Cronfa newydd gwerth 拢26 miliwn i helpu awdurdodau lleol i gyflymu trosglwyddiadau data
Mae Trysorlys EM yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i gynghorau sy'n mudo eu gwasanaeth pridiannau tir lleol i Gofrestrfa Tir EM.

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Steve Barclay AS, wedi cyhoeddi y bydd cronfa gwerth 拢26 miliwn yn cael ei chreu i helpu i ddarparu gwasanaeth chwilio eiddo cyflymach i brynwyr tai yng Nghymru a Lloegr trwy Gofrestr Pridiannau Tir Lleol genedlaethol.
Fis Rhagfyr y llynedd, rhannwyd ein huchelgais i fudo pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr i鈥檙 gofrestr ganolog erbyn 2025. Mae鈥檙 cyllid hwn yn gwneud y targed hwnnw鈥檔 fwy cyraeddadwy a bydd yn sicrhau bod y broses o brynu cartref yn dod yn gyflymach a symlach i bawb.
Bydd awdurdodau lleol sy鈥檔 trosglwyddo eu data pridiannau tir lleol i鈥檔 Cofrestr Pridiannau Tir Lleol o fewn amserlen y cytunwyd arni yn cael taliadau pontio. Yn ogystal, byddant yn parhau i gael taliadau beichiau presennol. Mae hyn yn golygu bod y gefnogaeth ariannol gyfan sydd ar gael i awdurdodau lleol bellach dros 拢40 miliwn.
Dywedodd Karina Singh, Cyfarwyddwr Trawsnewid Cofrestrfa Tir EM:
Rydym yn deall y dirwedd economaidd ansicr sy鈥檔 wynebu llawer o awdurdodau lleol a鈥檙 problemau o ran adnoddau sy鈥檔 cael eu creu gan hyn. Yn y DU, eiddo yw un o鈥檙 buddsoddiadau sengl mwyaf a wneir gan lawer o bobl o hyd. Rydym am helpu prynwyr i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, mewn ffordd gyflymach a symlach.
Mae ymchwil yn awgrymu bod 6% o drafodion eiddo yn methu, gan gostio rhwng 拢700 a 拢2,700 y trafodiad. Trwy alluogi i鈥檙 wybodaeth Pridiannau Tir gael ei chyrchu鈥檔 gynharach, dylai鈥檙 costau hyn leihau, gan wneud y broses drawsgludo yn well i bob parti.
Bydd pob awdurdod lleol sy鈥檔 mudo ei wasanaeth Pridiannau Tir i鈥檙 gofrestr genedlaethol yn gymwys i gael taliad ar 么l cyrraedd y cerrig milltir y cytunwyd arnynt. Bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd ariannol i鈥檙 awdurdodau y gallant dalu costau cysylltiedig, wrth symud eu gwasanaeth yn ddirwystr i鈥檙 Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i鈥檔 tudalen Rhaglen Pridiannau Tir Lleol.