Prif Weithredwr newydd wedi ei benodi i Gofrestrfa Tir EM
Mae Simon Hayes wedi cael ei benodi yn Brif Weithredwr newydd Cofrestrfa Tir EM.

Mae Simon Hayes wedi cael ei benodi heddiw (25 Medi) gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Fusnes yr Arglwydd Duncan yn Brif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir newydd Cofrestrfa Tir EM.
Bydd Simon yn dechrau arwain Cofrestrfa Tir EM yn Nhachwedd 2019. Bydd yn dod 芒 chryn brofiad gydag ef o鈥檙 rolau blaenorol a fu ganddo yn y Swyddfa Gartref i arwain Cofrestrfa Tir EM wrth iddi gyflawni ei strategaeth fusnes a bod y gofrestrfa tir fwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer cyflymder, symlrwydd a dull agored i ddata.
Dywedodd y Gweinidog Busnes yr Arglwydd Duncan:
Mae鈥檔 bleser gennyf gyhoeddi mai Simon Hayes yw Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir newydd Cofrestrfa Tir EM. Mae Simon yn dod 芒 chyfoeth o brofiad gydag ef o鈥檙 rolau blaenorol a fu ganddo yn y Swyddfa Gartref a bydd yn sicrhau bod y sefydliad yn parhau i drawsnewid i fod y gofrestrfa tir fwyaf blaenllaw yn y byd, gan ddarparu gwasanaeth digidol o鈥檙 radd flaenaf i鈥檞 chwsmeriaid.
Hoffwn i ddiolch i Mike Harlow hefyd am ei holl waith fel Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro er mis Ionawr.
Dywedodd Simon Hayes:
Rwy鈥檔 falch iawn i gael fy mhenodi i鈥檙 r么l hon ar adeg mor gyffrous a phwysig i Gofrestrfa Tir EM. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weithio gyda phawb yn y sefydliad wrth inni barhau 芒鈥檔 taith drawsnewid, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol i鈥檔 cwsmeriaid, a buddion ar gyfer pob un o鈥檔 partneriaid.
Bywgraffiad Simon Hayes
Mae Simon Hayes yn Gyfarwyddwr Fis芒u a Dinasyddiaeth, Fis芒u a Mewnfudo y DU (UKVI). Mae UKVI yn rhan o鈥檙 Swyddfa Gartref ac yn gyfrifol am reoli systemau ffiniau a mewnfudo y Deyrnas Unedig. Fel Cyfarwyddwr Fis芒u a Dinasyddiaeth, mae cyfrifoldebau Simon yn cynnwys goruchwylio鈥檙 holl lwybrau ymwelwyr, twristiaid, gwaith, astudio a dinasyddiaeth, yn ogystal 芒鈥檙 system nawdd mewnfudo.
Ymunodd Simon 芒鈥檙 Swyddfa Gartref ym 1997. Mae wedi cael nifer o swyddi ar draws yr heddlu, cyfiawnder troseddol a pholisi mewnfudo, a threuliodd dwy flynedd fel Ysgrifennydd Preifat i鈥檙 Dirprwy Ysgrifennydd Cartref (erbyn hyn yr Arglwydd) Paul Boateng. O 2005 i 2008, gwasanaethodd fel Pennaeth Staff i Brif Swyddog Gweithredol Asiantaeth Ffiniau鈥檙 DU. Yn 2008 cafodd ei benodi鈥檔 Gyfarwyddwr Rhanbarthol cyntaf Asiantaeth Ffiniau鈥檙 DU ar gyfer Cyfandiroedd America yn Washington DC. Dychwelodd i鈥檙 Deyrnas Unedig yn 2012 a鈥檌 benodi鈥檔 Gyfarwyddwr Rhyngwladol UKVI gyda chyfrifoldeb am weithrediadau fis芒u dramor, ein rhwydwaith byd-eang o ganolfannau ceisiadau a gwneud penderfyniadau fis芒u, a鈥檔 partneriaethau mewnfudo rhyngwladol, cyn ymgymryd 芒鈥檌 r么l bresennol yn 2014.
Nodiadau ar gyfer golygyddion
- Mae Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Cofrestrfa Tir EM yn benodiad cyhoeddus sy鈥檔 cael ei wneud gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae鈥檔 dilyn cystadleuaeth agored
- Cafodd y penodiad ei wneud o dan y senedd flaenorol gan yr Arglwydd Henley yn ei r么l fel yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes gyda chyfrifoldeb am Gofrestrfa Tir EM. Yr Arglwydd Duncan sy鈥檔 ymgymryd 芒鈥檙 r么l ar hyn o bryd
- Bydd Simon yn dechrau yn ei swydd ar 11 Tachwedd 2019. Mae鈥檔 cymryd lle Mike Harlow a fu鈥檔 Brif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Dros Dro er Ionawr 2019
- Mae Simon Hayes yn Gyfarwyddwr Fis芒u a Dinasyddiaeth, Fis芒u a Dinasyddiaeth y DU (UKVI) ar hyn o bryd sy鈥檔 rhan o鈥檙 Swyddfa Gartref
- Cenhadaeth Cofrestrfa Tir EM yw gwarantu a diogelu hawliau eiddo yng Nghymru a Lloegr
- Mae Cofrestrfa Tir EM yn adran anweinidogol o鈥檙 llywodraeth a gr毛wyd ym 1862. Mae鈥檙 ff茂oedd a delir gan ddefnyddwyr ei gwasanaethau yn talu am ei chostau gweithredu. Ei huchelgais yw bod y gofrestrfa tir fwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer cyflymder, symlrwydd a dull agored i ddata
- Mae Cofrestrfa Tir EM yn diogelu perchnogaeth tir ac eiddo sy鈥檔 werth 拢7 triliwn, gan gynnig modd i fwy nag 拢1 triliwn o fenthyca personol a masnachol gael eu gwarantu yn erbyn eiddo ar draws Cymru a Lloegr
- Darllenwch ragor o wybodaeth am Gofrestrfa Tir EM