Datganiad i'r wasg

Gwasanaeth llyfr log ar-lein newydd DVLA yn cyrraedd carreg filltir o filiwn o drafodion

Mae DVLA yn dathlu cyrraedd miliwn o drafodion ar wasanaeth ar-lein newydd i bobl sy鈥檔 symud t欧 i newid cyfeiriad ar lyfr log V5CW.

Mae pobl sy鈥檔 symud t欧 wedi gwneud mwy na miliwn o drafodion o fewn llai na blwyddyn ar wasanaeth newydd DVLA i newid cyfeiriad ar lyfr log V5CW.

Ers ei lansiad ym mis Mehefin 2020 mae鈥檙 gwasanaeth wedi profi鈥檔 boblogaidd iawn, gyda dros 60% o fodurwyr sydd angen rhoi gwybod i DVLA am newid cyfeiriad yn dewis defnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein yn hytrach na drwy鈥檙 post.

Mae鈥檙 gwasanaeth ar-lein newydd yn torri鈥檙 amser mae鈥檔 cymryd i dderbyn llyfr log newydd o hyd at 6 wythnos i tua 5 niwrnod, gyda modurwyr yn gallu diweddaru eu manylion cyfeiriad mewn munudau.

Mae鈥檙 garreg filltir hon wedi鈥檌 chyrraedd wrth i DVLA lansio ymgyrch ddigidol newydd i hybu ei gwasanaethau ar-lein. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys adnewyddu trwydded yrru, newid cyfeiriad, archebu llyfr log V5CW newydd, neu roi gwybod i DVLA eich bod wedi prynu neu werthu cerbyd.

Mae鈥檙 ymgyrch wedi鈥檌 hanelu at fodurwyr ac yn amlygu gwasanaethau ar-lein DVLA ar 188体育. Bydd y rhain y ffordd gyflymaf, hawsaf ac, mewn nifer o achosion, rataf i ddelio 芒 DVLA bob amser.

Dywedodd dros 92% o鈥檙 rheiny sydd wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein yr asiantaeth eu bod nhw鈥檔 hawdd neu鈥檔 hawdd iawn i鈥檞 defnyddio, tra dywedodd 98% y byddent yn eu defnyddio eto yn y dyfodol, datgelwyd arolwg DVLA diweddar.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr y DVLA:

Rydyn ni鈥檔 falch bod y gwasanaeth ar-lein newydd i Newid Cyfeiriad ar gyfer llyfr log V5CW wedi profi i fod mor boblogaidd gyda modurwyr, llai na blwyddyn ar 么l ei lansio.

Rydym am i鈥檔 cwsmeriaid allu delio 芒 ni yn y ffordd sy鈥檔 addas iddyn nhw, a chynlluniwyd ein gwasanaethau ar-lein i fod yn hyblyg a hawdd i鈥檞 defnyddio.

Mae ein hymgyrch newydd yn ceisio amlygu鈥檙 buddion o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein DVLA ar 188体育, sydd y ffordd gyflymaf a hawsaf o ddelio 芒 DVLA. Drwy ddewis i drafod gyda ni ar-lein gallwch wneud cais gyda ni o fewn ychydig funudau, heb angen anfon ffurflen drwy鈥檙 post.

Gall modurwyr gael gwybod rhagor am y dewis o wasanaethau ar-lein DVLA drwy ymweld 芒鈥檙 hafan yrru.

Nodiadau i olygyddion:

Mae鈥檔 gofyn cyfreithiol i roi gwybod i DVLA pan fyddwch yn newid cyfeiriad, ac mae鈥檔 rhaid i gwsmeriaid ddiweddaru eu llyfr log V5CW a thrwydded yrru. Gallwch wneud y ddau ohonynt am ddim drwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein ar 188体育.

Cyrhaeddwyd y miliynfed trafodyn ar gyfer y gwasanaeth newid cyfeiriad ar-lein ym mis Mawrth 2021.

Mae gwasanaethau ar-lein DVLA wedi parhau i weithio fel arfer trwy gydol y pandemig coronafeirws. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau ar-lein DVLA, ymwelwch 芒 188体育.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

Email [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Ebrill 2021