Datganiad i'r wasg

Penodi Prif Weithredwr newydd i'r Gofrestrfa Tir

Heddiw (12 Mawrth 2015) penodwyd Graham Farrant yn Brif Weithredwr newydd y Gofrestrfa Tir.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Mr Farrant yn cymryd awenau鈥檙 sefydliad sy鈥檔 llunio sylfaen y farchnad eiddo yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2015. Bydd yn defnyddio ei sgiliau sylweddol a enillwyd dros 15 mlynedd ar lefel Prif Weithredwr mewn sefydliadau鈥檙 sector preifat a鈥檙 sector cyhoeddus i arwain y Gofrestrfa Tir trwy gamau nesaf ei thrawsnewidiad i fod yn sefydliad modern a digidol sy鈥檔 cynnig gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf i bawb sy鈥檔 prynu neu鈥檔 gwerthu tir ac eiddo.

Dywedodd y Gweinidog Busnes, Matthew Hancock:

Mae鈥檔 bleser gennyf gyhoeddi penodiad Graham Farrant yn Brif Weithredwr nesaf y Gofrestrfa Tir. Bydd ei egni a鈥檌 brofiad o drawsnewid sefydliadau cymhleth yn sicrhau y bydd y Gofrestrfa Tir yn parhau i gyflwyno gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf wrth fanteisio hefyd ar fodel sy鈥檔 gynyddol ddigidol a fydd yn llywio effeithlonrwydd a rhwyddineb defnydd a ddisgwylir gan gwsmeriaid.

Dywedodd Mr Farrant:

Mae鈥檔 bleser gennyf ymgymryd 芒鈥檙 her a鈥檙 r么l hanfodol hon gyda鈥檙 Gofrestrfa Tir. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at barhau 芒 thraddodiad clodwiw鈥檙 Gofrestrfa o fod yn gonglfaen y mae鈥檙 diwydiant eiddo wedi鈥檌 adeiladu arno, wrth ei harwain trwy鈥檙 camau nesaf o鈥檌 thrawsnewidiad i fod yn sefydliad modern a digidol sy鈥檔 darparu gwasanaethau ardderchog i鈥檞 chwsmeriaid.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae penodiad Graham Farrant yn dilyn cystadleuaeth agored a oruchwyliwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil.
  2. Bydd Graham yn ymgymryd 芒鈥檙 swydd ym mis Mehefin. Mae鈥檔 disodli Ed Lester, a fydd yn rhoi鈥檙 gorau i fod yn Brif Weithredwr yn ddiweddarach y mis hwn. John Peaden fydd y Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir dros dro yn ystod y cyfnod hwn.
  3. Ar hyn o bryd mae Graham Farrant yn Brif Weithredwr Cyngor Thurrock ac yn ogystal, ymgymerodd yn ddiweddar 芒鈥檙 un r么l gyda Chyngor Brentwood. Yn y gorffennol diweddar, bu鈥檔 Brif Weithredwr dros dro ar gyfer Bwrdeistref Llundain Barking a Dagenham. Yn ogystal 芒鈥檌 amser yn y gwasanaeth cyhoeddus, treuliodd Graham gyfnod yn y sector preifat fel Prif Swyddog Gweithredol Leisure Connection Ltd.
  4. Sefydlwyd Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi ym 1862 i alluogi鈥檙 farchnad eiddo i weithredu鈥檔 llyfn. Mae鈥檔 cofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr a heddiw mae ganddi gofrestr o dros 23 miliwn o deitlau i dir rhydd-ddaliol a phrydlesol, sy鈥檔 cwmpasu dros dri chwarter y tir. Mae adeiladu a chynnal y gronfa ddata helaeth hon o wybodaeth eiddo yn ganolog i鈥檞 gwaith.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2015 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.