Arweiniad newydd i helpu marchnadoedd defnyddwyr i roi gwell cefnogaeth i oedolion sydd mewn risg
Nod yr arweiniad hwn yw helpu staff ym maes gwasanaethau ariannol a chwmn茂au cyfleustodau i weithredu'n fwy cyson pan fyddant yn cael Atwrneiaeth Arhosol a Gorchmynion Llys Dirprwyol.

Mae鈥檙 ddogfen wedi cael ei datblygu gan Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG), Rhwydwaith Rheolyddion y DU (UKRN) a鈥檙 Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwylliannol (BEIS) drwy weithio gyda rheolyddion y sector. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys Ofcom, Ofgem, Ofwat a鈥檙 Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Mewn rhagair ar y cyd, dywedodd y Gweinidog dros Fusnesau Bach, Defnyddwyr a Chyfrifoldeb Corfforaethol yn BEIS, Kelly Tolhurst, ac is-ysgrifennydd Seneddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Edward Argar:
Mae atwrneiaeth arhosol yn adnodd gwerthfawr sy鈥檔 helpu rhai o bobl fwyaf bregus yn ein gwlad i reoli eu busnes cyn iddynt golli eu galluedd meddyliol neu pan fyddant wedi colli eu galluedd meddyliol. Fodd bynnag, mae鈥檙 rhai sy鈥檔 gweithredu er lles oedolion sydd mewn risg yn aml yn canfod y broses o ddelio 芒鈥檙 cwmn茂au y maent yn dibynnu arnynt yn ddryslyd ac yn anghyson.
Mae鈥檙 arweiniad hwn yn amlinellu鈥檙 polis茂au a鈥檙 cyngor sydd ar gael yn glir. Mae鈥檔 egluro鈥檙 gyfraith ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a all ysgafnhau鈥檙 baich a鈥檙 straen y mae rhoddwyr gofal newydd a chyfredol yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, drwy sicrhau bod eu trafodion yn digwydd mor syml a diffwdan ag y bo modd.
Mae鈥檙 ddogfen ar gael o wefan UKRN.