Datganiad i'r wasg

Mae gwasanaeth tacograff ar-lein DVLA yn torri amseroedd aros ac yn caniat谩u taliadau ar unwaith

Mae gyrwyr lori, bws a choets yn awr yn gallu gwneud cais a thalu am eu cardiau tacograff ar-lein mewn munudau diolch i wasanaeth digidol newydd DVLA.

Bydd tua 780,000 o yrwyr sy鈥檔 ddeiliaid cerdyn tacograff yn gallu defnyddio gwasanaeth newydd DVLA Gwneud cais am, adnewyddu neu amnewid cerdyn tacograff gyrrwr.

Er bod gyrwyr yn dal i allu dewis cwblhau cais papur a鈥檌 anfon yn y post, mae鈥檙 gwasanaeth ar-lein yn gyflymach ac yn haws i yrwyr. Mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos; a dylai gyrwyr gael eu cerdyn tacograff wedi鈥檌 ddosbarthu o fewn 24 awr o wneud cais o gymharu a 10 niwrnod neu ragor wrth bostio鈥檜 ceisiadau papur.

Mae angen trwydded yrru cerdyn-llun Prydain dilys ar yrwyr sy鈥檔 defnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein i wneud cais. Ar 么l gwneud cais, byddant yn derbyn hysbysiad e-bost yn cadarnhau eu cais, ac yn gallu dewis cael eu diweddaru ar ei hynt trwy neges destun.

Mae鈥檙 gwasanaeth ar-lein newydd ar gyfer cardiau tacograff gyrwyr yn dilyn lansiad gwasanaeth cerdyn tacograff cwmni DVLA yn 2019, a welodd geisiadau cerdyn cwmni yn symud ar-lein am y tro cyntaf.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA Julie Lennard:

Rydym wrth ein bodd i lansio ein gwasanaeth tacograff gyrwyr newydd ar-lein.

Bydd y gwasanaeth cyflym a hawdd i鈥檞 ddefnyddio hwn yn rhoi hyblygrwydd helaethach i yrwyr sydd angen cardiau tacograff yngl欧n a sut, pryd a lle mae鈥檔 nhw鈥檔 delio 芒 ni, a byddant yn cael eu cerdyn newydd yn 么l hyd yn oed yn gyflymach.

Gellir cyrchu鈥檙 gwasanaeth ceisio am gerdyn tacograff digidol gyrrwr ar-lein trwy 188体育

Nodiadau i olygyddion:

Y gwasanaethau cerdyn tacograff ar-lein newydd yw gwasanaethau digidol cyntaf DVLA i symud yn llawn i system newydd DVLA wedi鈥檌 seilio yn y cwmwl. Mae hyn yn hwyluso鈥檙 ffordd ar gyfer gwelliannau fydd yn caniat谩u hyblygrwydd helaethach mewn sut fydd gwasanaethau鈥檙 dyfodol yn cael eu darparu a鈥檜 cynorthwyo, gan roi rhagor o ddewis i gwsmeriaid ynghylch sut a phryd y byddant yn delio 芒 DVLA.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

Email [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mehefin 2021