Stori newyddion

Safle profi lleol newydd wedi agor yn Aberd芒r

Agorwyd Llywodraeth y DU cyfleuster profi cerdded-i-mewn yn Rhondda Cynon Taf.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae cyfleuster cerdded-i-mewn newydd wedi agor ym Maes Parcio Gogleddol Campws Coleg y Cymoedd Aberd芒r (CF44 8EN) er mwyn i鈥檙 rheini sydd 芒 symptomau drefnu apwyntiad i gael prawf coronafeirws. Mae hyn yn rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i barhau i wella hygyrchedd profion coronafeirws i gymunedau.

Agorodd y safle newydd yn Aberd芒r ddydd Mercher 3 Chwefror ac mae mewn lleoliad sy鈥檔 hawdd cyrraedd heb gar. Bydd unrhyw un sy鈥檔 mynd i apwyntiad ar safle profi cerdded-i-mewn yn cael canllawiau ynghylch sut mae cyrraedd a gadael y safle鈥檔 ddiogel, gyda chymorth ychwanegol i grwpiau agored i niwed a phobl ag anableddau.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檔 bwysig nad yw pobl yn gorfod teithio鈥檔 bell i gael prawf ac mae cyhoeddi鈥檙 safle hwn yn Aberd芒r yn galluogi pobl leol i ddefnyddio鈥檙 cyfleusterau hanfodol hyn yn nes at adref.

Mae鈥檙 twf parhaus mewn sefydlu鈥檙 canolfannau hyn yn dangos gwaith caled y GIG a鈥檌 bartneriaid. Erbyn hyn, mae dros 50 o gyfleusterau profi Llywodraeth y DU yng Nghymru, ynghyd 芒 labordy Goleudy Casnewydd sy鈥檔 gweithio bob awr o鈥檙 dydd i brosesu samplau. Mae pob un ohonynt yn chwarae rhan bwysig iawn yn ein brwydr barhaus yn erbyn y feirws.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i barhau i ehangu capasiti鈥檙 rhwydwaith o safleoedd profi a labordai yn y DU er mwyn ei gwneud hyd yn oed yn haws cael prawf a lleihau鈥檙 amser mae鈥檔 ei gymryd i gael canlyniadau profion.

Mae鈥檙 safle hwn yn rhan o鈥檙 rhwydwaith cyfleusterau profi diagnostig mwyaf erioed yn hanes Prydain. Mae鈥檙 rhwydwaith yn gallu prosesu dros 700,000 o brofion bob dydd ac mae鈥檔 cynnwys dros 800 o safleoedd ledled y DU, gan gynnwys 87 safle gyrru heibio, 475 safle cerdded-i-mewn, chwe labordy goleudy, profion cartref a phecynnau lloeren, a nifer fawr o unedau symudol.

Mae apwyntiadau ar gael bob dydd. Gallwch drefnu prawf yn nhs.uk/coronavirus neu drwy ffonio 119.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Chwefror 2021