Datganiad i'r wasg

Miliynau o deithwyr yn elwa o Wi-Fi am ddim y Llywodraeth ar drafnidiaeth gyhoeddus

Dros 100,000 o ddefnyddwyr yng Nghymru yn defnyddio'r gwasanaeth

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Free wi-fi

Mae鈥檙 siwrnai i鈥檙 gwaith i filiynau o bobl ar draws y DU wedi gwella oherwydd bod Wi-Fi am ddim wedi cael ei osod ar fysiau, trenau a thramiau fel rhan o fenter dinasoedd Cysylltiad Cyflym y Llywodraeth

Mae dros filiwn o ddefnyddwyr unigryw yn defnyddio鈥檙 gwasanaeth yn rheolaidd, gan ddefnyddio鈥檙 Wi-Fi sydd ar gael am ddim i gael y penawdau newyddion diweddaraf, taro golwg ar ragolygon y tywydd, pori鈥檙 rhyngrwyd, anfon negeseuon e-bost a defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar eu siwrnai yn 么l ac ymlaen i鈥檙 gwaith.

Mae cannoedd o fysiau a thramiau mewn naw dinas ar draws y DU (Leeds, Bradford, Rhydychen, Manceinion, Salford, Caerefrog, Caeredin, Caerdydd a Chasnewydd) nawr yn gallu darparu Wi-Fi am ddim i鈥檙 cyhoedd. Mae鈥檙 ffigurau diweddaraf o ran y niferoedd sy鈥檔 defnyddio鈥檙 gwasanaeth, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos pa mor boblogaidd ydy鈥檙 cynllun.

Yng Nghymru, mae teithwyr yng Nghaerdydd a Chasnewydd wedi croesawu鈥檙 cynllun sydd nawr ar waith yn y naill ddinas a鈥檙 llall. Yng Nghaerdydd, mae Wi-Fi am ddim ar gael ar 224 o fysiau ac mae 112 o fysiau yng Nghasnewydd nawr yn cynnig y gwasanaeth. Hyd yn hyn bu dros 1,100,000 o sesiynau defnyddwyr yng Nghaerdydd yn unig, gyda defnyddwyr yn treulio 23 munud ar-lein ar gyfartaledd bob tro maen nhw鈥檔 mewngofnodi.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae pobl yng Nghymru yn dibynnu ar fynediad i gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy lle bynnag y b么nt 鈥� nid yn unig er mwyn gwneud busnes, ond i siopa, bancio a chadw mewn cysylltiad 芒 ffrindiau a theulu.

Mae darparu mynediad o ansawdd uchel i鈥檙 rhyngrwyd yn hollbwysig er mwyn tyfu ein heconomi. Drwy gynllun arloesol y llywodraeth, mae teithwyr sy鈥檔 defnyddio systemau bysiau Caerdydd a Chasnewydd yn gallu teithio o amgylch y ddinas gan gadw eu cysylltiad 芒鈥檙 rhyngrwyd. Mae hyn yn rhan o鈥檔 huchelgais i Gymru fod yn wlad sydd 芒鈥檙 cysylltiadau gorau yn y byd a鈥檌 bod yn lle gwych ar gyfer busnes.

Yn ogystal 芒 darparu Wi-Fi am ddim i鈥檙 cyhoedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, roedd y rhaglen Dinasoedd Cysylltiad Cyflym wedi gosod Wi-Fi am ddim i鈥檙 cyhoedd mewn dros 1,000 o adeiladau mewn 22 dinas ar draws y DU. Nod y rhaglen oedd helpu dinasoedd i ddatblygu鈥檙 seilwaith digidol sydd ei angen er mwyn gallu cystadlu鈥檔 rhyngwladol a bod yn fannau deniadol ar gyfer buddsoddi, ymweld a chynnal busnes.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2015