Ymgyrch DVLA newydd yn amlygu鈥檙 goblygiadau ar gyfer gyrwyr sy鈥檔 osgoi treth cerbyd
Mae DVLA wedi lansio ymgyrch cyhoeddusrwydd newydd mewn 11 ardal ar draws y wlad yn targedu gyrwyr sydd heb drethu eu ceir.

Mae鈥檙 neges yn glir i fodurwyr 鈥� os nad ydych yn trethu eich cerbyd ar amser, bydd DVLA yn cymryd camau. Trethwch ef neu byddwch yn ei golli.
Yr 11 ardal yn y DU sydd wedi eu targedu yw ardaloedd ble y mae osgoi treth cerbyd mwyaf uchel (yn seiliedig ar y nifer o gamau gorfodi a ddigwyddodd yn 2018).
Ardal | Clampiwyd | Dirwy neu gosb | Cyfanswm |
---|---|---|---|
Llundain | 27,605 | 94,550 | 122,155 |
Gogledd Iwerddon | 5,516 | 67,944 | 73,460 |
Birmingham | 5,076 | 50,045 | 55,121 |
Manceinion | 7,573 | 26,214 | 33,787 |
Glasgow | 2,666 | 29,705 | 32,371 |
Sheffield | 3,987 | 25,291 | 29,278 |
Caerdydd | 3,021 | 24,598 | 27,619 |
Nottingham | 3,507 | 21,346 | 24,853 |
Bryste | 3,496 | 20,412 | 23,908 |
Caerlyr | 3,344 | 19,196 | 22,540 |
Coventry | 1,257 | 18,193 | 19,450 |
Mae鈥檙 ymgyrch hysbysebu yn canolbwyntio ar goblygiadau beidio 芒 threthu eich cerbyd 鈥� o gosbau ariannol i achos llys i glampio ac yn olaf colli鈥檙 car.
Mae clamp enfawr sy鈥檔 ganolbwynt i ddelwedd yr ymgyrch yn adlewyrchu鈥檙 ffaith bod DVLA yn cymryd camau gorfodi yn erbyn cerbydau heb dreth ar strydoedd ar draws y wlad, a gall ddigwydd i chi os nad ydych yn trethu鈥檆h cerbyd ar amser.
Dywedodd Pennaeth Gorfodi Tim Burton:
Mae gan yr ymgyrch hon neges clir ar gyfer unrhyw un sy鈥檔 diystyru鈥檙 gyfraith yn y modd hwn 鈥� trethwch ef neu byddwch yn ei golli.
Nid yw erioed wedi bod yn haws i drethu鈥檆h car, felly nid oes esgus o gwbl. Byddai鈥檔 well gennym beidio 芒 chlampio neu symud ceir, ond mae鈥檙 ymgyrch hon yn amlygu goblygiadau beidio 芒 threthu eich cerbyd. Mae clampio鈥檆h cerbyd yn ddrud ac yn anghyfleus 鈥� a gallwch yn y pen draw golli eich car.
Gall modurwyr fynd ar-lein, 24 awr y dydd, i drethu cerbyd neu wirio os oes gan y cerbyd treth gyfoes. Gallwch hyd yn oed wirio drwy ofyn Amazon Alexa neu Google Home 鈥� dim ond eich rhif cofrestru sydd arnoch ei angen.