Datganiad i'r wasg

Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol yn cael ei Lansio yng Nghymru

Cannoedd o bobl ifanc o鈥檙 Rhondda, Caerdydd, Abertawe a Chaerfyrddin yn gweithio gyda mudiad ieuenctid yr hydref hwn.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Rhaglen flaenllaw gan y llywodraeth i ennyn cyfranogaeth ieuenctid yw鈥檙 Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol (NCS), sydd wedi newid bywydau鈥檙 bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan. Wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau a gweithdai sy鈥檔 gwella eu hyder, ac sy鈥檔 dysgu amrywiaeth o sgiliau defnyddiol eraill iddynt, mae鈥檙 bobl ifanc yn datblygu yn ystod y rhaglen. Mae hyn yn arwain atynt yn rhoi rhywbeth yn 么l i鈥檞 cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i achos sy鈥檔 bwysig iddyn nhw.

Mae Gwasanaeth Dinasyddion Cymru yn cael ei ddarparu gan Engage4Life yn Abertawe ac sydd wedi bod yn cyflwyno鈥檙 rhaglen yn Lloegr ers iddo gael ei dreialu yn 2011.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Gareth Holohan:

Fel cwmni Cymreig, rydym yn hynod falch ein bod yn dod 芒鈥檙 Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol i Gymru. Mae grym y rhaglen yn anhygoel, ac rydym wedi gweld 芒鈥檔 llygaid ein hunain y newid ysbrydoledig yn y bobl ifanc a gymerodd ran.

Yr haf hwn, cododd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen dros 拢28 mil at elusennau ac achosion lleol mewn 3 wythnos yn unig, ysbrydoliaeth yn wir.

Mae鈥檙 rhaglen yn cychwyn heddiw wrth i鈥檙 holl gyfranogwyr fynd i ganolfan gweithgareddau鈥檙 Urdd yn Llangrannog, lle y byddant yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau megis abseilio, cerdded ceunentydd a rhaffau uchel, sy鈥檔 helpu i fagu hyder, hybu gwaith t卯m, a datblygu sgiliau arwain.

Byddant yn 么l yn eu cymunedau lleol ar ddydd Gwener, bydd Abertawe a Chaerfyrddin yn cymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau yn Stadiwm Liberty, tra bydd Caerdydd a鈥檙 Rhondda yn treulio鈥檙 diwrnod yn Nh欧 Opera Caerdydd. Byddant yn dod yn 么l at ei gilydd ar ddydd Sadwrn ar gyfer diwrnod Busnes ac Arloesi yng ngwesty godidog y Celtic Manor, gyda siaradwyr gwirioneddol wych o Gymru yn cynnwys Yr Athro Marc Clement a鈥檙 Athro Meirion Thomas. Ar ddydd Sul wedyn bydd y cyfranogwyr yn cyfarfod yn Stadiwm y Mileniwm am ddiwrnod, i gael clywed gan ffigyrau chwaraeon ysbrydoledig, i gymryd rhan mewn gweithdai cerddoriaeth a ffilm, ac i gwrdd ag elusennau a sefydliadau trydydd parti, gan gynnwys brandiau cenedlaethol a rhai o鈥檜 cymunedau lleol.

Byddant wedyn yn dychwelyd i鈥檞 cymunedau gyda th芒n yn eu boliau ac wedi鈥檜 hysbrydoli gan y profiadau maen nhw wedi鈥檜 cael, yn hyderus ac yn angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth i achos sy鈥檔 bwysig iddyn nhw. Mae prosiectau gwirioneddol arbennig wedi bod ar y rhaglen yn Lloegr, gyda chyfranogwyr yn trefnu gwyliau, yn peintio canolfannau cymunedol ac yn rhedeg triathlon, a hynny i gyd at achos da. Wrth i鈥檙 cyffro gynyddu ymysg y bobl ifanc, dylid bod prosiectau gwych i edrych ymlaen atynt dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Cymdeithas Sifil, Rob Wilson:

Mae鈥檔 wych bod gan gannoedd o bobl ifanc Cymreig gyfle bellach i fod yn rhan o鈥檙 Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol. Diolch i鈥檙 Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol mae dros 100,000 o bobl ifanc ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn chwarae mwy o ran yn eu cymunedau ac yn dysgu sgiliau a fydd ganddynt am weddill eu hoes.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Barwnes Randerson:

Mae Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol Cymru yn rhaglen arbennig sy鈥檔 rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru ddysgu sut y gall gweithio gydag eraill a phartneriaethau adeiladol roi canlyniadau.

Rwy鈥檔 si诺r y bydd y cannoedd o blant sy鈥檔 cymryd rhan yn y gweithgareddau a鈥檙 gweithdai yng Nghymru鈥檙 wythnos hon yn dysgu nifer o sgiliau gwerthfawr a fydd yn rhoi hyder iddynt i wireddu eu potensial a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.

Rwyf yn hynod o falch ein bod yn cefnogi鈥檙 Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol wrth chwarae eu rhan yn adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach.

Am fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol a鈥檙 gwahaniaeth y mae wedi ei wneud yn y cymunedau y cafodd ei gyflwyno iddynt, cysylltwch ag Engage4Life ar [email protected]

Testun Cyffredinol:

Sefydlwyd Engage4Life gyda gweledigaeth i ddarparu鈥檙 gwasanaethau, y sgiliau a鈥檙 phrofiadau sydd eu hangen ar unigolion i ddatblygu, i wireddu eu potensial ac i wneud cyfraniad i fywydau pobl eraill mewn ffordd gadarnhaol. Maent wedi bod yn gweithio gyda Swyddfa鈥檙 Cabinet ar y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol ers y cyfnod y cafodd ei dreialu ac felly mae ganddynt rai o鈥檙 aelodau mwyaf profiadol o yn y wlad yn y sefydliad. Fel y partner darparu mwyaf ymhob rhanbarth maent yn gweithio ynddo, maent yn parhau i chwarae r么l allweddol gydag Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol i ddatblygu鈥檙 arferion gorau wrth ddarparu rhaglen o safon uchel i鈥檙 holl gyfranogwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Hydref 2014