Bydd radar gofod pell newydd yn trawsffurfio diogelwch y DU
Bydd cynllun radar newydd gyda phartneriaid agosaf y DU yn gwella diogelwch y DU drwy allu canfod, olrhain a nodi gwrthrychau鈥檔 well yn y gofod pell.

- Rhaglen galluogrwydd gofod newydd i wella diogelwch byd-eang.
- Barics Cawdor yng Nghymru wedi鈥檌 nodi fel y safle yn y DU sy鈥檔 cael ei ffafrio, yn amodol ar Asesiad o鈥檙 Effaith Amgylcheddol a chymeradwyaeth cynllunio Tref.
- Bydd y tri safle radar byd-eang yn weithredol erbyn diwedd y ddegawd.
Bydd rhaglen Galluogrwydd Radar Uwch y Gofod Pell (DARC) 鈥� a gyhoeddwyd gan Ysgrifenyddion Amddiffyn Awstralia, y Deyrnas Unedig a鈥檙 Unol Daleithiau 鈥� yn darparu galluogrwydd 24/7 ym mhob tywydd a fydd yn cynyddu gallu gwledydd AUKUS i nodweddu gwrthrychau ymhell yn y gofod hyd at 22,000 milltir (36,000 cilomedr) oddi wrth y ddaear.
Bydd DARC yn gweld rhwydwaith byd-eang o dri radar daear fydd yn cael eu gweithredu ar y cyd a fydd yn helpu i reoli traffig gofod critigol ac yn cyfrannu at wyliadwriaeth fyd-eang o loerennau yn y gofod pell. Mae lleoliad daearyddol unigryw gwledydd AUKUS yn golygu bod DARC yn gallu darparu darpariaeth fyd-eang, gan gynnwys canfod bygythiadau posibl i systemau gofod sifil neu amddiffyn.
Wrth i鈥檙 perygl o ryfela yn y gofod gynyddu, bydd y galluogrwydd pwysig hwn o fudd i rymoedd tir, aer a morol y tair gwlad, yn ogystal 芒 gwarchod seilwaith hanfodol a bod o fudd i鈥檔 diwydiannau adeiladu a gofod domestig.聽
Dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn y DU, Grant Shapps:
Wrth i鈥檙 byd ddod yn fwy heriol ac wrth i鈥檙 perygl o ryfela yn y gofod gynyddu, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 DU a鈥檔 cynghreiriaid sicrhau bod gennym y galluogrwydd datblygedig sydd ei angen arnom i gadw ein gwledydd yn ddiogel.
Bydd cyhoeddiad heddiw am rwydwaith radar byd-eang (DARC), sydd wedi鈥檌 leoli yn y DU, UDA ac Awstralia, yn gwneud hynny. Grymuso鈥檙 DU i ganfod, olrhain ac adnabod gwrthrychau yn y gofod pell.
Mae Barics Cawdor yn Sir Benfro wedi cael ei nodi fel y safle sy鈥檔 cael ei ffafrio gan y DU ar gyfer DARC. Mae鈥檙 penderfyniad lleoli terfynol yn amodol ar ganlyniadau鈥檙 Asesiad o鈥檙 Effaith Amgylcheddol cynhwysfawr parhaus a ariennir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a鈥檙 cais Cynllunio Tref dilynol.
Ar hyn o bryd mae Barics Cawdor yn gartref i Gatrawd Signalau Byddin Prydain sydd i fod i adleoli o 2028. Mae cadw鈥檙 Safle gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer DARC yn debygol o roi hwb i economi leol Sir Benfro, gan greu cyflogaeth yn ystod y cam adeiladu a darparu hyd at 100 o swyddi tymor hwy.
Ochr yn ochr 芒 manteision amddiffyn DARC, mae hefyd yn gallu monitro a diogelu鈥檙 gwasanaethau hanfodol sy鈥檔 dibynnu ar loerennau yn y gofod, gan gynnwys agweddau bywyd bob dydd fel cyfathrebu a llywio.
Bydd hyn yn chwarae rhan hollbwysig yng ngallu AUKUS i gadw heddwch ac atal gwrthdaro yn ardal Cefnfor India a鈥檙 M么r Tawel a gweddill y byd.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn a鈥檙 Lluoedd Arfog wedi bod 芒 phresenoldeb sylweddol iawn yng Nghymru ers tro byd, ac mae鈥檙 tebygolrwydd y bydd y presenoldeb hwn yn parhau ym Marics Cawdor yn newyddion gwych.
Bydd y prosiect DARC arfaethedig yn darparu swyddi ac yn cryfhau鈥檙 economi leol ac yn tanlinellu unwaith eto y r么l hanfodol y mae Cymru鈥檔 parhau i鈥檞 chwarae yn amddiffyn y DU.
Mae gan y systemau radar newydd hyn sensitifrwydd uwch, gwell cywirdeb, mwy o gapasiti, a thracio mwy ystwyth na radar presennol a systemau optegol sy鈥檔 tracio gwrthrychau yn y gofod pell. Bydd hyn yn golygu bod mwy o fonitro byd-eang yn cael ei ddarparu i lywio gweithrediadau amddiffyn y DU, gan osgoi鈥檙 cyfyngiadau tywydd garw a golau dydd presennol sy鈥檔 nodweddu rhai o鈥檙 galluoedd presennol.
Disgwylir y bydd y safle radar DARC cyntaf, sy鈥檔 cael ei adeiladu yn Awstralia, yn weithredol yn 2026, gyda phob un o鈥檙 tri safle yn weithredol erbyn diwedd y degawd.
Mae rhaglen DARC yn dilyn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym mis Medi 2023. Bydd DARC yn gwella ein hymwybyddiaeth o鈥檙 gofod ar y cyd, sy鈥檔 un o amcanion allweddol Strategaeth Gofod Amddiffyn y DU, a gyhoeddwyd y llynedd.
Mae AUKUS yn bartneriaeth diogelwch ac amddiffyn nodedig rhwng Awstralia, y DU a鈥檙 Unol Daleithiau i gefnogi ardal Cefnfor India a鈥檙 M么r Tawel rydd ac agored, drwy gryfhau diogelwch byd-eang rhanbarthol. Mae datblygu DARC yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer darparu galluogrwydd diogelwch gwell rhwng y gwledydd partner.
Nodiadau i olygyddion:
- Bydd Colofn 1 AUKUS yn darparu galluogrwydd tanfor ag arfau confensiynol sy鈥檔 cael ei bweru gan ynni niwclear.
- Bydd Colofn 2 AUKUS yn deirochrog yn darparu galluoedd mewn technolegau milwrol arloesol, yn cynyddu鈥檙 gallu i ryngweithredu, ac yn sbarduno rhannu gwybodaeth ac arloesi.