Pwerau ariannol newydd i Gymru
Mae manylion y pecyn cwbl newydd o bwerau ariannol i helpu Cymru i gystadlu yn y ras fyd eang wedi cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth heddiw. Mae鈥檙 pwerau, a allai olygu bod Llywodraeth Cymru yng ngofal 拢3 biliwn o refeniw treth, yn cynnwys rheoli trethi busnes, gallu creu trethi newydd a rhywfaint o bwerau benthyg.

Cyhoeddwyd amlinelliad o鈥檙 cynllun i roi hwb i dwf yng Nghymru gan y Prif Weinidog a鈥檙 Dirprwy Brif Weinidog yn wreiddiol, yn gynharach y mis hwn. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion llawn heddiw yn ei hymateb i argymhellion Comisiwn Silk ar ddatganoli ariannol. Cyflwynodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, a David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymateb y DU yn ffurfiol i Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, yng Nghaerdydd heddiw.
Mae deg ar hugain o鈥檙 tri deg ac un o argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU, a wnaed gan Gomisiwn Silk, wedi cael eu derbyn yn llawn neu鈥檔 rhannol. Bydd hyn yn arwain at ddatganoli llawer o bwerau ariannol newydd a hefyd at roi pwerau benthyg i Lywodraeth Cymru.
Dyma鈥檙 pwerau ariannol newydd a gyhoeddwyd heddiw:
-
Datganoli鈥檔 llawn drethi busnes annomestig a godir yng Nghymru, fel bod cyllideb Llywodraeth Cymru鈥檔 elwa鈥檔 fwy uniongyrchol o dwf yng Nghymru;
-
Gallu creu trethi newydd gyda chytundeb Llywodraeth y DU;
-
Adnoddau i reoli鈥檙 pwerau trethu newydd hyn:
-
Creu cronfa ariannol y gall Llywodraeth Cymru ychwanegu ati pan mae鈥檙 refeniw yn uchel, a鈥檌 defnyddio pan mae鈥檙 refeniw yn is na鈥檙 disgwyl;
-
Pwerau benthyg cyfredol cyfyngedig os nad oes digon o arian yn y gronfa ariannol i ddelio 芒 diffyg refeniw
-
Mae hyn yn dilyn y pwerau ariannol datganoledig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog a鈥檙 Dirprwy Brif Weinidog yn gynharach y mis hwn:
-
Pwerau benthyg i Weinidogion Cymru;
-
Datganoli Treth Tirlenwi a Threth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ffrwd gyllido annibynnol i dalu鈥檙 arian mae鈥檔 ei fenthyca yn ei 么l;
-
Bydd y Cynulliad yn gallu cynnal refferendwm fel bod pobl Cymru鈥檔 gallu penderfynu a ddylai rhywfaint o鈥檜 treth incwm gael ei ddatganoli;
-
Cyn i鈥檙 pwerau codi trethi gael eu cyflwyno, bydd Llywodraeth Cymru鈥檔 cael mynediad buan at bwerau benthyg cyfyngedig cyfredol i鈥檞 defnyddio ar gyfer gwelliannau i鈥檙 M4.
Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:
Rydw i鈥檔 hynod falch bod fy ngwaith i gyda Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, a鈥檙 cydweithrediad agos rhwng ein dwy Lywodraeth, wedi arwain at y canlyniad rhagorol hwn i Gymru.
Bydd y pecyn o bwerau ariannol rydym wedi鈥檌 gyhoeddi heddiw鈥檔 adnodd pwerus a fydd yn sicrhau gwell atebolrwydd a thryloywder ariannol i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn ganlyniad da i Gymru.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Drwy gyfrwng y pecyn hwn o bwerau yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw, rydym yn rhoi i Lywodraeth Cymru yr adnoddau i wneud y buddsoddiadau priodol yng Nghymru.
Mae buddsoddi yn y seilwaith yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau twf economaidd cytbwys yn y tymor hir ledled y DU. Bydd y pecyn yma o bwerau鈥檔 galluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi ar unwaith yn y meysydd seilwaith y mae鈥檔 arwain arnynt, fel llwybrau allweddol ar y rhwydwaith ffyrdd traws-Ewropeaidd - yr M4 a Gwibffordd Gogledd Cymru.
Mae鈥檙 Llywodraeth yn credu mewn datganoli ac rydym yn benderfynol o gyflawni. Mae derbyn argymhellion allweddol Comisiwn Silk ar gyfer datganoli ariannol yn sicrhau cydbwysedd priodol ac yn gam pwysig ar siwrnai ddatganoli Cymru.
Bydd y pwerau newydd hyn yn sicrhau Llywodraeth sy鈥檔 fwy atebol i bobl Cymru. Mae鈥檔 rhaid i lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn yn awr 鈥� i sbarduno datblygiad economaidd Cymru a defnyddio鈥檙 cyfle hwn i sicrhau鈥檙 twf a鈥檙 ffyniant y mae Cymru ei angen yn ddirfawr.
Nodiadau i Olygyddion
- Sefydlwyd Comisiwn annibynnol ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) yn 2011 i adolygu鈥檙 trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru. Mae鈥檔 gwneud ei waith mewn dwy ran:
Rhan I: atebolrwydd ariannol
Adolygu鈥檙 achos dros ddatganoli pwerau ariannol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymell pecyn o bwerau a fyddai鈥檔 gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad. Cyflwynodd y Comisiwn ei ganfyddiadau yn Rhan I ym mis Tachwedd 2012.
Rhan II: pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngoleuni profiad ac argymell diwygiadau i鈥檙 trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai鈥檔 galluogi Senedd y Deyrnas Unedig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i wasanaethu pobl Cymru yn well. Bydd y Comisiwn yn adrodd yn 么l ar ei ganfyddiadau yn Rhan II erbyn Gwanwyn 2014.
Llun drwy garedigrwydd Richard Szwejkowski ar Flickr, a ddefnyddir o dan Creative Commons.