Stori newyddion

Gwasanaeth pridiannau tir lleol cenedlaethol ar gael yng Nghymru

Gall awdurdodau lleol Cymru drosglwyddo eu gwasanaethau Pridiannau Tir Lleol i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EM o 1 Ebrill 2021.

Billy Stock/Shutterstock.com

O heddiw (1 Ebrill 2021), daw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ff茂oedd) (Cymru) 2021 i rym. Mae鈥檙 rheolau hyn yn alinio ff茂oedd gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol Cymru sy鈥檔 daladwy i鈥檙 Prif Gofrestrydd Tir 芒鈥檙 rhai sy鈥檔 daladwy yn Lloegr. Bydd yn galluogi trosglwyddo data Pridiannau Tir Lleol awdurdodau lleol Cymru i鈥檙 gofrestr ganolog.

Dywedodd Allison Bradbury, Pennaeth Gweithredu Pridiannau Tir Lleol:

Mae鈥檙 rhaglen Pridiannau Tir Lleol wedi gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi鈥檙 ymgynghoriad ar Bridiannau Tir Lleol (Ff茂oedd) a chyflwyno鈥檙 ddeddfwriaeth.

Bellach, mae gan awdurdodau lleol Cymru gyfle i elwa ar wasanaeth digidol wedi ei foderneiddio sy鈥檔 manteisio ar gyflymder a symlrwydd.

Mae鈥檙 gofrestr genedlaethol yn darparu budd uniongyrchol a pharhaol i brynwyr eiddo ac awdurdodau lleol. Mae prynwyr sy鈥檔 gofyn am chwiliad yn cael gwybodaeth ar unwaith, ar ffurf safonol hawdd ei darllen, am ffi sefydlog, gan ganiat谩u penderfyniadau amserol ac effeithiol. Mae鈥檙 set ddata gwbl ddigidol hefyd yn cefnogi meysydd gwasanaeth eraill awdurdodau lleol, sy鈥檔 lleihau baich gweithredol rhedeg gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol.

Fis Rhagfyr y llynedd, rhannwyd ein huchelgais i fudo holl gofnodion Pridiannau Tir Lleol awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i鈥檙 gofrestr genedlaethol erbyn 2025. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn dechrau mudo cofnodion cyntaf awdurdodau lleol Cymru. Bydd hyn yn golygu y bydd prynwyr eiddo yng Nghymru, cyn hir, yn gallu cyrchu canlyniadau chwiliadau Pridiannau Tir Lleol ar unwaith, yn seiliedig ar ddata geo-ofodol o ansawdd uchel. A gall awdurdodau lleol fanteisio ar yr holl fuddion y mae鈥檙 setiau data hyn yn eu cynnig. Bydd canlyniadau chwiliadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Gweler y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2021