Gweinidog Davies yn ymweld 芒 phrosiect Morol Doc Penfro sy鈥檔 mynd i'r afael 芒 newid hinsawdd wrth hybu economi Rhanbarth Bae Abertawe
Bydd y prosiect yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU ac yn cynhyrchu mwy na 1,800 o swyddi i'r rhanbarth

Minister Davies visits Pembroke Dock Marine project
Ymwelodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, 芒 phrosiect Morol Doc Penfro, lle clywodd am y datblygiad ynni morol gwerth 拢60 miliwn a fydd yn helpu i fynd i鈥檙 afael 芒 newid yn yr hinsawdd ac ehangu economi carbon isel y rhanbarth.
Yn ystod ei ymweliad ar ddydd Iau (27 Awst), clywodd Gweinidog Davies sut y gallai prosiect Morol Doc Penfro, a fydd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gynhyrchu 拢73.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe a chreu mwy na 1,800 o swyddi yn y 15 mlynedd nesaf.
Cymeradwyodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yr achos busnes ar gyfer y datblygiad yn ddiweddar fel rhan o Fargen Dinas Bae Abertawe, gan alluogi鈥檙 prosiect ynni gl芒n i ddatblygu.
Tra鈥檌 fod yn y porthladd, clywodd Mr Davies sut y bydd y datblygwyr yn ehangu ar y sylfaen cyfleusterau a sgiliau sefydledig y rhanbarth i sicrhau鈥檙 effeithlonrwydd a鈥檙 arloesedd mwyaf posibl er mwyn lleihau cost ynni morol.
Meddai David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:
Gan weithio law yn llaw 芒 llywodraeth leol a busnesau, rydym yn helpu i greu cyfleoedd economaidd newydd a chyffrous yn ne-orllewin Cymru.
Bydd prosiect Morol Doc Penfro nid yn unig yn rhoi hwb economaidd sylweddol i鈥檙 rhanbarth ond bydd hefyd yn helpu i roi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg ynni morol.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi adferiad economaidd gwyrdd a gwydn ac edrychaf ymlaen at weld sut mae鈥檙 datblygwyr yn defnyddio cyllid Llywodraeth y DU i gyflymu鈥檙 prosiect hwn.
Mae prosiect Morol Doc Penfro yn cynnwys pedair prif elfen: Canolfan Ragoriaeth Ynni a Pheirianneg y M么r, Seilwaith Doc Penfro, Parth Arddangos Sir Benfro ac Ardal Brawf Ynni Morol.