Cronfa newydd gwerth 拢15 miliwn ar gael i fannau addoli rhestredig yng Nghymru
Gall mannau addoli rhestredig ledled Cymru wneud cais i gronfa newydd un-tro gwerth 拢15 miliwn am gyllid ar gyfer gwaith trwsio brys i doeau.

Bassaleg, Newport, Wales. Photo by Anna Andreea Pascariu
Bydd y grantiau hyn yn helpu i sicrhau bod yr adeiladau hanesyddol hyn yn gallu aros ar agor ar gyfer gwasanaethau, gwasanaethau coffa a digwyddiadau ac achlysuron cymunedol eraill.
Dim ond un cyfle sydd i a鈥檙 dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 30 Ionawr 2015.
Mae鈥檙 grantiau hyn ar gael diolch i Gronfa Trwsio Toeau Mannau Addoli Rhestredig a ariennir gan lywodraeth y DU. Sefydlwyd y gronfa gan Ganghellor y Trysorlys yn Natganiad yr Hydref a gweinyddir hi gan Gronfa Goffa鈥檙 Dreftadaeth Genedlaethol.
Mae grantiau gwerth rhwng 拢10,000 a 拢100,000 ar gael tuag at y gost o wneud atgyweiriadau brys i doeau, megis gorchuddiadau a nenfydau. Gellir defnyddio鈥檙 gronfa hefyd i wella systemau cael gwared ar dd诺r glaw megis cwteri a draeniau.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Yn ystod misoedd y gaeaf, gall y tywydd garw gael effaith ddinistriol ar ein hadeiladau hanesyddol megis mannau addoli.
Mae鈥檙 adeiladau hyn yn symbolau o ddiwylliant a hanes ein cenedl ac maent wrth galon ein cymunedau ledled Cymru.
Gobeithio y bydd mannau addoli ym mhob rhan o Gymru yn manteisio ar y cyfle unigryw hwn.