Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn ymweld 芒 phrosiectau trafnidiaeth trawsnewidiol

Mae David TC Davies, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, wedi ymweld ag un o brosiectau鈥檙 Metro Plus sy鈥檔 cael ei adeiladu yng nghymoedd De Cymru ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 Truss Conservative government
Site of the Porth Transport Hub

Bydd Cyfnewidfa Drafnidiaeth Y Porth yn gwella cyfleusterau ar gyfer teithwyr ar fysiau a threnau ac yn creu porth i ganol tref Y Porth. Bydd y cynllun yn cynnwys 7 bae bysiau gweithredol, 2 le parcio dros dro a鈥檙 gallu i wefru cerbydau trydan.

Mae鈥檙 prosiect yn rhan o Raglen Metro Plus 鈥� rhaglen gwerth 拢50 miliwn o gynlluniau sy鈥檔 cefnogi cynllun ehangach Metro De Cymru, a fydd yn trawsnewid trafnidiaeth a theithio ar draws y rhanbarth ehangach.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyfrannu 拢125m at Fetro De Cymru drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ar ben hynny, mae prosiect Cyfnewidfa Drafnidiaeth Y Porth wedi cael 拢3.5m o Gronfa Codi鈥檙 Gwastad gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David TC Davies:

Mae鈥檔 wych gweld y gwaith adeiladu鈥檔 mynd rhagddo ar brosiectau a fydd o fudd enfawr i鈥檙 ardal a鈥檌 phobl a鈥檌 busnesau. Mae system drafnidiaeth fodern, werdd, ddi-dor yn hanfodol i gefnogi swyddi a ffyniant, ac mae Llywodraeth y DU yn falch o helpu i ariannu鈥檙 gwaith hwn.

Mae鈥檙 Metro yn brosiect uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd i integreiddio rheilffyrdd, bysiau, beicio a cherdded, gwella cysylltedd a gwneud teithio cynaliadwy yn haws ar draws De Cymru. Mae鈥檙 prosiectau鈥檔 amrywiol iawn; o sefydlu cyfleusterau parcio a theithio newydd gyda phwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y safle, i gyfnewidfeydd rheilffyrdd a bysiau newydd gyda lle diogel i barcio beiciau a mynediad haws. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, bydd seilwaith newydd yn galluogi 20% o gymudwyr y brifddinas i deithio ar fws erbyn 2030.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Rhys Thomas:

Mae gweddnewid ein seilwaith, ein cysylltedd a鈥檔 dull trafnidiaeth yn gwbl hanfodol i gynaliadwyedd a llwyddiant De-ddwyrain Cymru yn y dyfodol. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn rhaglenni fel Metro Plus, gan eu bod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyfrannu at yr uchelgais hwn. Mae Canolfan Drafnidiaeth Y Porth yn enghraifft wych o鈥檙 rhaglenni trawsnewidiol sy鈥檔 ail-lunio ein rhanbarth. Mae鈥檔 gatalydd ar gyfer adfywio canol tref Y Porth, gan ddod 芒 gwasanaethau bysiau a threnau at ei gilydd am y tro cyntaf, a gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn llawer mwy hygyrch 鈥� gan wneud gwahaniaeth go iawn i bobl Y Porth.

Dywedodd Aelod Cabinet Rhondda Cynon Taf dros Ddatblygu a Ffyniant, y Cynghorydd Mark Norris:

Mae鈥檙 gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i gefnogi swyddi a ffyniant yn Ne Cymru. Mae鈥檙 rhanbarth yn cyfrif am oddeutu 50% o gyfanswm cynnyrch economaidd Cymru, ac mae鈥檔 gartref i bron hanner cyfanswm poblogaeth y wlad.

Bydd sicrhau bod seilwaith yn addas ar gyfer y dyfodol yn cael effaith economaidd sylweddol, gan wella bywydau a helpu i gyflawni nod Llywodraeth y DU o godi鈥檙 gwastad mewn cymunedau.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Hydref 2022