Gweinidogion Llywodraeth y DU yng Nghymru i nodi Dydd y Cofio
Bydd Alun Cairns a Guto Bebb yn talu teyrnged i鈥檙 milwyr a laddwyd mewn gwasanaethau Dydd y Cofio ledled Cymru
Bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yng Nghymru yn eu tro yn achub ar y cyfle i fyfyrio ynghylch ymroddiad ac aberth y dynion a鈥檙 menywod sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sy鈥檔 gwneud hynny ar hyn o bryd, yn y digwyddiadau Dydd y Cofio a gaiff eu cynnal yng Nghymru bore yma (12 Tachwedd).
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynd i wasanaeth yn y Barri ar 么l mynychu agoriad y Maes Coffa yng Nghaerdydd yn gynharach yr wythnos hon. Bydd Guto Bebb yn mynd i wasanaeth yn Eglwys Sant Grwst, Llanrwst yn ei etholaeth.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ar adeg o gofio, talwn deyrnged i genedlaethau o ddynion a menywod y lluoedd arfog a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu ein gwlad, ac wrth amddiffyn ein rhyddid. Bydd pobl Cymru yn cofio鈥檔 anrhydeddus, gyda pharch a gwerthfawrogiad, am y rheini a aberthodd eu bywydau drosom.
Yn gynharach eleni, cefais y fraint o deithio i Wlad Belg i ymuno 芒 miloedd o ddisgynyddion milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer digwyddiadau canmlwyddiant Brwydr Passchendaele. Cefais fy synnu cynifer o filwyr o Gymru a laddwyd yno - milwyr a chwaraeodd ran allweddol ar un o feysydd brwydro mwyaf gwaedlyd y rhyfel.
Heddiw, wrth i ni blygu pen mewn distawrwydd, fe gofiwn ni am y rhai a aberthodd eu bywydau ar gyfer y rhyddid rydym ni i gyd yn ei fwynhau heddiw. Fe gofiwn ni hefyd am yr aelodau hynny o鈥檙 Lluoedd Arfog sy鈥檔 gwasanaethu i ffwrdd o鈥檜 hanwyliaid, yn amddiffyn ein gwerthoedd, ein democratiaeth a鈥檔 cenedl.
Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU:
Heddiw, bydd miloedd o bobl ledled Cymru yn gwisgo eu pabi gyda balchder, ac yn ymgynnull ger cofebion rhyfel i nodi aberth ein milwyr ar draws y byd.
Mae ein dyled o ddiolchgarwch i鈥檙 rhai sy鈥檔 gwasanaethu heddiw, ac i鈥檙 rhai na ddaeth yn 么l adref, yn anfesuradwy, a heddiw rydym yn dweud diolch. Fe鈥檜 cofiwn.
Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi araith yng ngwobrau鈥檙 Lluoedd Arfog yng Nghymru ar 30 Tachwedd, digwyddiad sy鈥檔 dathlu cyflawniad yr unigolion sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf eithriadol at amddiffyn yn 2017.