Datganiad i'r wasg

Dros 拢50m wedi鈥檌 gymeradwyo ar gyfer rhaglen carbon isel y Fargen Ddinesig

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cymeradwyo $58.7 miliwn ar gyfer rhaglen a fydd yn helpu i sefydlu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe fel arweinydd mewn twf carbon isel a鈥檙 economi werdd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gwerth 拢58.7 miliwn.

Bydd y rhaglen yn helpu i sefydlu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe fel arweinydd mewn twf carbon isel a鈥檙 economi werdd. Mae cydweithio agos 芒鈥檙 diwydiant, y llywodraeth a鈥檙 byd academaidd yn allweddol i lwyddiant y rhaglen drwy sicrhau twf economaidd carbon isel, cynaliadwy a chynhwysol drwy greu鈥檙 amgylchedd iawn i ddatblygu technolegau newydd o鈥檙 cam ymchwil hyd at y cam cynhyrchu, i gefnogi鈥檙 gwaith o greu swyddi yn y rhanbarth.

Dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru yn bartneriaid cyflenwi, nod y rhaglen hon yw cefnogi鈥檙 gwaith o greu a diogelu 1,320 o swyddi yn yr economi werdd drwy saith prosiect cysylltiedig a fydd yn gwella seilwaith, ymchwil a datblygu a masnacheiddio:

  • Canolfan Dechnoleg y Bae 鈥� adeilad ynni-bositif sy鈥檔 darparu swyddfa hyblyg o ansawdd uchel a gofod labordy
  • Canolfan Datgarboneiddio Diwydiant De Cymru 鈥� cyfleuster pwrpasol ac offer arbenigol i ddatgarboneiddio鈥檙 diwydiant dur a metel a鈥檙 gadwyn gyflenwi
  • Cyfleuster Gweithgynhyrchu Uwch 鈥� darparu mynediad agored i unedau cynhyrchu at offer arbenigol a rennir i gefnogi cwmn茂au newydd a thwf busnesau lleol yn y sectorau arloesi a gweithgynhyrchu sy鈥檔 gysylltiedig ag ynni ac ynni adnewyddadwy
  • Cronfa datblygu adeiladau 鈥� cyllid llenwi bwlch ar gyfer adeiladau masnachol pwrpasol ac adeiladau hapfasnachol yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot.
  • Prosiect ysgogi hydrogen 鈥� galluogi arddangoswr i brofi hyfywedd masnachol cyflenwad hydrogen di-garbon i gyflenwi tanwydd i gerbydau hydrogen.
  • Prosiect monitro ansawdd aer 鈥� profi technoleg newydd i sicrhau gwell dealltwriaeth o ansawdd aer a lefelau llygredd er mwyn cyfrannu at gynlluniau gweithredu lleol
  • Seilwaith gwefru cerbydau allyriadau isel 鈥� datblygu strategaeth i ddatgarboneiddio teithiau yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe a datblygu cynllun peilot yn ardal y Cymoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Bydd y cyllid yn darparu atebion i ddatgarboneiddio adeiladau masnachol a diwydiannol, trafnidiaeth a phrosesau diwydiannol a fydd yn cefnogi鈥檙 polis茂au a鈥檙 strategaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:

Mae鈥檙 fargen hon sy鈥檔 werth miliynau o bunnoedd yn hanfodol i greu swyddi ac annog ffyniant ar draws rhan fawr o Dde Cymru. Pan ymwelais ym mis Gorffennaf, gwnaeth y prosiectau sy鈥檔 gyrru鈥檙 symudiad tuag at economi fodern, carbon isel yng Nghymru argraff fawr arnaf. Rydw i鈥檔 falch iawn y bydd buddsoddiad llywodraeth y DU yn cefnogi鈥檙 twf hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Rydw i鈥檔 croesawu鈥檙 rhaglen hon yn fawr, sy鈥檔 golygu bod gennym bellach fwy o brosiectau a rhaglenni wedi鈥檜 cymeradwyo, a naill ai鈥檔 cael eu cyflawni neu鈥檔 barod i鈥檞 cyflawni, nag unrhyw ddinas neu fargen twf arall yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i鈥檙 gwaith rhagorol sy鈥檔 cael ei wneud i sicrhau ein bod yn cyflawni鈥檙 fargen ddinesig ar gyfer De Orllewin Cymru.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad gwerth hyd at 拢1.3 biliwn mewn portffolio o naw rhaglen a phrosiect mawr arall ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, a fydd gyda鈥檌 gilydd yn werth dros 拢1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi鈥檙 rhanbarth dros y blynyddoedd nesaf.

Mae鈥檙 Fargen Ddinesig, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y sector cyhoeddus a鈥檙 sector preifat, yn cael ei harwain gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth 芒 Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Medi 2021