Fframwaith cyllidol newydd yn rhoi sicrwydd ariannol tymor hir i Gymru
Heddiw (dydd Llun 19 Rhagfyr) cafodd Cymru sicrwydd ariannol tymor hir mewn cytundeb carreg filltir rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Alun Cairns and David Gauke - (Photographer Dermot Carlin)
Mae鈥檙 fframwaith yn rhan allweddol o becyn cyfan Bil Cymru sy鈥檔 darparu setliad datganoli cliriach a thecach i Gymru. Mae鈥檔 braenaru鈥檙 tir i wneud Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliad mwy grymus ac atebol ac mae鈥檔 adlewyrchu鈥檙 berthynas aeddfed rhwng Bae Caerdydd a San Steffan.
Mae鈥檙 fframwaith cyllidol yn golygu:
-
y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgwyddo鈥檙 cyfrifoldeb dros Gyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) o fis Ebrill 2019 ymlaen (Yn amodol ar gael gwared ar y gofyniad am refferendwm drwy鈥檙 Bil Cymru presennol a Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei bwriad i gyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru)
-
y bydd Llywodraeth Cymru yn cael lefel deg o gyllid dros y tymor hir, gan ystyried capasiti treth Cymru a thrin newid yn y boblogaeth yn gyson ar draws treth a gwariant
-
y bydd y swm benthyca cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn dyblu i 拢1 biliwn
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 cytundeb ar y fframwaith cyllidol yn garreg filltir arwyddocaol yn nhaith datganoli Cymru. Hyn sydd wrth wraidd y penderfyniad ym Mil Cymru i ddarparu cyllid sicr dros dymor hir i Lywodraeth Cymru a rhoi mwy o welededd i Fae Caerdydd pan mae鈥檔 edrych ar benderfyniadau ynghylch gwariant.
Rydym wedi gweithio鈥檔 galed i gael d锚l i roi strwythur ariannol clir i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi allu bwrw ymlaen 芒鈥檙 gwaith o wella economi Cymru.
Mae鈥檙 fframwaith hwn yn pwysleisio鈥檙 berthynas aeddfed rhwng Caerdydd a San Steffan wrth inni symud yn nes at gytuno ar setliad parhaol ar gyfer pobl Cymru.
Cytunwyd ar y dd锚l rhwng David Gauke, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, a Mark Drakeford, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, a chafodd ei chadarnhau mewn Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog a osodwyd gerbron y Senedd heddiw.