall unrhyw un sydd ag un neu fwy o鈥檙 symptomau hyn gael prawf yn y safle, neu drwy archebu prawf yn nhs.uk/coronavirus neu ffonio 119. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i鈥檞 gwneud hi鈥檔 haws byth i bawb gael prawf a lleihau鈥檙 amser y mae鈥檔 ei gymryd i gael canlyniadau profion.
Dechreuodd y profion ar y safle newydd ddydd Sadwrn, 28 Awst, ac mae apwyntiadau ar gael bob dydd.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae agor y ganolfan brofi newydd hon ym Mangor yn helpu pobl leol i gael gafael ar y cyfleusterau hyn heb deithio鈥檔 bell. Mae鈥檔 hanfodol bod pobl yn cael prawf os oes ganddyn nhw symptomau ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wneud hynny mor hawdd 芒 phosibl.
Mae gan Lywodraeth y DU gyfleusterau profi ledled Cymru, ac mae鈥檙 gwaith caled maen nhw鈥檔 ei wneud, ynghyd 芒鈥檙 GIG a鈥檜 partneriaid, yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein brwydr yn erbyn y feirws.
Dydy pandemig Covid-19 ddim wedi dod i ben ac rydyn ni鈥檔 gofyn i bawb aros yn ofalus a hunanynysu os bydd Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn gofyn iddyn nhw wneud hynny. Rwy鈥檔 annog unrhyw un sy鈥檔 byw yn ardal Bangor i ddefnyddio鈥檙 cyfleuster newydd hwn a chael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau.
Mae safle newydd Bangor yn rhan o鈥檙 rhwydwaith mwyaf o gyfleusterau profi diagnostig sydd wedi鈥檜 creu yn hanes Prydain, sydd wedi cael ei ehangu鈥檔 aruthrol drwy gyflwyno profion cyflym am ddim, ddwywaith yr wythnos, i bawb yng Nghymru. Mae profion cyflym yn canfod achosion yn gyflym, sy鈥檔 golygu y gall achosion positif ynysu ar unwaith.