Stori newyddion

Ffurflen a chanllaw newydd i鈥檆h helpu i chwilio drwy gofrestrau Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) wedi diweddaru ei pholisi ar sut i gynnal chwiliad ar ei chofrestrau

Mae OPG wedi cyhoeddi nodyn ymarfer newydd i fod yn gliriach ar sut rydym yn trin ac yn rhannu gwybodaeth a ddelir ar ein cofrestrau atwrneiaeth arhosol, atwrneiaeth barhaus a dirprwyon a benodwyd gan y llys.

Mae hefyd yn egluro sut rydym yn mynd ati i gadw cofrestrau fel y nodir yn a .

Gall unrhyw un ofyn i gael cynnal chwiliad o gofrestrau OPG drwy lenwi ffurflen OPG100. Mae鈥檙 gwasanaeth hwn am ddim.

Mae ffurflen chwilio OPG100 nawr yn eich galluogi i ofyn am wybodaeth ychwanegol ar yr un pryd 芒 gofyn am gael cynnal chwiliad o gofrestrau OPG, gan osgoi鈥檙 angen i wneud dau gais ar wah芒n. Rhaid hefyd yn awr ddarparu cyfeiriad a dyddiad geni鈥檙 rhoddwr fel mesur diogelwch ychwanegol. Gobeithiwn y bydd hyn yn cyflymu鈥檙 broses chwilio ac yn atal unrhyw oedi.

Bydd OPG yn rhannu gwybodaeth ychwanegol gyda chi os caiff y cais ei gyfiawnhau a bod ganddo sail gyfreithiol. Er enghraifft, rydym yn blaenoriaethu ceisiadau sy鈥檔 cefnogi diogelu oedolion bregus a dyletswyddau statudol awdurdodau cyhoeddus eraill, megis gwasanaethau cymdeithasol neu鈥檙 heddlu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Chwefror 2019