Datganiad i'r wasg

Awyrennau jet NATO I hefdan dros Gymru yn ystod yr uwchgynhadledd

Arweinwyr byd a phobl leol i weld awyrennau jet milwrol o 9 gwlad yn hedfan heibio Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd wythnos nesaf.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd awyrennau o wledydd cynghrair NATO yn ymuno 芒 th卯m Red Arrows yr Awyrlu Brenhinol ac yn hedfan uwchben yr uwchgynhadledd yng ngwesty鈥檙 Celtic Manor ddydd Gwener 5 Medi am 9am. Dylai trigolion lleol yng Nghaerdydd fynd i Fae Caerdydd am 8.30am i gael yr olygfa orau o鈥檙 awyrennau.

Yng Nghasnewydd, dylai pawb fod yn barod i wylio鈥檙 arddangosfa am 8.45am wrth i鈥檙 awyrennau basio i鈥檙 de o ganol y ddinas, dros Barc Spytty, Parc Beechwood a Lliswerry.

Bydd yr awyrennau鈥檔 hedfan uwchben De Cymru, gan basio adeilad y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd ar eu ffordd i鈥檙 uwchgynhadledd, lle bydd arweinwyr byd, gan gynnwys y Prif Weinidog David Cameron ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, ymysg y cynadleddwyr o鈥檙 28 aelod-wladwriaeth sydd yn rhan o NATO.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd llygaid y byd ar Gymru wythnos nesaf ac rydym yn falch o鈥檙 cyfle i groesawu penaethiaid gwladwriaethau ac arweinwyr byd i Uwchgynhadledd NATO.

Mae鈥檙 arddangosfa hon yn yr awyr yn gyfrwng i鈥檔 hatgoffa eto o sut mae鈥檙 Uwchgynhadledd yn dwyn Cymru i sylw鈥檙 byd, wrth i bobl edrych i fyny a gweld yr awyrennau o wledydd NATO yn llenwi鈥檙 awyr uwchben De Cymru.

Bydd yr arddangosfa yn dangos grym sylweddol NATO yn yr awyr gydag awyrennau o鈥檙 DU, yr Unol Daleithiau, Canada, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Portiwgal a鈥檙 Iseldiroedd.

Yn arwain yr arddangosfa fydd awyren Typhoon o鈥檙 Awyrlu Brenhinol a dwy awyren Mig-29 o wlad Pwyl bob ochr iddi. Ar y diwedd bydd y Red Arrows, t卯m erobatig yr Awyrlu Brenhinol, a fydd yn dilyn y Voyager, awyren fwyaf a mwyaf newydd yr Awyrlu Brenhinol. Ymysg yr awyrennau eraill fe fydd Eurofighter a F-16 Falcons.

Bydd yr arddangosfa yn cynrychioli rhai o鈥檙 llu o wledydd NATO sydd wedi bod yn rhan o鈥檙 gwaith o blismona gofod awyr Ewrop fel rhan o ymdrechion y Gynghrair i gefnogi a rhoi sicrwydd i鈥檞 haelod-wladwriaethau Dwyreiniol.

Cynhelir Uwchgynhadledd NATO ddydd Iau 4 Medi a dydd Gwener 5 Medi a bydd dros 70 o arweinwyr byd yn bresennol. Prif amcanion yr Uwchgynhadledd yw rhoi sylw i fygythiadau newydd yn sg卯l gwladwriaethau sy鈥檔 methu, gwrthdaro rhanbarthol, terfysgaeth ac ymosodiadau seiber.

Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales

Image 漏 Crown copyright 2008

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Awst 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Medi 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.