Datganiad i'r wasg

Mwy na hanner biliwn i gymru yng nghyllideb y Canghellor

Mae鈥檙 Canghellor wedi cyhoeddi heddiw y bydd Cymru yn elwa o dros hanner biliwn o bunnau o arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Budget 2018

Budget 2018

Mae鈥檙 Canghellor wedi cyhoeddi heddiw y bydd Cymru yn elwa o dros hanner biliwn o bunnau o arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ynghyd 芒 拢120 miliwn ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru.

Mae Cyllideb eleni yn ganlyniad i ddull cytbwys y llywodraeth o ddyrannu arian y wlad, sy鈥檔 golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru fwy o rym gwario a bydd ar yr un pryd yn gallu cadw trethi鈥檔 isel a lleihau dyled.

Mae cyhoeddiadau heddiw ar gyfer Cymru yn cynnwys:

  • Dros 拢550 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan olygu bydd ei chyllideb wedi cynyddu i dros 拢16.1 biliwn erbyn 2020.
  • 拢120 miliwn ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru, gan hyrwyddo buddsoddi, swyddi a ffyniant yn y rhanbarth.
  • Parhau i gefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, busnesau a chynghorwyr lleol i gytuno ar fargen
  • Cefnogi鈥檙 broses o ddarparu ffordd lliniaru i鈥檙 M4 trwy adolygu pwerau benthyca Llywodraeth Cymru
  • Rhoi鈥檙 rhyddid i gynghorau Cymru adeiladau rhagor o dai cyngor trwy ddileu鈥檙 cap benthyca ar gyfer tai
  • Penodi rheolwr dynodedig o Fanc Busnes Prydain yng Nghymru am y tro cyntaf i helpu i leihau anghydbwyseddau daearyddol o ran mynediad busnesau bychain at gyllid

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond:

Mae fy Nghyllideb yn cyfleu neges glir i bobl Cymru 鈥� mae eich gwaith caled yn dechrau creu buddion.

Diolch i Lywodraeth y DU a鈥檌 stiwardiaeth ofalus o鈥檙 economi, mae arian cyhoeddus mewn sefyllfa llawer cryfach ac mae dyled yn genedlaethol yn lleihau.

Mae hyn yn golygu bod gennym fwy o arian i鈥檞 fuddsoddi yn nyfodol Cymru - gan gynnwys 拢550 miliwn o arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru a 拢120 miliwn ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru.

Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cyllideb heddiw yn dangos graddfa uchelgais Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru.

Mae鈥檙 gefnogaeth glir ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru, adolygu鈥檙 capasiti benthyca ar gyfer prosiectau isadeiledd allweddol, a鈥檙 hanner biliwn o bunnau ychwanegol i gynyddu鈥檙 grym gwario, i gyd yn adlewyrchu Cyllideb sy鈥檔 cefnogi ffyniant Cymru yn y dyfodol.

Mae鈥檙 pecyn ehangach o gyhoeddiadau a wnaed heddiw yn dangos ein bod yn gwneud y pethau pwysig yn iawn - trwy gefnogi pobl weithgar a galluogi isadeiledd allweddol. Gyda鈥檌 gilydd, mae鈥檙 mesurau hyn yn dystiolaeth glir fod Llywodraeth y DU yn adeiladu ar sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol economaidd Cymru fel rhan o Deyrnas Unedig gryfach.

Cyflwynodd y Canghellor ei Gyllideb yn erbyn cyd-destun o newyddion economaidd positif ledled Cymru. Ers 2010, mae 151,000 yn fwy o bobl yng Nghymru mewn gwaith ac yn 2016 roedd gan Cymru un o鈥檙 cyfraddau twf cynhyrchiant uchaf yn y DU.

Bydd pobl Cymru hefyd yn elwa o fesurau i daclo costau byw:

  • Bydd y doll ar danwydd yn aros ar yr un gyfradd am y nawfed flwyddyn yn olynol. O ganlyniad i鈥檙 naw blynedd o rewi tollau tanwydd, erbyn mis Ebrill 2020, bydd gyrwyr ceir ar gyfartaledd wedi arbed 拢1,000 yr un dros y blynyddoedd o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 cynnydd blynyddol cyson cyn 2010.
  • Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol hefyd yn cynyddu y flwyddyn nesaf i 拢8.21 yr awr, ac mae oddeutu 81,000 o weithwyr yng Nghymru yn elwa o鈥檙 gyfradd bresennol. Bydd 20,000 ychwanegol o bobl hefyd yn elwa o newidiadau i鈥檙 Isafswm Cyflog, a fydd yn cynyddu hefyd i 拢7.70 yr awr.
  • Bydd y Lwfans Treth Personol yn cynyddu i 拢12,500 a bydd y trothwy cyfradd uwch hefyd yn codi i 拢50,000, a fydd yn golygu y bydd pobl yn gallu cadw cyfran fwy o鈥檙 arian maent yn ei ennill.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Hydref 2018